5 Gorffennaf 2021
Roedd 17 Mehefin yn ddiwrnod arbennig iawn i un o’r cleifion yn Rookwood. Ar ward A7 cynhaliwyd priodas Lee, un o’r cleifion, a’i bartner, Michael! Diwrnod y maent wedi bod yn breuddwydio amdano ers cyfnod hir yn eu perthynas naw mlynedd. Maent wedi bod eisiau priodi ers sbel, ond gan fod Lee wedi bod yn yr ysbyty ers 16 mis roedd yn edrych yn annhebygol iawn y byddai’n cael priodas ei freuddwydion. Fel dywedodd Michael, “Mae Lee yn dipyn o freuddwydiwr. Mae eisiau carpedi coch, eliffantod ac yn dymuno i’r cylchgronau fod yno” ond ni allai unrhyw beth guro’r ymdrech aruthrol a wnaeth y staff i wneud y seremoni yn arbennig i’r eneidiau hoff cytûn hyn.
Aeth staff yr ysbyty “gam ymhellach” meddai Michael ar gyfer y ddau ohonynt, a gwnaeth pawb gymryd rhan a chyfrannu lle y gallent. Mae’n drist ofnadwy mai dim ond amser prin iawn sydd gan Lee ar ôl ond dywedodd Michael, “Mae’r briodas wedi golygu nad yw Lee wedi stopio gwenu ac nid yw wedi stopio siarad amdano chwaith!” Dyma’r union beth yr oedd y tîm yn ei ddymuno ar gyfer Lee, a gwnaethant lwyddo i roi’r “freuddwyd o briodi” i’r cwpl.
Roedd yr ysbyty yn fwy na hapus i hwyluso’r briodas a sicrhau bod y diwrnod mor arbennig â phosibl, a gwnaethant lwyddo i wneud hynny heb os nac onibai! Gwnaed trefniadau i drawsnewid ystafell yr ysbyty yn rhywbeth hollol anhygoel. Gyda balwnau, goleuadau bach, murluniau a blodau, dywedodd Michael fod yr ystafell yn “wefreiddiol”. Er ei bod yn ymddangos yn gwbl amhosibl, y pethau bach hynny a wnaeth yr ystafell hon a’r briodas gyfan yn eithriadol. Rhywbeth y dywedodd y cwpl na fyddent wedi’i gael yn unrhyw le arall, a gwnaethant hyd yn oed ddarparu cacen i’w thorri!
Dywedodd Andrew (NEED SURNAME), rheolwr y ward, “Ar ôl y 12 mis diwethaf, yn enwedig ar ôl bod yn rhan o ardal COVID rheng flaen yn ystod y don gyntaf, ac wedyn cael eu lleoli i rywle arall yn ystod yr ail don, roedd y staff wrth eu bodd yn bod yn rhan o’r dathliad hapus hwn.” Golygai hyn eu bod yn fwy penderfynol nag erioed i sicrhau y gallent roi’r briodas yr oeddent yn ei haeddu i’r cwpl hwn, a dod â hapusrwydd i bawb.
Yn dilyn llawer o drefnu, cynllunio brys, galwadau ffôn a nerfau, roedd y briodas yn barod i’w chynnal. Roedd Lee yn awyddus i rai o’r staff fod yn bresennol am ei fod wedi ffurfio perthynas agos â rhai ohonynt yn ystod ei gyfnod fel claf mewnol dros lawer o fisoedd, yn cynnwys staff fel Gail a Lisa, un o’r rheolwyr ward. Gwnaethant wisgo’u dillad gorau, ynghyd â Lee a Michael a oedd yn eu gwisgoedd priodas! Dim ond nifer gyfyngedig allai fynychu’r seremoni oherwydd COVID-19 a chyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, ond serch hynny, aeth y seremoni yn ei blaen.
Wrth i’r briodas ddechrau, gwnaeth y staff sefyll mewn rhes yn y coridor i guro dwylo wrth i Lee wneud ei ffordd i’r seremoni, a dywedodd Andrew fod hyn yn “foment hyfryd y gallai’r staff fod yn rhan ohoni.” Dywedodd llawer o’r cleifion eraill pa mor gynhesol oedd y dathliad a bod cael dathliad o’r fath yn rhywbeth i godi calon, yn enwedig yn dilyn pandemig y 12 mis diwethaf. Ar ddiwedd y dathliad gwnaeth y staff a’r cleifion i gyd uno i guro dwylo’n uchel a bloeddio eu cymeradwyaeth.
Gwnaed trefniadau hefyd i’r cyfryngau fynychu er mwyn tynnu lluniau swyddogol i grisialu’r foment hyfryd ar gyfer y cwpl a’r ysbyty. Gwnaed fideo o’r dydd a’r seremoni gyfan. Aeth Lee, Michael a rhai o’r staff allan yn yr heulwen braf i’r llyn er mwyn cael rhagor o luniau ac ychydig o dawelwch i fwynhau’r dathliad.
I orffen, gwnaeth yr ysbyty ddarparu ystafell ar wahân i’r pâr priod hapus er mwyn iddynt allu parhau â’r dathlu. Darparwyd gwely yn yr ystafell, fel bod y cwpl yn gallu treulio’r noson gyda’i gilydd, fel na fyddent yn gorfod treulio noson eu priodas ar wahân.
Roedd y diwrnod yn arbennig iawn a hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i sicrhau ei fod yn digwydd. Yr hyn a wnaeth y profiad cyfan mor gofiadwy yw’r ffaith bod y staff wedi mynd gam ymhellach i sicrhau y byddai’n ddiwrnod a fyddai’n arbennig tu hwnt i Michael a Lee. Dywedodd y ddau y byddent yn “ddiolchgar am byth” ac y byddai’n ddiwrnod na fyddent byth yn ei anghofio.
07/07/2021