19 Mawrth 2024
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Abigail Harris wedi’i phenodi’n Brif Gomisiynydd Dros Dro ar gyfer Cydbwyllgor Comisiynu (JCC) newydd GIG Cymru a fydd yn cael ei sefydlu ar 1 Ebrill 2024 yn dilyn uno’r cyn Bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC), yr Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol (NCCU) a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).
Mae Abi, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn dod ag ystod eang o brofiad i’r rôl newydd hon gan gynnwys amser a dreuliwyd mewn sefydliadau comisiynu, llywodraeth leol, ar bolisi cenedlaethol ac yn darparu gwasanaethau arbenigol. Yn dilyn proses gyfweld, gwnaeth Abi greu argraff ar y panel gyda’i ffocws ar sicrhau bod y JCC newydd yn comisiynu gwasanaethau teg a seiliedig ar dystiolaeth i bobl Cymru, yn ogystal â’i huchelgais bod y tîm sy’n gweithio i’r pwyllgor newydd yn cael eu cefnogi a’u cynnwys yn y gwaith o ddatblygu diwylliant a gwerthoedd y pwyllgor.
Bydd Abi yn ymuno â’r JCC ar 4 Ebrill 2024 a bydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o sefydlu’r sefydliad newydd.
Dywedodd Abi “Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o gyfnod newydd a chyffrous ar gyfer comisiynu yng Nghymru ac arwain y tîm, er mai dros dro y bydd hynny, i gefnogi Byrddau Iechyd i ddatblygu’r gwaith o gomisiynu Byrddau Rhanbarthol a Rhyng-Iechyd. Bydd y JCC yn adeiladu ar waith y sefydliadau comisiynu blaenorol ac yn helpu i feithrin gallu comisiynu ar draws y system iechyd yng Nghymru. Rwy’n gweld hwn yn gyfle cyffrous iawn i ddod ag arbenigedd cyfunol y staff o dri sefydliad ar wahân a gwahanol yn eu rhinwedd eu hunain, i mewn i un sefydliad comisiynu cydlynol er budd cleifion a chymunedau Cymru. Bydd yn hanfodol adeiladu ar brofiad cydweithwyr o’r tri sefydliad ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ochr yn ochr â nhw.”
Ar hyn o bryd, rydym yn y broses o gwblhau'r manylion ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio dros dro yn ystod penodiad Abi, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn fuan.
Dymunwn yn dda i Abi yn y penodiad newydd a chyffrous hwn i Gymru.
--
Suzanne Rankin
Prif Weithredwr