Neidio i'r prif gynnwy

Pedair ward yn ennill Achrediad Efydd ar gyfer safonau gofal uchel

19 Rhagfyr 2024

Y mis hwn cyflwynwyd Achrediad Efydd i bedair ward o dan Raglen Achredu a Gwella Wardiau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'r achrediad yn cydnabod ymroddiad y timau i ddarparu safonau gofal uchel a defnyddio mewnwelediadau sy'n cael eu gyrru gan ddata yn llwyddiannus i weithredu gwelliannau ystyrlon.

Y wardiau a enillodd Achrediad Efydd oedd:

  • Ward Strôc C4, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Ward Cardiothorasig C5, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Ward Llawfeddygaeth Gyffredinol, Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Ward Sam Davies yn Ysbyty'r Barri
 
 

Cyflwynwyd tystysgrifau i dimau nyrsio'r wardiau gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Jason Roberts a'r Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Dros Dro Jane Murphy.

Dywedodd Helen Bonello, Uwch Nyrs Safonau Proffesiynol yn BIP Caerdydd a'r Fro: “Hoffwn longyfarch ein timau ar ennill Achrediad Efydd fel rhan o'n rhaglen Achredu a Gwella Wardiau.

“Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant o rymuso sy'n cefnogi ein harweinwyr wardiau, yn ymgorffori sgiliau gwella ac yn sicrhau ein bod yn dathlu llwyddiant. Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu ymrwymiad y timau i wella ansawdd parhaus ym maes gofal cleifion, diogelwch ac ansawdd gofal iechyd cyffredinol.” Mae'r wobr yn cydnabod gallu'r timau nyrsio i ymgymryd â chylchoedd gwella, dangos cynnydd parhaus, a chyflwyno newidiadau effeithiol i wella gofal cleifion. Mae hefyd yn cynrychioli carreg filltir bwysig ar eu taith i Achrediad Arian, sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu â'r tîm amlddisgyblaethol ehangach yn eu hymdrechion gwella. Drwy gofleidio newid a chydweithio, mae'r timau yn gwella gofal cleifion a chanlyniadau, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn falch o'u cefnogi ar y daith hon.

Mae Rhaglen Achredu a Gwella Wardiau Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn fenter strwythuredig a ddatblygwyd gan dîm pwrpasol o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae'n dwyn ynghyd arbenigedd dadansoddol clinigol a digidol, gan ddefnyddio data i gefnogi gwelliant parhaus ar draws pob ward. Mae'r rhaglen yn darparu fframwaith i dimau wardiau er mwyn iddynt asesu a gwella eu perfformiad mewn meysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Adborth Cleifion a Staff: Sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar yr unigolion ac yn cael ei lywio gan fewnwelediadau gwerthfawr gan y rhai sy'n derbyn ac yn darparu'r gwasanaeth.
  • Effeithlonrwydd: Symleiddio prosesau i wneud y defnydd gorau o adnoddau tra'n cynnal gofal o ansawdd uchel.
  • Ansawdd a Diogelwch: Monitro’r broses o gadw at arferion gorau clinigol a safonau diogelwch, gan gynnwys rheoli heintiau a diogelwch meddyginiaeth.

Er mwyn ennill yr achrediad lefel Efydd, rhaid i bob ward ddarparu tystiolaeth o'u cynnydd drwy gylchoedd gwella, gan ddangos eu gallu i weithredu newidiadau, gwerthuso eu heffaith, ac ymgorffori gwelliannau cynaliadwy.

 

Prif lun: Rheolwr y Ward Bethan Price a'r tîm, Ward Cardiothorasig C5, YAC

Dilynwch ni