Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect peilot yn lansio yn yr Uned Achosion Brys i gefnogi cleifion sydd mewn perygl o niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol

Tri aelod o

Mae peilot cydweithredol sy'n cynnwys sefydliadau iechyd a thrydydd sector wedi lansio yn yr Uned Achosion Brys (A&E) yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) i leihau'r niwed o alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae cydweithwyr yn yr Uned Achosion Brys yn YAC, o Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a'r Fro (CAVDAS) a'r Uned Ddibyniaeth Gymunedol (CAU) wedi cyflwyno'r Prosiect Sgrinio Alcohol.

Mae'r prosiect hwn yn sgrinio pob claf sy'n dod i'r Uned Achosion Brys i ddeall lefel eu risg o alcohol, gyda'r nod o adnabod a chefnogi'r rhai sydd mewn perygl o niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, trwy ddarparu ymyriadau byr a'u cyfeirio at wasanaethau cymorth priodol lle bo angen.

Mae dibyniaeth ar alcohol yn fwyaf cyffredin ymhlith cleifion sy'n mynychu unedau achosion brys, gyda thua chwarter holl lwythi achosion adrannau A&E yn ymwneud ag alcohol. Mae tystiolaeth yn nodi y gall sgrinio a chynnig ymyriadau byr leihau arferion yfed wythnosol 12% ar gyfartaledd.

Wedi'i ysbrydoli gan lwyddiannau mewn Byrddau Iechyd cyfagos, a welodd ostyngiad sylweddol yn nifer y derbyniadau a diwrnodau gwely a arbedwyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyflwyno'r rhaglen beilot hon i'r Uned Achosion Brys mewn ymdrech i nodi’n rheolaidd y cleifion hynny a allai fod yn defnyddio alcohol mewn ffordd beryglus, niweidiol neu ddibynnol, a lleihau'r risg o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag alcohol fel niwed i'r ymennydd a chlefyd yr afu.

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Mae alcohol yn bryder cynyddol i iechyd y cyhoedd yng Nghaerdydd a'r Fro. Rydym yn gweld nifer cynyddol o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn lleol. Mae alcohol yn ffactor risg mewn mwy na 200 o glefydau, gan gynnwys canser, strôc ac iselder. Drwy nodi pobl sydd mewn perygl o niwed sylweddol yn gynharach, rydym yn gallu cynnig i bobl y cymorth sydd ei angen arnynt."

 

Dywedodd Matt Silva, Arweinydd Prosiect y Prosiect Sgrinio Alcohol: "Caiff cleifion eu derbyn yn rheolaidd i’r Uned Achosion Brys neu i wasanaethau ysbyty, ond nid ydynt bob amser yn gallu darparu cymorth arbenigol neu barhaus, yn enwedig mewn achosion o gaethiwed i gyffuriau neu alcohol. Mae'r cynllun peilot hwn yn ein galluogi i gefnogi'r Uned Achosion Brys yn YAC i normaleiddio'r sgwrs ynghylch alcohol, nodi cleifion sydd mewn perygl yn gynt a chynnig ymyriadau byr ac atgyfeiriadau at gymorth priodol i'r rhai sydd eu hangen.

 

"Yn ystod wythnosau cyntaf y cynllun peilot hwn, rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol. Mae ymgysylltu ymhlith cleifion wedi bod yn dda, mae'r cydweithio rhwng cydweithwyr yn yr adran wedi galluogi cleifion i gael eu cyfeirio at y gwasanaethau mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Gwnaed nifer sylweddol o atgyfeiriadau ymlaen at CAVDAS, gan ddangos manteision y prosiect hwn i alluogi'r rhai nad ydynt efallai wedi cael eu nodi’n rheolaidd yn y gorffennol i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."

 

Ar ôl ei lansio ddechrau mis Tachwedd, bydd y peilot yn rhedeg tan fis Mawrth 2025. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y prosiect arloesol hwn yn cynnig profion sgrinio alcohol yn Ysbyty Athrofaol Cymru; gan feithrin cydweithio rhwng darparwyr gofal iechyd gyda'r amcan cyffredin o leihau niwed o alcohol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dilynwch ni