31 Mawrth 2025
Cafodd bron i 100 o bobl ddigartref gynnig gwiriadau hanfodol ar gyfer twbercwlosis (TB) a feirysau a gludir yn y gwaed mewn dau glinig arbennig a gynhaliwyd yng nghanol Caerdydd.
Daeth Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain (UCLH) â’u huned symudol ‘Find and Treat’ i Ganolfan Huggard ar fore 25 Mawrth, gan symud ymlaen i Adams Court yn y prynhawn.
Gan gydweithio, rhoddodd tîm UCLH a thimau clinigol arbenigol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyfle i bobl gael pelydrau-X a phrofion gwaed i wirio am TB gweithredol a chudd, sef haint bacteriol difrifol, ond haint y gellir ei drin.
Cynigiwyd profion i bobl hefyd ar gyfer y feirysau a gludir yn y gwaed hepatitis B, C a HIV, a rhoddwyd cyfle iddynt gael cyngor a chymorth iechyd arbenigol.
Ariannwyd y digwyddiad partneriaeth llwyddiannus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oedd yn cynnwys clinigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a chafodd ei gefnogi hefyd gan gydweithwyr o Gyngor Caerdydd a Chanolfan Huggard.
Dywedodd Yvonne Hester, nyrs arbenigol TB arweiniol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae penderfynyddion cymdeithasol iechyd, gan gynnwys tlodi, diffyg maeth, amodau byw gwael a mynediad at ofal iechyd yn dylanwadu’n drwm ar TB. Gall ymddygiadau iechyd megis smygu, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, digartrefedd a charchar gynyddu'r risg o drosglwyddo TB.
“Yn aml gall profiadau gwael gyda gofal iechyd olygu bod pobl yn dod at glinigwyr yn hwyr, a phan fyddant yn gwneud hynny byddant yn dioddef o glefyd TB helaeth a byddant yn aml yn sâl iawn.
“Roedd y digwyddiad hwn yn enghraifft wych o gydweithio i sicrhau’r ymgysylltu gorau posibl gan ddefnyddwyr gwasanaethau a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw. Roedd yn gyfle i barhau i godi ymwybyddiaeth o TB, gan amlygu’r arwyddion a’r symptomau a’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â’r cyflwr.”
Cynhaliwyd y digwyddiad y diwrnod ar ôl Diwrnod TB y Byd sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o'r cyflwr sy'n parhau i fod yn bryder iechyd cyhoeddus difrifol.
Cynhaliwyd symposiwm gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu pencadlys ar Tyndall Street a ddaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi, ymchwilwyr a chleifion ynghyd i rannu mewnwelediadau, trafod arfer gorau a meithrin ymagwedd unedig tuag at ddileu TB.