Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Podiatreg Cydweithredol 'NewidCyflym' yn ennill cydnabyddiaeth wrth helpu cenedlaethau'r dyfodol i fwynhau ymarfer corff gydag animeiddio hwyliog

23 Tachwedd 2023

 

Enillodd peilot prosiect NewidCyflym wobr UKPHR Gwella Ymarfer Iechyd y Cyhoedd i Leihau Anghydraddoldebau Iechyd ym mis Hydref, a phwysleisiodd y beirniaid fod hwn yn brosiect wedi'i gynllunio'n dda, gyda gwaith partneriaeth da wedi'i ddangos drwyddo draw.

Enillodd y prosiect wobr poster gorau hefyd yn y gynhadledd MSK genedlaethol Arloesi yng Nghymru, ac aeth y cynrychiolwyr ati i gynnal arddangosiad byrfyfyr o’r gweithgareddau.

Mae NewidCyflym yn offeryn ar gyfer gweithgarwch corfforol yn yr ystafell ddosbarth gyda phlant ysgol 4-6 oed i annog cryfder, cydbwysedd ac ymwybyddiaeth ofalgar, gyda'r nod o helpu i wella iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol.

Gwnaeth y prosiect cydweithredol hwn rhwng Gwasanaethau Podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol, lwyddo i gynhyrchu a threialu animeiddiad, gyda'r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol dyddiol plant, tra'n hyrwyddo ymarferion cryfhau traed a ffêr mewn ystafelloedd dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1.

Cafodd y prosiect groeso da iawn ymysg plant ac athrawon, a nodir rhywfaint o’r adborth isod;

“Roedd y plant wedi mwynhau'r animeiddiad yn fawr ac roedden nhw'n gofyn pryd roedden ni'n mynd i'w wneud nesaf! Fe wnaeth yr animeiddiad helpu'r plant yn wirioneddol ac roedd yn ddigon byr i gadw eu sylw.”

“Roedd y plant wedi mwynhau gwneud yr ymarferion yn fawr iawn a phob dydd roedd gwelliant yn eu cydgysylltu wrth wneud yr ymarferion — meistr pob gwaith yw ymarfer.”

Mae Steve Coombs, Arweinydd Proffesiynol Podiatreg (yn y llun uchod), yn nodi bod “proffil NewidCyflym wedi'i godi'n sylweddol gyda'r gwobrau hyn, gan helpu i hyrwyddo manteision ymarferion llawn hwyl dyddiol o fewn amgylchedd ystafell ddosbarth yr ysgol.”

Mae annog plant i fod yn egnïol yn gorfforol bob dydd yn bwysig, a thrwy wneud hynny gallant wella eu cryfder, eu cydbwysedd a'u meddylfryd, gan leihau problemau cyhyrysgerbydol a materion pwysau yn y dyfodol o bosibl.

Trwy ddefnyddio cymeriadau cyfeillgar ac atyniadol, mae NewidCyflym yn gobeithio cael effaith gadarnhaol ar iechyd plant ac oedolion yn y dyfodol a’u ysgogi i symud yn fwy, ac yn amlach.

Gellir gweld animeiddiad NewidCyflym/QuickChange yn Gymraeg a Saesneg

Dilynwch ni