Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Suzanne Rankin yn Brif Swyddog Gweithredol Hyrwyddo Ymchwil cyntaf

Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a

10 Ionawr 2025

Mae Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ei phenodi yn Brif Swyddog Gweithredol Hyrwyddo Ymchwil cyntaf Cymru, gyda'r nod o hwyluso a galluogi gweithgareddau ymchwil clinigol ledled GIG Cymru.

Mae'r rôl allweddol hon yn pwysleisio ymrwymiad Cymru i hybu ymchwil iechyd a gofal drwy hyrwyddo'r galluogwyr allweddol i ddarparu treialon clinigol ac arloesol yn ymarferol ac, yn bwysicaf oll, rhoi cyfleoedd cynyddol i bobl Cymru gael mynediad at y gofal iechyd a'r canlyniadau gorau a mwyaf datblygedig.

Fel y Prif Swyddog Gweithredol Hyrwyddo Ymchwil, bydd Suzanne yn eirioli dros hyrwyddo ac integreiddio ymchwil yn GIG Cymru sy'n cynnwys cadeirio'r grŵp llywio i gefnogi gweithredu'r Fframwaith yn genedlaethol, ac amlinellu ‘sut olwg sydd ar ragoriaeth ymchwil' yn sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Nod y Rhaglen Gwreiddio Ymchwil dilynol yw darparu arweiniad ar sut y gall sefydliadau'r GIG wreiddio ymchwil mewn meysydd megis datblygu academyddion clinigol, mesur gwerth economaidd ymchwil, ac integreiddio ymchwil yng ngweithlu GIG Cymru. Bydd hi hefyd yn cyfrannu at oruchwylio a llywodraethu'r rhaglen buddsoddi mewn ymchwil fasnachol yng Nghymru, i gryfhau ein capasiti i gefnogi datblygiad triniaethau blaengar.

Bydd Suzanne yn cefnogi ymgyrch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weithio'n agos gyda sefydliadau'r GIG, prifysgolion a sefydliadau ymchwil i feithrin diwylliant o welliant ac arloesedd parhaus. Mae gan Brif Swyddogion Gweithredol sefydliadau'r GIG ledled Cymru i gyd gyfrifoldeb am feysydd penodol o waith strategol ac fel rhan o'r rôl hon, bydd Suzanne yn cydweithio â Phrif Weithredwyr GIG Cymru eraill i integreiddio ymchwil i drafodaethau, polisïau ac arferion cenedlaethol.

Mae'r rôl hon yn dilyn penodi 12 o hyrwyddwr sy’n Aelodau Bwrdd Annibynnol ar gyfer ymchwil ym mhob sefydliad GIG yng Nghymru. Roeddynt yr hyrwyddwyr cyntaf yn y DU, a sefydlwyd yn 2022, i sicrhau amlygrwydd ymchwil ar lefel y Bwrdd.

Dywedodd Suzanne, "Fel Prif Weithredwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, rwyf wedi bod yn dyst yn uniongyrchol i bŵer trawsnewidiol ymchwil wrth achub bywydau, llunio ymarfer, a dylanwadu ar bolisi—gan arbed amser ac adnoddau i'r GIG yn y pen draw.

"Mae'n hanfodol ein bod yn codi proffil yr ymchwil a'r datblygiad rhagorol sy'n cael ei ddarparu ar garreg ein drws i staff a chleifion ledled y wlad, a byddaf yn gwneud hyn ym mhob agwedd ar y rôl, gan gefnogi Cynllun Ymgysylltu Cymru Gyfan.

"Rwyf wedi ymrwymo'n fawr i sicrhau bod manteision ymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru yn ogystal â chydweithwyr yn y GIG. Edrychaf ymlaen at gydweithio â'r timau talentog trwy Gymru i gefnogi'r gwaith o feithrin capasiti a gallu wrth i ni eirioli dros ymchwil ym mhob agwedd o’n gwaith.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae mor bwysig bod gennym lysgenhadon ar gyfer ymchwil ar bob lefel o'r sefydliad, gan gynnwys yn y swyddi uchaf.

“Gyda'n gilydd, gallwn gymryd camau breision i wella canlyniadau iechyd a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad ym maes ymchwil iechyd a gofal."

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hyderus y bydd y penodiad hwn yn arwain at ddatblygiadau sylweddol wrth integreiddio ymchwil o fewn GIG Cymru, a fydd o fudd i gleifion a chymunedau trwy Gymru yn y pen draw.

Dilynwch ni