Neidio i'r prif gynnwy

Prif Swyddog Gweithredol Elusen Canser Plant Cymru yn ennill Cyfarwyddwr y Flwyddyn 2024

20 Mehefin 2024

Mae Menai Owen-Jones, Prif Swyddog Gweithredol Elusen Canser Plant Cymru, LATCH, wedi ennill Cyfarwyddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru 2024. Mae'r Gwobrau yn dathlu arweinwyr rhagorol ar draws sectorau yng Nghymru bob blwyddyn, gan dynnu sylw at y rhai sy'n rhagori mewn meysydd fel Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Cynaliadwyedd, Hyblygrwydd a Gwydnwch a llawer mwy.

Graddiodd Menai yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd ac mae wedi cyflawni rolau amrywiol mewn amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru a'r DU. Yn 2011, yn 30 oed, daeth Menai yn Brif Swyddog Gweithredol The Pituitary Foundation, elusen iechyd arobryn yn y DU. Mae Menai wedi dod yn bell ers ei rôl gyntaf yn y trydydd sector ac erbyn hyn mae’n falch iawn o gynrychioli Elusen Canser Plant Cymru, LATCH.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, mae ei chariad at y sector gwirfoddol a'r cyfan mae'n ei wneud yn mynd ymhellach na dim ond swydd o ddydd i ddydd. Mae Menai yn falch iawn o fod yn Aelod Bwrdd o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Prifysgol Metropolitan Caerdydd a than yn ddiweddar, Race Council Cymru a Daring to Dream. Ar hyn o bryd mae'n Gynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y Senedd ac yn fentor ar y rhaglen fentora traws-gydraddoldeb, 'Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal'. Mae Menai hefyd wedi bod yn gynghorydd, yn aelod o'r pwyllgor ac yn llysgennad ar gyfer sefydliadau fel Samariaid Cymru ac Arweinwyr Cymdeithasol Cymru.

“Mae'n gymaint o anrhydedd cael y Wobr hon, Cyfarwyddwr y Flwyddyn IoD Cymru ar gyfer y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector 2024. Mae'n fraint cael bod yn Brif Weithredwr Elusen Canser Plant Cymru LATCH — sefydliad mor arbennig sy'n cefnogi plant â chanser a'u teuluoedd pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

I mi, mae'r Wobr hon yn ymwneud ag ymdrech ar y cyd a thîm sy’n cydweithio i wneud gwahaniaeth i eraill. Diolch yn fawr i'm tîm a'm Bwrdd am eu henwebiad a'u cefnogaeth ac i bawb sydd wedi fy nghefnogi dros y blynyddoedd. Diolch yn fawr iawn.”

Mae LATCH yn cefnogi plant a'u teuluoedd sy'n cael eu trin gan yr Uned Oncoleg a Hematoleg Bediatrig yn Ysbyty Plant Cymru. Mae'r gyfradd flynyddol o achosion o ganser ymhlith plant yng Nghymru tua 70 y flwyddyn.  Mae LATCH yn darparu cefnogaeth emosiynol bwrpasol, gwybodaeth, cymorth ymarferol ac ariannol i deuluoedd, gan gynnwys gwasanaeth gwaith cymdeithasol, llety ysbyty i deuluoedd, grantiau ariannol a mwy. Mae LATCH yn gwneud bywyd yn haws i blant a'u teuluoedd ac maent yno yn darparu gobaith, cymorth a gofal pan fo teuluoedd ei angen fwyaf.

I gael gwybod mwy am LATCH a sut y gallwch chi helpu, cliciwch yma.

Dilynwch ni