Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect arobryn yn ehangu mynediad at ofal diwedd oes

08 Tachwedd 2024

Fis diwethaf cafodd y tîm Gofal Cefnogol eu cydnabod yng Ngwobrau GIG Cymru 2024. Wrth ennill Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Syr Mansel Aylward, cydnabuwyd y tîm am eu gwaith yn rhoi cleifion wrth wraidd penderfyniadau, gwasanaethau, a’u gofal eu hunain.

Mae’r gwasanaeth arloesol hwn wedi ehangu mynediad at ofal diwedd oes ar gyfer cleifion â chlefyd yr arennau, clefyd yr afu a chlefyd interstitaidd yr ysgyfaint, gan unioni rhwystrau i ofal lliniarol i’r rhai heb ddiagnosis o ganser.

Clea Atkinson, Meddyg Ymgynghorol Arweiniol mewn Gofal Lliniarol a Chefnogol, sy’n arwain y gwasanaeth ac fe ymunodd â’r bwrdd iechyd yn 2015 ar ôl degawd fel Meddyg Ymgynghorol Hosbis. Dechreuodd y prosiect pan gyfarfu Clea â’r Cardiolegydd Ymgynghorol, yr Athro Zaheer Yousef. Roedd yn pryderu bod y gofal diwedd oes yr oedd yn gallu ei ddarparu ar gyfer cleifion â methiant datblygedig y galon yn brin o’i gymharu ag ansawdd y gofal yr oedd wedi gallu ei gynnig hyd at y pwynt hwnnw. Buont yn gweithio gyda’i gilydd i benderfynu sut i ymestyn Gofal Lliniarol yn fwy effeithiol i gleifion methiant y galon.

Esboniodd Clea: “Daeth Gofal Lliniarol yn arbenigedd i ganolbwyntio ar anghenion cleifion canser, ac rydym yn dda iawn am ddarparu Gofal Lliniarol i gleifion sydd â diagnosis o ganser. Ond dydyn ni ddim mor dda am addasu ein model gofal i’r rhai sydd heb ganser.”

“Mae Gofal Lliniarol yn aml yn cael ei gynnig i glaf â chanser unwaith y bydd yr holl opsiynau triniaeth eraill wedi’u trio. Ond nid yw hyn yn wir am gleifion sydd â chyflyrau’r galon, y gall eu hansawdd bywyd elwa o ymyriadau a thriniaeth o hyd. Felly, mae’n rhaid i’r tîm Gofal Lliniarol gwrdd â’r cleifion hyn lawer yn gynt ar hyd eu taith.”

Trwy weithio’n agos gyda Clea a’i chydweithwyr, meithrinwyd ymddiriedaeth gyda chlinigwyr Methiant y Galon. Gyda’i gilydd, roedden nhw’n gallu cydbwyso triniaeth a meddyginiaeth i wella ansawdd bywyd, tra hefyd yn gweithio’n raddol tuag at ofal diwedd oes.

“Fe wnaethon ni newid yr enw o Ofal Lliniarol i Ofal Cefnogol, gan ei fod yn amlwg yn wahanol. Mae’n gyfuniad o reolaeth weithredol barhaus ochr yn ochr â Gofal Lliniarol, mewn dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gan nad oes un ateb i bawb.”

Cafodd y tîm wahoddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil i sefydlu beth yw’r dull gorau o ymdrin â gofal diwedd oes gydag achosion o fethiant datblygedig y galon. Dywedodd Clea: “Fe ddaethon nhw i’r casgliad y byddai model Gofal Cefnogol yn cael ei ystyried yn safon aur, a chawsom ein dyfynnu fel gwasanaeth enghreifftiol.”

Mae’r tîm Gofal Cefnogol yn dîm amlddisgyblaethol bach, sy’n tyfu gyda Nyrsys Clinigol Arbenigol, Meddygon a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Yn 2022, gan adeiladu ar eu gwaith gyda chleifion sydd â chyflyrau’r galon, cawsant gyllid gan Lywodraeth Cymru i efelychu’r dull ar gyfer tri chyflwr arall sy’n cyfyngu ar fywyd – clefyd datblygedig yr arennau, clefyd interstitaidd yr ysgyfaint a chlefyd datblygedig yr afu.

Esboniodd Clea: “Daw symptomau’r rhan fwyaf o gleifion sydd â chlefyd yr afu i’r amlwg yn ystod y flwyddyn olaf. Mae’r gyfradd marwolaethau mor uchel fel ei bod yn gwneud synnwyr i Ofal Cefnogol fod yn rhan o’r daith o’r cychwyn cyntaf. A chyda chleifion arennol, mae’n gwneud synnwyr, oherwydd yn y bôn yr unig driniaeth ar gyfer clefyd datblygedig yr afu yw dialysis ac nid dyna’r driniaeth gywir i lawer o bobl sydd, er enghraifft dros eu 70, gan ei bod yn driniaeth feichus iawn. Felly, mae gallu rhoi dewis gwahanol yn bwysig iawn.

“Mae hyn i gyd yn ymwneud â rhoi dewisiadau. Ni chaiff neb ei atal rhag dod i’r ysbyty a chael asesiad am ymyriadau acíwt, yn yr un modd â phan oeddent yn 30 oed. Ond mae’n ymwneud â rhoi gwybod i bobl, eu helpu i ddeall eu sefyllfa a chynnig rhywbeth arall iddynt.”

Drwy ymgysylltu â chleifion yn gynharach, mae Clea a’i thîm yn gallu eistedd i lawr a thrafod opsiynau. Gall hyn arbed cleifion a’u teuluoedd rhag gorfod wynebu penderfyniadau anodd yn sydyn ar gam mwy datblygedig, ac mae’n cynnig yr opsiwn o ofal diwedd oes yn y cartref yn hytrach na dibynnu ar feddygaeth frys.

Dros gyfnod o 18 mis, atgyfeiriwyd 205 o gleifion at y gwasanaeth. Yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd, treuliodd y cleifion hyn 1,211 yn llai o ddiwrnodau yn yr ysbyty er bod eu cyflwr wedi datblygu, o gymharu â grŵp rheoli. Dywedodd 100% o’r rhai a holwyd bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gyda thosturi ac y byddent yn ei argymell.

“Mae’n ymwneud â gwrando ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig. Unwaith y bydd pobl yn deall y sefyllfa maen nhw ynddi’n llawn, byddant o bryd i’w gilydd yn penderfynu gwneud dewisiadau gwahanol. Rwy’n dweud wrth lawer o bobl, dim ond ar un diwrnod rydych chi’n marw mewn gwirionedd. Felly, mae’r gwasanaeth hwn yn ymwneud â’ch helpu i fyw y gorau a allwch.”

Dilynwch ni