Neidio i'r prif gynnwy

"Rhagnodwyd dosbarthiadau ymarfer corff i mi ar gyfer fy arthritis – a nawr does dim angen fy ffon gerdded arnaf mwyach"

14 Gorffennaf 2025

Pan ddatblygodd Mary Howells arthritis yn ei phen-glin, dirywiodd ei hiechyd meddyliol a chorfforol. 

Gwnaeth yr hen fam-gu, a oedd gynt yn heini ac yn hoff o'r awyr agored, ddechrau defnyddio ffon gerdded i symud o gwmpas - a chymryd poenladdwyr dim ond i fynd i'r siop. 

Ond ar ôl cael ei hatgyfeirio at gynllun sy’n cael ei redeg gan y Cyngor yn ei chanolfan hamdden leol a gynlluniwyd i helpu oedolion â chyflyrau hirdymor, gwelodd welliant rhyfeddol yn ei lles.

“Roeddwn i wastad allan yn yr awyr agored ac yn casáu aros gartref. Ond pan ddechreuodd yr arthritis, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd cerdded heb boen,” cofiodd Mary, 80, o Benarth. “Byddwn i’n sownd yn y tŷ, yn bwyta gormod o sbwriel, yn mynd yn ddiog a ddim yn mwynhau fy mywyd o gwbl.

“Ond mae’r cynllun hwn wedi newid pethau’n llwyr er gwell. Dw i'n hapus, dydw i ddim yn cerdded gyda ffon mwyach, a dw i wedi gallu mynd ar wyliau i Awstralia a Japan i weld fy nheulu. Rwy'n brawf byw ei fod yn gweithio."

Mae'r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a elwir yn NERS yn fyr, yn rhoi cyfle i oedolion anweithgar dros 16 oed - ac sy’n byw yn unrhyw le yng Nghymru - fanteisio ar 16 wythnos o weithgarwch corfforol wedi'i deilwra a'i oruchwylio i helpu i reoli, neu atal, cyflyrau cronig. 

Mae pobl yn cael eu hatgyfeirio at y cynllun gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda'r GIG fel meddygon teulu, nyrsys practis a ffisiotherapyddion. Y nod yw darparu cyfleoedd i wneud ymarfer corff sy'n hwyl, yn werth chweil ac y gellir eu hymgorffori mewn bywyd bob dydd. 

Ym Mro Morgannwg, mae'r cynllun yn cael ei ddarparu gan Weithwyr Proffesiynol hyfforddedig Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghyngor Bro Morgannwg trwy ei rwydwaith o ganolfannau hamdden.

Cyfaddefodd Mary, a gafodd ei hatgyfeirio gan ei ffisiotherapydd GIG at gynllun NERS sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Hamdden Penarth, ei bod yn bryderus i ymuno i ddechrau.

“I mi, nid oedd bod dan do yn defnyddio peiriannau ymarfer corff yn rhan o fy ffordd o fyw. Roeddwn i'n cwestiynu a fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth - ond roeddwn i'n barod i roi cynnig arni,” cyfaddefodd. “Ac wrth i’r wythnosau fynd heibio, gwnes i ffrindiau newydd - a pharheais i fynd bob wythnos nes i mi ddechrau gweld gwahaniaeth go iawn.”

Roedd Mary o dan arweiniad arbenigol a phwrpasol Craig Nichol, Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghanolfan Hamdden Penarth sy'n cael ei gyflogi gan Gyngor Bro Morgannwg.

Fel rhan o sesiynau grŵp ac unigol, llwyddodd Craig i roi’r hyder i Mary gyflawni amrywiaeth o ymarferion i ddatblygu cryfder yn ei chyhyrau, ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cydbwysedd a chydlyniad.

“Rhoddodd awgrymiadau bach i mi ar ddeiet a sut i wneud ymarfer corff gartref hefyd. Ni allaf ei ganmol ddigon – rhoddodd gymaint o anogaeth i mi, a chymaint o rai eraill, a byddai’n ateb unrhyw gwestiynau, ni waeth pa mor hurt roeddent yn swnio. Mae'n berson eithriadol ac mae'n gwneud pob sesiwn yn hwyl.

“Mae'n rhywbeth cymdeithasol cymaint ag unrhyw beth arall. Rydw i nawr yn teimlo fel fy mod i'n rhan o un teulu mawr hapus. Gallaf nawr gerdded milltiroedd diddiwedd heb unrhyw boen.”

Dywedodd Craig Nichol fod cynllun NERS yn rhoi'r offer i bobl aros yn iachach am hirach, lleihau'r risg o gwympo a lleddfu'r baich ar ochr acíwt y gwasanaeth iechyd.

Ychwanegodd fod yr ymarferion a ragnodir i bob person yn seiliedig ar y wybodaeth glinigol y mae'n ei derbyn gan y gweithiwr proffesiynol yn y GIG sydd wedi'u hatgyfeirio.

“Cyn iddyn nhw ddechrau’r cynllun, rwy’n eu gwahodd i mewn am asesiad cychwynnol. Rydyn ni'n eistedd i lawr ac yn cael sgwrs am awr dim ond i gael teimlad o ba nodau maen nhw am eu gosod ac a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon," eglurodd. “Yna gallwn archwilio pa lwybr i’w ddilyn o ran cynllun ffitrwydd.”

Mae rhai o'r cyflyrau cronig nodweddiadol a atgyfeirir at NERS yn cynnwys arthritis, poen yn rhan isaf y cefn, adsefydlu pwlmonaidd a chardiaidd, gordewdra a diabetes. Yn ogystal â'r dosbarthiadau rheolaidd, mae Craig hefyd yn cynnig sesiynau yn y brif gampfa yn y ganolfan hamdden yn ogystal â Thai Chi a hyfforddiant cylched ysgafn. Cynhelir adolygiad o gynnydd y claf bob pedair wythnos i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i gyrraedd eu nodau.

Ychwanegodd Craig: “Mae’r canlyniadau’n rhagorol. Rydw i wedi gweld bywydau rhai pobl wedi newid yn ddramatig ac mae'n dod â gwên i'm hwyneb. Mae'n ostyngedig iawn fy mod i'n gallu dylanwadu ar y bobl hyn a'u ffyrdd o fyw.”

Mae NERS yn cael ei ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond mae'r sesiynau ymarfer corff yn ystod yr 16 wythnos yn costio tua £2.50. Gall y ffioedd hyn amrywio ychydig yn lleol. Gall unigolion hefyd fynychu sesiynau dilynol yn dibynnu ar argaeledd.

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wrth eu bodd yn cefnogi’r rhaglen hon ac annog pobl i fod yn fwy egnïol. Pe bai gweithgaredd corfforol yn gyffur, byddai'n cael ei alw'n gyffur rhyfeddol. Mae symud mwy nid yn unig yn gwella iechyd corfforol ond hefyd yn rhoi hwb i iechyd meddwl.”

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: "Mae'r cynllun NERS yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad i wella iechyd a lles pobl ledled Bro Morgannwg.

“Mae stori Mary yn enghraifft bwerus o sut y gall gweithgarwch corfforol drawsnewid bywydau – a hoffwn hefyd ddiolch i Craig Nichol am ei waith rhagorol yn helpu trigolion fel Mary i adennill annibyniaeth, delio â chyflyrau hirdymor, a mwynhau bywyd i'r eithaf.

“Mae cynlluniau fel NERS nid yn unig yn cefnogi unigolion, ond hefyd yn helpu i leddfu'r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd ehangach trwy hyrwyddo cymunedau iachach a hapusach."

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dilynwch ni