18 Medi 2023
Disgrifiodd Anne Keeling y profiad o roi aren i ddieithryn fel un o gyflawniadau mwyaf ei bywyd. Mae’r ddynes 59 oed, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn dweud bod y profiad yr un mor arwyddocaol â magu teulu a’i gyrfa lwyddiannus yn y maes cyfathrebu.
“Mae'n un o'r pethau gorau rydw i erioed wedi'i wneud - ac rydw i wedi magu pedwar o blant, rhywbeth rydw i'n hynod falch ohono,” meddai. “Pan fydda’ i’n egluro i bobl beth rydw i wedi’i wneud, yn aml dydyn nhw ddim yn gwybod ei fod yn bosibilrwydd, felly rwy’n meddwl bod lledaenu’r neges honno y gallwch chi fyw bywyd normal, iach gydag un aren yn hynod bwysig.”
Dywedodd Anne, sy’n byw ym Mhenarth, fod ganddi ddau reswm personol iawn dros fod eisiau rhoi yn y lle cyntaf. Pan oedd hi’n cael ei magu, roedd yn ymwybodol bod ei hewythr wedi marw yn 16 oed, ond nid oedd yn deall pam nes iddi ddod yn oedolyn.
“Fe wnes i ddarganfod bod ganddo fethiant yr arennau, dim ond o gael y ffliw,” esboniodd. “Roedd hyn yn ôl yn y 1950au pan nad oedd dialysis na llawer o gefnogaeth ar gyfer methiant yr arennau. Cafodd y ffaith iddo farw mor ifanc effaith sylweddol ar fy mam a’m mam-gu a thad-cu. Wrth i mi fynd yn hŷn a chael plant fy hun, sylweddolais y dylanwad enfawr y byddai colli plentyn yn gallu ei gael.
“Yna yn y brifysgol cwrddais â ffrind da oedd â chlefyd genetig yr arennau. Daeth yn uwch arweinydd mewn ysgol ger Leeds ac roedd yn cael dialysis dair gwaith yr wythnos ar yr un pryd, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn anhygoel. Yna bu'n rhaid iddi gael aren newydd ac roedd ar y rhestr aros am amser hir. O'r diwedd cafodd wybod fod aren wedi cael ei rhoi iddi, a chafodd dipyn o frwydr wrth i’r corff wrthod yr aren, ond fe wnaeth pethau setlo gydag amser.
“Doedd hi erioed wedi gwneud llawer o chwaraeon, ond fe wnaeth ei llawfeddyg argymell ei bod hi’n nofio a dechreuodd gystadlu mewn rasys bach iawn. Yna nofiodd i Loegr yng Ngemau’r Trawsblaniadau ac enillodd lwyth o fedalau. Gwelais y trawsnewid hwn ynddi - mae hi'n berson anhygoel a hi wnaeth fy ysbrydoli i roi fy aren fy hun i rywun."
Unwaith yr oedd ei mab ieuengaf wedi gorffen yn y brifysgol yn 2018, penderfynodd Anne gofrestru i fod yn rhoddwr anhunanol. Yna cafodd ei rhoi mewn cysylltiad â’r tîm rhoddion byw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i gael sgyrsiau cychwynnol am drawsblaniad posibl.
“Roedden nhw’n amyneddgar iawn gyda fy nghwestiynau, roedden nhw’n glir am bob cam o’r broses ac yn rhoi’r holl wybodaeth roeddwn i ei heisiau,” ychwanegodd. “Fe wnes i brofion seicolegol er mwyn iddyn nhw gael gwell dealltwriaeth o pam roeddwn i eisiau ymgymryd â’r broses hon. Roeddwn i wedi cael trafodaethau gyda fy mechgyn am y peth ac roedden nhw’n gefnogol iawn.”
