Neidio i'r prif gynnwy

Pump o gydweithwyr BIP Caerdydd a'r Fro wedi'u cynnwys ar y Rhestr Binc eleni

25 Awst 2022

Rydym yn hynod o falch bod pump o gydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) wedi’u cynnwys ar y Rhestr Binc eleni. 

Bellach yn ei wythfed flwyddyn, mae’r Rhestr Binc yn cael ei llunio gan WalesOnline mewn cydweithrediad â Pride Cymru ac mae’n cydnabod pobl LHDTC+ yng Nghymru sydd wedi gwneud pethau eithriadol dros eu cymunedau. 

Eleni, enwebwyd y nifer fwyaf o bobl erioed ar gyfer y Rhestr Binc — ac mae pump cydweithiwr dylanwadol yn y Bwrdd Iechyd wedi’u cynnwys. 

Mae Lisa Cordery-Bruce, nyrs lles emosiynol arbenigol sy’n gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Ieuenctid i gefnogi ei waith anhygoel, wedi ei chynnwys ar y Rhestr Binc am y drydedd flwyddyn yn olynol. 

Wrth siarad am gyfraniadau rhyfeddol Lisa i’r gymuned LHDTC+, dywedodd WalesOnline: “Mae Lisa yn ffynhonnell enfawr o gefnogaeth i’r gymuned LHDT ond roedd ei henwebiad yn arbennig am ei gwaith gyda phobl ifanc. Mae hi wedi sefydlu a chynnal grwpiau LHDT+ ar gyfer gwahanol ysgolion ledled Cymru, i addysgu ac annog derbyn LHDT+ ymhlith pobl iau.” 

Dywedodd Lisa: “Mae’n fraint cael ymddangos ar y rhestr eto, ymhlith cymaint o bobl ysbrydoledig. Mae llawer o’r hyn rydw i’n ei wneud yn cael ei wneud gydag eraill. Mae aelodau’r Rhwydwaith Staff LHDTC+ yn gweithio’n ddiflino yn eu hamser eu hunain i gefnogi cynhwysiant yn ein Bwrdd Iechyd ac mae ein tîm cydraddoldeb yn allweddol wrth ysgogi newid. Mae cynhwysiant yn ymdrech tîm felly rwy’n ddiolchgar iawn iddynt.” 

Yn ogystal ag ymddangos ar y Rhestr Binc ei hun, mae unigolyn a enwebodd Lisa, Ellis Peares, hefyd wedi’i gynnwys fel ‘un i’w wylio’. 

Mae Ellis, sy’n 15 oed, yn aelod o Fwrdd Ieuenctid y Bwrdd Iechyd ac mae’n angerddol dros sicrhau bod lleisiau pobl ifanc LHDTC+ yn cael eu clywed. Bu hefyd yn llwyddiannus wrth ymgeisio ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru, ar ôl dewis gwella cefnogaeth LHDT+ mewn ysgolion fel prif nodwedd ei faniffesto. 

Wrth siarad am enwebiad Ellis, dywedodd Lisa: “Fe wnes i enwebu Ellis ar gyfer y Rhestr Binc oherwydd ei fod yn eiriolwr mor frwd ac angerddol dros y gymuned LHDTC+, felly roeddwn i wrth fy modd pan welais ei fod wedi cyrraedd y rhestr. 

“Mae’n hyrwyddwr hawliau LHDTC+ i bobl ifanc yng Nghymru ac yn eirioli dros gefnogaeth LHDTC+ mewn ysgolion. Rwy’n falch iawn ohono.” 

Mae Dr Darren Cousins, ymgynghorydd Iechyd Rhywiol a HIV yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, wedi’i gynnwys ar y Rhestr Binc eleni am ei ymroddiad i ddatblygu gwasanaethau iechyd rhywiol i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion, gyda’r nod o wneud gofal iechyd yn fwy hygyrch. 

Mae hefyd yn rhan o’r grŵp llywio sy’n gyrru Fast Track Cities Caerdydd a’r Fro, yn rhan o Grŵp Effeithiolrwydd Clinigol Cymdeithas Iechyd Rhywiol a HIV Prydain ac mae’n aelod o Weithgor Cynllun Gweithredu HIV i Gymru. 

Hefyd wedi’i henwi ar y Rhestr Binc fel ‘un i’w gwylio’ yw Dr Kate Nambiar, meddyg trawsryweddol hil gymysg queer sydd wedi gweithio yn y GIG ers 1999. Ar ôl symud i Gymru yn ddiweddar, mae Kate bellach yn gweithio i Wasanaeth Rhywedd Cymru. 

Mae Kate wedi cael ei chydnabod ar y Rhestr Binc am ei gwaith yn hyfforddi a hysbysu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am ofal iechyd traws ac am ei dylanwad wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu HIV i Gymru. 

Dr Sophie Quinney oedd y meddyg teulu cyntaf i arbenigo mewn meddygaeth hunaniaeth rhywedd yng Nghymru, ac mae hi’n Arbenigwr Rhywedd yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Dilynwch ni