Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Llawfeddygaeth Drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan

19 Mehefin 2023

Yn ystod Wythnos Roboteg y DU eleni, rydym yn dathlu llwyddiannau Rhaglen Llawfeddygaeth Drwy Gymorth Robot Cymru Gyfan.

Gyda'r nod o wella canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru, mae robotiaid llawfeddygol o'r radd flaenaf yn cefnogi llawfeddygon canser y colon a’r rhefr a gynaecolegol ar draws Byrddau Iechyd

Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a'r Fro i gynnal llawdriniaeth sy’n creu archoll mor fach â phosibl sydd o fudd i'r claf.

Drwy ddefnyddio Robot Versius CMR Surgical mae llawfeddygon yn gallu cynnal llawdriniaethau cymhleth yn ofalus ac yn gywir, gyda’r llawfeddyg yn gweithredu pedair braich robotig o gonsol agored annibynnol.

Ers sefydlu'r rhaglen ym mis Mawrth 2022, mae'r timau ar draws y ddau Fwrdd Iechyd wedi llwyddo i wneud y canlynol:

  • Cynnal 130 awr o lawdriniaeth drwy gymorth robot
  • Hyfforddi 69 aelod o staff
  • Cwblhau 135 achos

 

 

Ychydig wythnosau yn ôl, Raymond Leyshon, 62 oed, oedd y 100fed person i gael llawdriniaeth robotig yng Nghymru gan ddefnyddio'r robot Versius.

Wrth siarad am ei brofiad o lawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dywedodd: "Rwy'n rhyfeddu at fy mhrofiad o fod wedi cael llawdriniaeth twll clo ar gyfer echdoriad anterior. I mi, roedd llawdriniaeth twll clo yn llawer mwy dymunol na llawdriniaeth arferol, gan fy mod yn anghyfforddus gyda'r syniad o gyfnod adfer hir a chael fy ngadael â chreithiau mawr ar fy abdomen.

"Mae'r llawdriniaeth roboteg wedi newid fy mywyd, gan ei fod yn fy ngalluogi i fynd yn ôl adref at fy nheulu dim ond pedwar diwrnod ar ôl fy llawdriniaeth ac, ar wahân i fy mag stoma, does gen i bron ddim creithio ac rydw i bellach mewn sefyllfa i symud ymlaen i gam nesaf fy nhaith adfer.

"Mae'r tîm cyfan yn yr ysbyty wedi bod yn anhygoel, o'r timau arbenigol, y meddygon ymgynghorol a'r radiograffwyr, mae pawb wedi bod yn anhygoel, ac rwyf wir yn ddiolchgar am y datblygiadau arloesol a wnaed mewn llawdriniaeth roboteg a'r hyn y mae hyn wedi'i olygu i mi a’m hadferiad." I gael gwybod mwy am y rhaglen, ewch i'r dudalen hon.

Dilynwch ni