17 Chwefror 2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyhoeddi bod yr Athro Meriel Jenney wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr Meddygol.
Mae gan Meriel yrfa hir a nodedig fel oncolegydd pediatrig ac mae hi’n cael ei pharchu’n fawr yn y byd meddygol gan ei chydweithwyr a’i chleifion. Bydd Meriel yn ymgymryd â’r swydd fel Cyfarwyddwr Meddygol tan o leiaf 2023, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Meddygol Dros Dro ers mis Medi 2021.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Suzanne Rankin: “Mae cadarnhau swydd Meriel fel Cyfarwyddwr Meddygol yn newyddion gwych ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi yn y tymor hir. Ers i mi ymuno â’r sefydliad ddechrau mis Chwefror, rwyf wedi elwa’n fawr o’i phrofiad yn y Bwrdd Iechyd, yn ogystal â chynhesrwydd ei chroeso a’i chefnogaeth.
“Bydd Meriel yn darparu dilyniant cryf ar adeg heriol, yn llawn newid ac rwy’n hyderus y bydd yn arwain ei chydweithwyr yn effeithiol ac yn dosturiol i sicrhau bod gofal a thriniaeth o’r ansawdd uchaf, yn seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu darparu i’r cleifion a’r dinasyddion rydym yn eu gwasanaethu. Mae Meriel yn gaffaeliad enfawr i’n sefydliad ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio a dysgu ganddi. Llongyfarchiadau Meriel.”
Mae Meriel wedi bod yn Feddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg Bediatrig yn Ysbyty Plant Cymru ers 1996. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar ddechrau 2021.
Dywedodd yr Athro Meriel Jenney: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda Suzanne a’m cydweithwyr yng Nghaerdydd a’r Fro er mwyn helpu i lunio dyfodol gofal iechyd yn ein cymuned. Rwyf wedi bod yn rhan o’r gweithlu meddygol yma ers blynyddoedd lawer ac yn deall y problemau a’r heriau sy’n ein hwynebu.
“Ar hyn o bryd rydym yn delio â phwysau brys eithriadol ochr yn ochr â rhestrau aros sylweddol, tra hefyd yn dechrau ar raglen arloesi a thrawsnewid wrth i ni ailgynllunio ein gwasanaethau. Fel Cyfarwyddwr Meddygol, byddaf yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn gallu diwallu anghenion ein cleifion nawr ac yn y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at gael rôl ganolog wrth gyflawni’r heriau sydd o’n blaenau.”
Cyflawnodd Meriel ei hyfforddiant israddedig yn Sheffield a’i hyfforddiant ôl-raddedig yn Sheffield, Melbourne a Manceinion. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Harkness iddi hefyd i astudio yn UDA ym Mhrifysgol Minneapolis, Minnesota.
Ar ôl symud i Gaerdydd yn 1996, arweiniodd Meriel wasanaethau canser plant yng Nghymru am dros ddau ddegawd. Mae wedi gweithio mewn uwch rolau gweithredol fel Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol ar gyfer byrddau clinigol Plant a Menywod a Diagnosteg a Therapiwteg Glinigol, ac yn rôl fwy strategol y Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Canser. Mae gan Meriel ddiddordeb ymchwil hirsefydlog, parhaus yn y broses o drin canser ymhlith plant a dyfarnwyd Cadair anrhydeddus iddi gan Brifysgol Caerdydd yn 2019.
Mae Meriel hefyd yn gweithio gydag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau oncoleg bediatrig yn y Ganolfan Gofal Canser i Blant yn Sierra Leone.