17 Hydref 2022
Mae’r brif system maniffold ocsid nitrus yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi cael ei datgomisiynu'n llwyddiannus, gan nodi cam enfawr o ran ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i leihau allyriadau carbon deuocsid (CO2).
Defnyddir ocsid nitrus yn gyffredin mewn gofal iechyd ar gyfer anaestheteg ond er ei fod yn rhan hanfodol o ddarparu gofal iechyd, fe'i hystyrir yn nwy tŷ gwydr niweidiol. Mae astudiaethau'n dangos bod gan ocsid nitrus fwy na 265 gwaith y potensial cynhesu byd-eang na charbon deuocsid (CO2).
Ar hyn o bryd mae pedwar maniffold ocsid nitrus ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, sef y dull storio nodweddiadol. Mae canfyddiadau gan dîm prosiect amlddisgyblaethol BIP Caerdydd a’r Fro wedi nodi y gall gwastraff o’r math hwn o system fod yn uchel oherwydd gollyngiadau a cholli nwy o’r cyflenwad.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi treialu silindrau ocsid nitrus cludadwy yn Ysbyty Plant Cymru fel rhan o gynllun peilot unigol sydd wedi cynyddu effeithlonrwydd yn sylweddol, o 2.5% i 74%. Mae hyn yn dangos bod enillion sylweddol i'w gwneud o symud o gyflenwad pibell i gyflenwad silindr cludadwy.
Yn dilyn y peilot llwyddiannus, gwnaeth y tîm gyflwyno’r astudiaeth beilot ar draws y sefydliad drwy’r Academi Lledaeniad a Graddfa gyda’r uchelgais i rannu mewnwelediadau ac annog newid ledled Cymru.
Yn gynharach eleni, cafodd y system maniffold ar safle Ysbyty Athrofaol Llandochau ei datgomisiynu'n llawn. Erbyn hyn, dim ond dau o'r pedwar maniffold sy'n dal i gael eu defnyddio, y maniffold deintyddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru a maniffold yn Ysbyty Dewi Sant. Mae prosiect ar y gweill i edrych ar ddatgomisiynu’r maniffoldau hyn sy'n weddill.
Dangosodd yr Adroddiad Healthcare Without Harm fod 5.6% o allyriadau yn y DU yn dod o leoliadau gofal iechyd ac mae cynllun Datgarboneiddio GIG Cymru yn rhoi sylw i leihau nwyon anesthetig. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhagweld arbedion o 1.15 miliwn litr o ocsid nitrus neu 679 tunnell o CO2e bob blwyddyn a fydd yn chwarae rhan enfawr mewn gwneud gofal iechyd yn fwy cynaliadwy yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a thu hwnt.
Mae'r grŵp prosiect yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd eraill i ddarparu cymorth a chyngor i glinigwyr sy'n awyddus i weithredu'r newid hwn – gan helpu i leihau'r defnydd o ocsid nitrus ledled Cymru.
Bydd rhan nesaf y prosiect hwn yn adolygu'r defnydd o Entonox ac yn ymgysylltu â'r Uned Achosion Brys i edrych ar ddefnyddio silindrau llai. O fewn gwasanaethau mamolaeth, mae'r tîm yn adolygu effeithiolrwydd Unedau Lleihau Carbon Entonox a gafodd eu gweithredu yn gynharach eleni, ac yn rhannu'r canlyniadau ledled Cymru.
Mae'r tîm prosiect wedi llwyddo i sicrhau cyllid SBRI Llywodraeth Cymru (y Fenter Ymchwil Busnesau Bach) a byddant yn gweithio ledled Cymru gyda Byrddau Iechyd eraill a diwydiant i ddatblygu technoleg i chwalu'r nwy gan sicrhau nad yw'n cael ei ryddhau i'r atmosffer. Mae posibilrwydd y gallai Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ar draws GIG Cymru fabwysiadu'r datrysiad hwn.