Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddwr bôn-gelloedd o Sweden yn cwrdd â derbynnydd o Gymru ac yn mynd ar daith i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl rhodd wnaeth achub bywyd

7 Hydref 2024

Yn 2019, cafodd Martyn ddiagnosis o Lewcemia Myeloid Acíwt. Ar ôl cael disgwyliad oes o 1-2 flynedd, roedd yn gwybod mai'r unig ffordd i oroesi oedd derbyn trawsblaniad bôn-gelloedd.

Rhwystr cyntaf Martyn oedd cwblhau cemotherapi dwys ac anodd a chael gwybod bod y clefyd wedi lleddfu. Yr ail rwystr fyddai dod o hyd i roddwr fyddai’n cyfateb.

Yn anffodus, nid oedd brodyr a chwiorydd Martyn yn rhoddwyr addas, a oedd yn golygu y byddai angen iddo dderbyn rhodd bôn-gelloedd gan ddieithryn. Eglura’r Hematolegydd Ymgynghorol a dirprwy gyfarwyddwr y rhaglen Dr Wendy Ingram;

“Os oes gennych chi frawd neu chwaer, mae dim ond 1 mewn 4 siawns y byddan nhw’n cyfateb. Mae’n hollol ar hap, efallai mai dim ond un brawd neu chwaer sydd gennych chi a gallen nhw fod yn cyfateb neu fe allech chi fod â 10 o frodyr a chwiorydd a does dim un ohonyn nhw’n cyfateb ac felly mae’r trawsblaniadau gan roddwyr nad ydynt yn perthyn yn hanfodol i gynnig iachâd i gleifion.”

Aeth Martyn ymlaen i gwblhau dwy rownd o gemotherapi er mwyn lleddfu’r clefyd cyn iddo gael gwybod bod rhywun a oedd yn cyfateb wedi’i ganfod ar ei gyfer. Bryd hynny, nid oedd gan Martyn unrhyw syniad y byddai ei rodd yn dod ar draws Môr y Gogledd o Sweden.

Gall trawsblaniadau bôn-gelloedd fod yn gyfnod heriol iawn i gleifion yn gorfforol ac yn feddyliol, gan eu bod yn treulio 3-4 wythnos ar eu pen eu hunain ar ôl trawsblaniad, i ffwrdd oddi wrth eu hanwyliaid.

Wrth siarad am ei drawsblaniad esbonia Martyn;

“Roedd yn drawmatig, ond mewn ffordd roedd yn hawdd oherwydd y bobl oedd o’m cwmpas. Rwy’n adnabod y nyrsys yn ôl eu henwau cyntaf ac maent yn rhan o fy nheulu a dweud y gwir.”

Un o'r nyrsys hynny yw Emily John, nyrs glinigol arbenigol yn y tîm trawsblannu gwaed a mêr a therapi CAR-T;

“Fe wnes i a’m cydweithwyr Leah a Leanne drwytho’r bôn-gelloedd a chyflawni trawsblaniad Martyn. Mae'n bleser bod yno i gleifion ar ddiwrnod y trwythiad oherwydd mae'n crynhoi’r daith y maent wedi bod arni ac mae'n ymdeimlad gwych o gyflawniad i'r cleifion gyrraedd y diwrnod trwytho - mae fel diwrnod cyntaf gweddill eu bywydau.”

Roedd Martyn yn awyddus i gysylltu â'i roddwr i ddiolch iddo am achub ei fywyd. Ar ôl dwy flynedd a chyda chaniatâd y rhoddwr a'r derbynnydd, gallwch gysylltu â'ch gilydd ac os ydych chi'n ddigon ffodus, cwrdd yn bersonol.

Ym mis Awst, gwnaeth y rhoddwr bôn-gelloedd, Oscar, y daith o Sweden i gwrdd â Martyn a'i deulu. Roedd hwn yn gyfle unwaith mewn oes, ac roedd Martyn eisiau dangos i Oscar lle cafodd y driniaeth a wnaeth achub ei fywyd a’r tîm clinigol a wnaeth y cyfan yn bosibl.

Dechreuodd y rhaglen drawsblannu yng Nghaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi ym 1983 a dathlodd ei phen -blwydd yn 40 oed y llynedd. Ers hynny, mae'r rhaglen wedi cwblhau dros 3,000 o drawsblaniadau ar gyfer oedolion a phlant.

Pan ofynnwyd iddo sut roedd yn teimlo am wneud y daith i Gaerdydd a chwrdd â derbynnydd ei fôn-gelloedd am y tro cyntaf, dywedodd Oscar;

“Rwy’n meddwl ei fod yn brofiad swreal. Mae cwrdd ag ef a dod yma wedi rhoi ystyr i fywyd a gwerthfawrogiad dwfn a dwys. Dyma hanfod bywyd.”

Eglurodd Oscar fod dod yn rhoddwr bôn-gelloedd bob amser wedi bod yn beth amlwg iddo ei wneud;

“Dywedodd fy ffrind wrthyf am roi bôn-gelloedd. Derbyniais becyn swab ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach cysylltwyd â mi i ddweud bod yna rhywun a oedd yn cyfateb ac i ofyn i mi a oeddwn am symud ymlaen. Mae'n benderfyniad mawr, ond doedd dim ots a fyddai'n anodd ai peidio oherwydd ni allwn ddweud na. Roedd yn teimlo'n hawdd oherwydd ei fod yn ddewis amlwg. Gallwch chi helpu i achub bywyd rhywun a phe bawn i yn y sefyllfa honno hoffwn i'r un peth ddigwydd i mi."

Fel cyn-filwr, mae bod yn actif yn bwysig iawn i Martyn. Byddai ei drefn ddyddiol cyn ei ddiagnosis o ganser yn golygu milltiroedd o gerdded bob dydd gyda'i springer spaniels, rhywbeth na allai ei wneud mwyach pan oedd yn dioddef o AML.

Wrth siarad am ei ffitrwydd ar ôl y trawsblaniad dywedodd Martyn;

“Diolch byth, mae fy ffitrwydd bellach wedi cynyddu a gallaf ddechrau cerdded a gwneud popeth rydw i eisiau ei wneud. Sydd yn wych. Dwi bob amser wedi bod yn berson gweithgar felly mae'n anodd iawn peidio â bod. Ni allaf eistedd i lawr bob dydd a gwylio'r teledu. Mae'n rhaid i mi fod allan yn gwneud pethau. Boed yn waith tŷ, garddio, smwddio, golchi a phob peth felly. Rwy’n cellwair ond y gwir amdani yw fy mod yn ôl lle rwyf eisiau bod.”

Ni fyddai Martyn wedi goroesi heb ei drawsblaniad a rhodd anhunanol Oscar ac mae’n annog unrhyw un i gymryd rhan;

“Os nad oedd yna bobl fel Oscar allan yna, fyddwn i ddim yma heddiw.” Byddwn i’n gofyn i unrhyw un, ewch ati i gofrestru os allwch chi, ac os cewch eich galw, ewch ati i roi.”

Dr Keith Wilson, Hematolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr y rhaglen drawsblannu

“Dim ond 20 i 30% o gleifion sydd angen rhoddwr fydd yn dod o hyd i un o fewn eu teulu eu hunain. Dewch i ymuno â’r parti, dewch i achub bywyd a bydd yn un o’r pethau gorau y byddwch wedi’i wneud erioed.”

Dilynwch ni