25 Hydref 2024
Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dathlu ar ôl ennill yng Ngwobrau GIG Cymru 2024, ar ôl cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori. Cyhoeddwyd y gwobrau mewn seremoni ddydd Iau 24 Hydref.
Mae tîm Gofal Cefnogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o ennill Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Syr Mansel Aylward. Cydnabuwyd y tîm am eu gwaith yn rhoi cleifion wrth wraidd penderfyniadau, gwasanaethau, a'u gofal eu hunain.
Mae’r gwasanaeth arloesol hwn wedi ehangu mynediad at ofal diwedd oes ar gyfer cleifion â chlefyd yr arennau, clefyd yr afu a chlefyd interstitiaidd yr ysgyfaint, gan unioni rhwystrau i ofal lliniarol i’r rhai heb ddiagnosis o ganser.
Dywedodd Clea Atkinson, Meddyg Ymgynghorol Arweiniol mewn Gofal Lliniarol a Chefnogol: 'Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill yng ngwobrau GIG Cymru 2024.
"Mae Gofal Cefnogol yn dîm arbennig iawn sy’n gwbl haeddu cael eu cydnabod am eu hymdrechion penderfynol i gefnogi cleifion i ymdopi â diagnosisau di-ganser sy’n cyfyngu ar fywyd; ac maent yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bob claf o dan ein gwasanaeth.'
Dros gyfnod o 18 mis, atgyfeiriwyd 205 o gleifion at y gwasanaeth. Yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd, treuliodd y cleifion hyn 1,211 yn llai o ddiwrnodau yn yr ysbyty er bod eu cyflwr wedi datblygu, o gymharu â grŵp rheoli. Dywedodd 100% o'r rhai a holwyd bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gyda thosturi ac y byddent yn ei argymell.
Mae Prosiect Gwas y Neidr, a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru 2024, yn cael ei gydnabod am ddangos defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau i ddarparu gwerth ar gyfer y gwasanaeth a chleifion.
Mae Prosiect Gwas y Neidr yn ardal 4 gwely newydd yn Ward Tylluan, y ward lawfeddygol yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. Mae'r gwelyau hyn yn darparu gofal ôl-lawdriniaethol lefel uchel i bobl ifanc sydd wedi cael llawdriniaeth gymhleth ar yr asgwrn cefn ar gyfer Scoliosis Idiopathig Pobl Ifanc (AIS).
Mae’r cyfleuster newydd hwn yn lleddfu’r pwysau ar yr Uned Dibyniaeth Uchel Pediatrig, ac mae wedi lleihau nifer yr achosion o ganslo llawdriniaethau AIS yn sylweddol o 40% yn 2022 i ddim.
Dywedodd yr Athro Sashin Ahuja, Llawfeddyg Ymgynghorol yr Asgwrn Cefn: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i ni fod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr GIG Cymru sy’n cydnabod ymdrech ein tîm cydweithredol ac amlddisgyblaethol i ddarparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel, amserol a hirdymor i blant â scoliosis.”
Gwnaeth Clinig SWAN (Syndrom Heb Enw) gyrraedd rownd derfynol Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru, gan ddathlu eu hymrwymiad i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel trwy feithrin diwylliant o waith tîm.
Clinig SWAN, sydd wedi'i leoli yn adrannau cleifion allanol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yw'r cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae’n cynnig gobaith i blant ac oedolion â syndromau mor brin nad oes ganddynt enw.
Sefydlwyd Clinig SWAN fel peilot dwy flynedd gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ceisio lleihau’r amser y mae cleifion yn aros am ddiagnosis, gwella gwybodaeth feddygol a meithrin ymchwil.
Dywedodd Dr Graham Shortland OBE, Meddyg Ymgynghorol Arweiniol ar gyfer clinig SWAN: "Mae'n fraint wirioneddol i Glinig SWAN fod ar y rhestr fer ar gyfer y categori Diwylliant Tîm. Mae hyn yn cydnabod ymagwedd wirioneddol amlddisgyblaethol gan holl aelodau'r tîm wrth sefydlu'r clinig newydd hwn, i geisio rhoi diagnosis i gleifion sydd â chlefyd prin a amheuir. Rydym hefyd yn ystyried y nifer o bartneriaid gwahanol yr ydym wedi gweithio gyda nhw, gan gynnwys grwpiau cleifion, fel rhan o'n tîm ac yn eu cydnabod yn llawn yn ein henwebiad ar gyfer rhestr fer y wobr."
Gwnaeth NewidCyflym gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru, am weithio y tu hwnt i ffiniau sefydliadol a sector i gyflawni canlyniadau sy’n bodloni anghenion newidiol gwasanaethau, nodau llesiant, a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Nod NewidCyflym, a ddatblygwyd gan Dîm Podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mewn cydweithrediad â Thîm Iechyd y Cyhoedd Lleol, yw annog plant pedair i chwe blwydd oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol dyddiol er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad iach cyhyrau eu traed a’u pigyrnau.
Wedi’i harwain gan amrywiaeth o gymeriadau cartŵn lliwgar, mae’r animeiddiad rhyngweithiol hwyliog yn annog plant i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion cryfhau ac ymestyn, heb fod angen offer ychwanegol na newid dillad. Cytunodd pum ysgol gynradd ddwyieithog yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gymryd rhan mewn cynllun peilot lle byddai disgyblion oedran Derbyn a Blwyddyn 1 yn gwneud yr ymarferion bob dydd dros gyfnod o wythnos.
Dywedodd Martha-Jane Powell, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd: "Rydym yn hynod ostyngedig ac yn falch bod ein hanimeiddiad cydweithredol, NewidCyflym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ennill Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru. Rwy'n gobeithio ei fod yn dangos bod unrhyw beth yn bosibl pan fo angerdd a brwdfrydedd wrth wraidd y dymuniad i newid y norm o ran yr hyn y mae'r GIG fel arfer yn ei wneud - mae angen i ni annog dulliau mwy arloesol, ataliol a meddwl am bethau'n gyfannol er mwyn gwella iechyd cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd Stephen Coombs, Arweinydd Podiatreg Proffesiynol: "Mae proffil tîm NewidCyflym wedi cael ei godi eto gyda'r enwebiad hwn ac mae wedi ein gwneud yn fwy penderfynol o hyrwyddo manteision ymarferion llawn hwyl dyddiol o fewn amgylchedd ystafell ddosbarth yr ysgol i helpu cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae atal ar gyfer y tymor hir ac ymyrraeth gynnar yn hanfodol, a lleihau anghydraddoldebau iechyd, cydweithio, cyfranogi, cynaliadwyedd ac integreiddio yw'r nod - mae NewidCyflym yn gam cyntaf yn y newid i arfer ataliol. Mae'r enwebiad hwn yn ein hysbrydoli i wneud mwy o'r gwaith hanfodol hwn."
Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Llongyfarchiadau i’r enillwyr ond hefyd i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr heddiw. Mae Gwobrau GIG Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Rwy’n falch iawn o weld ehangder y prosiectau gwella ansawdd sydd ar y gweill ar draws GIG Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer y rhai yr ydym yn gofalu amdanyn nhw. Gobeithio bod pob un ohonoch yn haeddiannol falch o’ch cyflawniadau yn y cyfnod heriol hwn.”
Mae Gwobrau GIG Cymru yn arddangos enghreifftiau o waith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sy’n trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru.