14 Chwefror 2024
Bydd disgyblion 12 ac 13 oed mewn ysgolion uwchradd yn derbyn brechiad pwysig yn ystod yr wythnosau nesaf i’w hamddiffyn rhag sawl math o ganser.
Bydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion Caerdydd a’r Fro yn cynnig y brechiad HPV i blant ym Mlwyddyn 8, ynghyd â’r disgyblion ym Mlwyddyn 9, 10 ac 11 a gollodd y cyfle i’w gael ym Mlwyddyn 8.
Y feirws papiloma dynol, neu HPV, yw’r enw a roddir i grŵp o fwy na 100 o firysau sydd fel arfer yn cael eu trosglwyddo trwy gysylltiad croen â chroen.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio â HPV yn clirio’r feirws o’u corff ac ni fyddant yn mynd yn sâl ond, i eraill, gall achosi dafadennau gwenerol neu hyd yn oed ddatblygu i fod yn rhai mathau o ganser, gan gynnwys canser ceg y groth ymhlith menywod, a chanserau’r pen a’r gwddf sydd fwyaf cyffredin ymhlith dynion.
Credir bod haint HPV yn achosi tua 5% o’r holl ganserau ledled y byd, ac mae mwy na 95% o achosion canser ceg y groth yn deillio o HPV a drosglwyddir yn rhywiol. Fel arfer, nid oes gan HPV unrhyw symptomau ac felly gan nad yw’r person sydd wedi’i heintio yn gwybod ei fod ganddo, dyma’r rheswm ei fod mor hawdd ei drosglwyddo.
Mae’r brechiad HPV a ddarperir mewn ysgolion yn ddiogel ac yn effeithiol iawn wrth leihau’r risg o gael HPV, ac fe’i gweinyddir gan weithwyr proffesiynol imiwneiddio nyrsio wedi’u hyfforddi mewn un pigiad yn rhan uchaf y fraich.
Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae’r brechlyn wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% ymhlith menywod yn eu 20au. Disgwylir y bydd y brechlyn yn y pen draw yn achub miloedd o fywydau bob blwyddyn ledled y DU.
Bydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion Caerdydd a’r Fro yn ymweld ag ysgolion uwchradd ar y dyddiadau canlynol:
6 Chwefror - Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
7 Chwefror - Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
9 Chwefror - Coleg St John’s
9 Chwefror - Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant
20 Chwefror - Ysgol Uwchradd Caerdydd
21 Chwefror - Ysgol Stanwell
22 Chwefror - Ysgol Greenhill
22 Chwefror - Bryn y Deryn / Carnegie
22 Chwefror - Nyth y Deryn
23 Chwefror - Ysgol Plasmawr
27 Chwefror - Ysgol Uwchradd Willows
28 Chwefror - Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
28 Chwefror - Ysgol Bresbyteraidd Trelái
28 Chwefror - Tŷ Gwyn (diwrnod 1)
5 Mawrth - Ysgol y Deri (diwrnod 1)
6 Mawrth - Ysgol Glantaf
7 Mawrth - Ysgol Uwchradd Cathays
12 Mawrth - Ysgol Uwchradd Llanisien
13 Mawrth - Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
13 Mawrth - Tŷ Gwyn (diwrnod 2)
14 Mawrth - Ysgol Eastern High
19 Mawrth - Ysgol Uwchradd Cantonian
20 Mawrth - Ysgol Bro Edern
21 Mawrth - Ysgol Uwchradd Pencoedtre
*************************
GWYLIAU’R PASG
*************************
9 Ebrill - Ysgol St Cyres
10 Ebrill - Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
12 Ebrill - Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
16 Ebrill - Derw Newydd
16 Ebrill - Ysgol Headlands
16 Ebrill - Ysgol Westbourne
17 Ebrill - Ysgol Gyfun y Bont-faen
18 Ebrill - Ysgol y Gadeirlan (gall y dyddiad newid)
23 Ebrill - Ysgol Uwchradd Fitzalan (gall y dyddiad newid)
25 Ebrill - Ysgol Uwchradd Whitmore
25 Ebrill - Ysgol y Deri (diwrnod 2)
30 Ebrill - Ysgol Llanilltud Fawr
1 Mai - Ysgol Gyfun Radur
1 Mai - Tŷ Gwyn (diwrnod 3)
8 Mai - Ysgol Kings Monkton
8 Mai - Ysgol Eastward House (gall y dyddiad newid)
9 Mai - Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn
10 Mai - Ysgol Uwchradd Woodlands
15 Mai - Tŷ Coryton
15 Mai - Craig y Parc (gall y dyddiad newid)
21 Mai - Ysgol y Deri (diwrnod 3)
22 Mai - Ysgol Steiner Caerdydd
23 Mai - Ysgol Red Rose
Fel gydag unrhyw frechlyn arall, yn aml ceir rhai sgil-effeithiau ysgafn gan gynnwys braich dyner neu gur pen sy’n diflannu’n gyflym iawn. I’r rhai na allant ei dderbyn yn yr ysgol, bydd clinigau dal i fyny cymunedol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.