Mae Caerdydd a Bro Morgannwg wedi dechrau rhaglen uchelgeisiol i gyflwyno’r casgliad o Fesurau Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion (PROMs) Electronig gan weithio gyda Promptly.
Bydd y rhaglen hon, sydd wedi’i seilio ar ein dull o ymdrin â Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth, nid yn unig yn helpu i drawsnewid y broses o gasglu data cleifion drwy blatfform digidol; bydd yn taflu mwy o oleuni ar sut y gallwn wneud gwelliannau i driniaethau sy’n cael eu llywio gan yr hyn y mae cleifion yn dweud wrthym am eu hiechyd a’u lles corfforol.
Gan roi cleifion wrth galon gofal iechyd, mae’r cydweithrediad hwn yn arwain at gasglu a chydgrynhoi data sy’n cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd â chleifion am eu gofal, a bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio sut i lunio gwasanaethau dros amser gyda nod clir o sicrhau canlyniadau gwell i gleifion am gost is.
Mae platfform Promptly yn awtomeiddio’r gwaith o gasglu a dadansoddi Mesurau Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion (PROMs), asesiadau iechyd tebyg i arolygon a gaiff eu cwblhau gan gleifion yn Gymraeg neu’n Saesneg a ddefnyddir i werthuso eu cyflyrau a gwerthuso eu profiadau gofal iechyd.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro uchelgais i wireddu’r un buddion ar raddfa fwy o lawer drwy ddechrau rhoi’r platfform ar waith ledled y sefydliad.
Mae platfform Promptly eisoes yn cael ei weithredu yn nifer o arbenigeddau BIP Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys gwasanaeth Tiwmor Niwroendocrin (NET) De Cymru.
Mae’r gwasanaeth wedi casglu PROMs â llaw ers 2017 fel rhan o raglen drawsnewid. Mae digideiddio’r broses yn gwella gofal clinigol unigol, gan arwain yr amseru a’r bwlch rhwng apwyntiadau dilynol gyda chleifion yn uniongyrchol yn unol â’u hanghenion unigol.
Gan alluogi’r gwasanaeth i wella’r broses o flaenoriaethu cleifion a dyrannu slotiau apwyntiadau cleifion allanol, bydd y platfform newydd yn gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon, gan leddfu’r baich ar yr adnoddau meddygol a nyrsio.
Mae’r gallu i storio a dadansoddi PROMs a gasglwyd mewn ffordd safonol mewn un storfa ddata yn hwyluso lleihad mewn amrywiadau a ddylai leihau costau.
Gwahoddir cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddefnyddio platfform Promptly wrth iddo ddod ar gael ar gyfer eu harbenigedd. I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â’ch clinigwr.