21 Ebrill 2023
Canser y coluddyn yw un o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru a chaiff mwy na 2,200 o achosion newydd eu diagnosio bob blwyddyn. Ond bydd o leiaf naw o bob 10 o bobl yn gwella o’r afiechyd os caiff ei ganfod a'i drin yn ddigon cynnar.
I nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn, a gynhelir trwy gydol mis Ebrill, mae yna ffocws o’r newydd ar godi ymwybyddiaeth o bum prif symptom canser y coluddyn. Maent yn cynnwys:
Gwaedu o’ch pen ôl a/neu waed yn eich pŵ
Newid parhaol, heb esboniad, yn eich arferion tŷ bach
Colli pwysau heb esboniad
Blinder mawr heb reswm amlwg
Poen neu lwmp yn eich bol
Er bod canser y coluddyn yn fwy tebygol o effeithio ar bobl dros 50 oed, mae’n gallu cael ei ganfod ar unrhyw oedran. Os caiff ei ganfod yn gynnar, gallai achub eich bywyd, felly os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn, neu os nad yw pethau'n teimlo'n iawn, ewch at eich meddyg teulu.
Gallai canser y coluddyn fod yn eich corff cyn i chi brofi unrhyw un o'r symptomau hyn, a dyna pam mae sgrinio rheolaidd mor bwysig.
Yng Nghymru, os ydych rhwng 55 a 74 oed ac wedi cofrestru gyda meddyg, mae pecyn sgrinio coluddyn y GIG am ddim yn cael ei anfon atoch yn awtomatig bob dwy flynedd i fesur faint o waed sydd yn eich pŵ. Gallwch gwblhau'r prawf gartref. Unwaith y byddwch wedi anfon eich prawf yn ôl bydd eich canlyniadau yn cael eu dychwelyd atoch o fewn dim ond pythefnos.
I gael rhagor o wybodaeth am arwyddion a symptomau canser y coluddyn, ewch i wefan Bowel Cancer UK.
I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio’r coluddyn yng Nghymru, ewch i adran Sgrinio Coluddion Cymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os ydych rhwng 55 a 57 oed, nid oes angen i chi gysylltu â Sgrinio Coluddion Cymru i ofyn am becyn prawf gan y byddwch yn cael eich gwahodd yn awtomatig.