Neidio i'r prif gynnwy

'Roedd fy nhad mor sâl, roedden ni'n meddwl ein bod yn ffarwelio am y tro olaf. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, roedd yn cerdded gyda fi at yr allor ar ddiwrnod fy mhriodas'

23 Ionawr 2024

Pan gafodd Ian Hampson ei roi mewn coma a ysgogwyd yn feddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Hydref 2022, roedd ei deulu yn ofni’r gwaethaf.

Aethpwyd â’r tad i chwech o blant, sydd â hanes o broblemau â’i ysgyfaint, i’r adran gofal critigol ar ôl i haint ar ei frest ddatblygu i fod yn niwmonia, sepsis ac yna’n sioc septig a arweiniodd at nifer o’i organau’n methu.

Ond yn groes i’r disgwyl, fe lwyddodd y dyn 72 oed i oroesi’r cyfan a gwneud adferiad mor wyrthiol fel ei fod wedi gallu cerdded gyda’i unig ferch at yr allor ar ddiwrnod ei phriodas 12 mis yn unig ar ôl cael ei ryddhau.

“Roedd yna adegau pan oeddwn i’n meddwl efallai na fyddai’n goroesi, felly roedd yn hynod arbennig ei fod yno ar ddiwrnod fy mhriodas ac yn gallu gwneud yr hyn y mae pob tad balch yn ei wneud,” meddai merch Ian, Kate Hampson, a briododd ei gŵr James ar 30 Rhagfyr, 2023.

Roedd Ian, a gafodd ei ddisgrifio fel dyn ymarferol iawn sydd wrth ei fodd yn trwsio a chreu pethau, wedi cwyno am ddiffyg anadl difrifol a dechreuodd besychu gwaed, felly penderfynodd gysylltu â’i Feddyg Teulu ac fe gafodd ei atgyfeirio i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Ond o fewn 12 awr yn unig, roedd ei gyflwr wedi gwaethygu cymaint fel ei fod angen y lefel uchaf o ofal meddygol.

Meddai Kate, sy’n gweithio fel bydwraig i BIP Caerdydd a’r Fro: “Pan sylweddolon ni pa mor ddifrifol oedd ei gyflwr, roedden ni’n gwybod bod angen i ni wahodd y teulu i gyd i’r ysbyty i’w weld. Roeddwn i yno gyda mam yn barod, ond mae gen i bump brawd hefyd, felly roedd yn rhaid i ni greu rota a chymryd tro i fod wrth ei ochr. Roedd cyfyngiadau Covid yn eu lle felly dim ond dau ohonom allai fod yno ar y tro.

“Roedd y staff gofal critigol yn wych. Os oedd angen rhywbeth ar fy nhad, fel sgan CT, byddai’n ei gael ar unwaith. Roedden ni wir yn teimlo ei fod yn cael y gofal gorau. Roedd y staff yn hynod garedig i ni i gyd, yn enwedig gan ein bod ni’n deulu mawr.

“Roedd yn rhaid cael sgyrsiau anodd iawn gyda nhw am ofal Dad, a gafodd eu trin yn ystyriol ac yn onest. Esboniwyd popeth i ni.”

Yn dilyn pythefnos brawychus yn uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru, lle bu sawl newid o ran ei gyflwr, daethpwyd ag Ian allan o’i goma. Yna cafodd ei drosglwyddo i ward B7 bythefnos yn ddiweddarach i ddechrau ar ei gyfnod hir o adferiad.

Nid yn unig na allai eistedd i fyny yn y gwely, ond roedd ganddo gathetr ac roedd angen ei fwydo â llwy.

“Ar ward B7, roedd y ffisiotherapyddion yno bob dydd yn gweithio gydag ef i’w helpu i wella ac i sefyll ar ei draed eto. Fe wnaethon nhw fuddsoddi eu hamser ynddo o ddifrif. Roedden nhw’n wir yn ei annog ei wella,” ychwanegodd Kate.

Ar 22 Rhagfyr, 2022, anfonodd Ian, cyn-beiriannydd BT, neges at ei deulu i ddweud ei fod yn cael ei ryddhau o Ysbyty Athrofaol Cymru mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

“[Roedd cael ei ryddhau mewn pryd ar gyfer y] Nadolig yn annisgwyl iawn ond yn sypreis hyfryd,” ychwanegodd Kate. “Mae’n gwneud yn dda iawn nawr. Mae’n seiclo o amgylch Bae Caerdydd ac, er

ei fod weithiau’n fyr ei anadl, os ydyn nhw byth yn poeni am ei frest mae’n cael ei weld yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn syth.”

“Rhagorol” oedd y gair a ddefnyddiodd Ian i ddisgrifio ei ofal a dywedodd fod cael ei rhyddhau cyn 25 Rhagfyr, 2022 yn sbardun iddo. Ailymwelodd â ward B7 yn ddiweddar i ddiolch yn bersonol i lawer o’r staff.

“Fyddai dim ots faint oedden nhw’n cael eu talu, fydden nhw ddim wedi gallu gwneud gwaith gwell,” meddai. “Yn amlwg, nid yw’n rhywbeth yr hoffwn ei wynebu eto, ond roedd yn brofiad mor gadarnhaol o ran y bobl oedd yn delio â mi.

“Rwy’n llawn edmygedd tuag atynt, o’r dyn sy’n ysgubo’r llawr hyd at y meddygon ymgynghorol.”

Priododd Kate a’i gŵr James yn Eglwys Beulah, Rhiwbeina, ar 30 Rhagfyr, gyda derbyniad i ddilyn yn Pencoed House yng Nghapel Llanilltern. Maen nhw newydd ddychwelyd o fis mêl pum niwrnod yn Efrog Newydd.

Dilynwch ni