Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â bod ofn profion sgrinio - cofiwch ddiogelu eich iechyd y Calan Gaeaf hwn, ar gyfer y dyfodol

27 Hydref 2025

Er y gall yr anhysbys deimlo'n frawychus pan ddaw i brofion sgrinio a thriniaethau, gallant roi'r cyfle gorau i chi amddiffyn eich hun rhag rhai mathau o ganser.

Does dim angen bod ofn profion ceg y groth

Sgrinio am ganser ceg y groth yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun rhag canser ceg y groth — ond nid yw 1 o bob 4 o bobl yn mynychu eu hapwyntiad.

Bydd menywod ac unigolion â cheg y groth rhwng 25 a 49 oed yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol bob pum mlynedd o leiaf unwaith y byddant wedi profi’n negyddol i HPV. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dod i’ch apwyntiad oherwydd sgrinio serfigol yw un o’r ffyrdd gorau o atal canser ceg y groth.

Prif nodau sgrinio serfigol yw lleihau:

• Nifer yr achosion o ganser ceg y groth (amlder) drwy nodi newidiadau yn y celloedd cyn iddynt droi’n ganser

• Nifer sy’n marw o ganser ceg y groth (marwolaethau) drwy atal canser rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynnar

• Effeithiau canser neu driniaethau canser ar iechyd (afiachedd) drwy atal canser rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynnar pan fydd yn llawer haws ei drin

Eich dewis chi yw cael sgrinio serfigol. Mae gan Sgrinio Serfigol Cymru ddyletswydd i wahodd pob unigolyn cymwys i gael ei sgrinio. Os na fyddwch yn dod i gael prawf sgrinio o fewn chwe mis i’ch llythyr gwahoddiad, anfonir llythyr atgoffa atoch.

Fe wnaethon ni ateb rhai cwestiynau cyffredin am sgrinio ceg y groth: Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol | Ateb eich cwestiynau  - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

 

Prawf syml a all achub eich bywyd

Mae ymchwil yn dangos fod mwy na 9 person o bob 10 yn goroesi canser y coluddion pan wneir diagnosis ar y cam cynharaf.

Os ydych rhwng 50 a 74 oed ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu, byddwch yn derbyn pecyn prawf sgrinio'r coluddyn yn y post bob 2 flynedd.

Mae sgrinio’r coluddyn yn golygu cwblhau pecyn prawf cartref sy'n chwilio am waed cudd yn eich carthion.

Mae'r prawf yn gyflym ac yn hawdd i'w wneud a gellir ei wneud yng nghysur eich cartref eich hun.

Efallai y byddwch yn teimlo'n dda hyd yn oed os oes gennych ganser cynnar y coluddyn ac mae sgrinio'n sicrhau bod canserau'n cael eu canfod cyn i unrhyw symptomau ddod i’r amlwg.

Canser y coluddyn yw un o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae dros 2,200 o achosion newydd o ganser y coluddyn yn cael eu diagnosio bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae'n bwysig cwblhau eich prawf sgrinio'r coluddyn yn ogystal ag ymgyfarwyddo â symptomau canser y coluddyn. Darllenwch am arwyddion a symptomau canser y coluddyn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gofalu amdanoch eich hun - Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Gwybod beth sy’n normal i chi ac archwilio eich bronnau

Mae tua 55,000 o fenywod yn cael diagnosis o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn. Er bod canser y fron yn fwy cyffredin ymhlith menywod dros 50 oed, gall effeithio ar unrhyw un, o unrhyw oed a rhyw.

Gall ein bronnau newid am lawer o resymau, fel y menopos, beichiogrwydd a bwydo ar y fron, yn ystod cyfnod y glasoed neu hyd yn oed yn ystod eich mislif. Mae’n bwysig archwilio eich bronnau’n rheolaidd fel eich bod yn gwybod beth sy’n normal i chi.

Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws sylwi ar unrhyw newidiadau ym maint, edrychiad neu deimlad eich bron.

Mae gan wefan y GIG wybodaeth ddefnyddiol am sut i archwilio’ch bronnau yn effeithiol: How to check your breasts or chest - NHS.

Cadwch lygad allan am:

• lwmp, neu chwydd yn eich bron, brest neu gesail

• newid yng nghroen eich bron, fel crych (gall edrych fel croen oren) neu gochni (gall fod yn anoddach i’w weld ar groen du neu frown)

• newid ym maint neu siâp un neu’r ddwy fron

• arllwysiad o’r deth (os nad ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron), a all gynnwys gwaed

• newid yn siâp neu olwg eich teth, fel ei fod yn troi i mewn (teth wrthdro) neu â brech (gall edrych fel ecsema)

• poen yn eich bron neu gesail nad yw’n diflannu – nid yw poen yn y fron sy’n mynd a dod yn symptom o ganser y fron fel arfer

Yng Nghymru, mae menywod rhwng 50 a 70 oed yn cael eu gwahodd i brawf sgrinio'r fron bob 3 blynedd. Mae prawf sgrinio'r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i'r symptomau ddangos. Mae hyn yn cynnwys cymryd mamogramau, sef pelydrau-X o'r fron.

Darganfyddwch mwy: Bron Brawf Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Mae sgrinio'n bwysig oherwydd gall ddod o hyd i ganserau pan fyddant yn rhy fach i’w gweld neu deimlo a thrin canser yn gynnar, gan roi'r cyfle gorau posibl i chi oroesi. Does dim byd i’w ofni, yr hyn all beri mwy o ofn yw peidio â gwybod y gallai rhywbeth fod o'i le pan mae mor hawdd ei wirio.

Dilynwch ni