18 Medi 2024
Dros y 72 awr ddiwethaf mae Uned Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru wedi gweld cynnydd enfawr yn y niferoedd sy’n mynychu, gyda dros 200 yn fwy o bobl yn dod i’r uned nag y byddem fel arfer yn disgwyl ei weld.
Mae'r mewnlifiad hwn mewn derbyniadau wedi achosi pwysau sylweddol ar draws Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau ac wedi arwain at arosiadau hynod o hir i gleifion gael eu gweld yn yr adran ac i gael gwely ysbyty.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn annog y cyhoedd i fynd i’r Uned Achosion Brys mewn argyfwng yn unig, ac i fod yn barod am arosiadau hirach yn yr adran nag arfer.
Dyma rai enghreifftiau:
Os yw cleifion yn ansicr a oes angen iddynt gael eu gweld yn yr Uned Achosion Brys, gallwch fynd ar-lein i GIG 111 Cymru neu ffonio 111, i gael help.
Mae’r tîm Gofal Sylfaenol yn y gymuned, gan gynnwys Meddygon Teulu, Fferyllfeydd Cymunedol, Optometryddion a Deintyddion, hefyd yn gallu cefnogi. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Gofal Sylfaenol ar gael yma.
#HelpuNiIHelpuChi