Dywedodd Anne, sy'n caru yoga, fod ei haren a'i hiechyd cyffredinol wedi'u hasesu'n drylwyr, cyn iddi gael galwad ym mis Ionawr 2021 i gadarnhau bod cyfatebiaeth wedi'i chanfod. “Roedd yn eithaf rhyfedd gan fod cyfyngiadau Covid yn dal yn eu lle - ond cefais fy nhrin fel VIP. Cefais gymaint o gefnogaeth a gofal,” ychwanegodd.
“Es i mewn ganol y bore [ar gyfer y llawdriniaeth] ac roeddwn yn effro erbyn ganol y prynhawn ac yn symud o gwmpas yn araf y noson honno. Yr un peth na siaradodd neb amdano mewn gwirionedd oedd faint o aer sy'n cael ei bwmpio i'ch stumog ar gyfer y llawdriniaeth sy'n creu anghysur am tua wythnos wedyn. Des i o hyd i ymarferion ioga ar-lein i’w gwneud ar ôl cael llawdriniaeth abdomenol ac roedd hyn yn help mawr. Ond y diwrnod ar ôl y llawdriniaeth roeddwn yn cerdded allan o’r ysbyty ac yn gallu teithio yn ôl adref.”
Ddwy flynedd a hanner ar ôl y llawdriniaeth, dywedodd Anne ei bod wedi gallu byw bywyd hollol normal heb unrhyw gymhlethdodau. Mae hi bellach yn cael archwiliad iechyd unwaith y flwyddyn am weddill ei hoes.
“Does gen i ddim synnwyr mai dim ond un aren sydd gen i. Nid yw erioed wedi bod yn broblem - a dyw fy nghorff i ddim yn edrych yn wahanol,” meddai. “Ni wnaeth fy lefelau ffitrwydd ostwng, roeddwn yn ôl yn rhedeg ac yn gwneud llawer o chwaraeon o fewn ychydig wythnosau.”
Yn ystod ei sesiynau cynghori cyn y llawdriniaeth, dywedwyd wrth Anne ei bod yn bosibl na fyddai byth yn darganfod derbynnydd ei haren oherwydd efallai na fyddent am gyfathrebu â'u rhoddwr. “Rwyf wedi ysgrifennu llythyr a aeth i ffeil y person wnaeth dderbyn yr aren, ond nid wyf yn gwybod a ydynt am ei gael ac rwy'n gwbl gyfforddus â hynny. Y cyfan rwy’n ei wybod yw bod eu llawdriniaeth wedi mynd yn dda iawn a bod fy aren yn ddigon iach i fynd i mewn i rywun ifanc.”
Mae dydd Llun, 18 Medi i ddydd Sul, 24 Medi yn nodi Wythnos Rhoi Organau, ymgyrch saith diwrnod sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r angen parhaus am roddwyr organau. Mae tua thraean o’r holl drawsblaniadau aren a wneir yn y DU gan roddwyr byw, ac mae tua 1,100 o lawdriniaethau o’r fath yn cael eu cyflawni bob blwyddyn.
Y llynedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, roedd 48 o drawsblaniadau rhoddwyr aren byw – y nifer uchaf erioed i’r tîm. Fodd bynnag, dim ond pedwar ohonynt oedd yn anhunanol.
Dywedodd Anne: “Mae’r tîm sy’n ymroddedig i roi organau [yn Ysbyty Athrofaol Cymru] yn gwbl hanfodol, oherwydd pe na bawn i wedi cael y gefnogaeth honno yn arwain at y driniaeth - a oedd dros ychydig o flynyddoedd - ni fyddwn wedi teimlo mor ddiogel yn wynebu’r broses. Rwy’n dal i deimlo fy mod yn cael gofal ganddyn nhw.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio’r posibilrwydd o ddod yn rhoddwr aren byw, gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy edrych yma neu gallwch gysylltu â’r tîm rhoddwyr byw yng Nghaerdydd drwy e-bostio live.donor.cav@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am drawsblaniadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, edrychwch yma.