Neidio i'r prif gynnwy

Pedair fuddugoliaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd 2022

9 Rhagfyr 2022

Mae staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael eu cydnabod am eu gwaith pwysig ac arloesol yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd eleni.

Y seremoni, a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd yng Nghlwb Criced Sir Forgannwg, oedd y cyntaf i gael ei chynnal yn bersonol ers y digwyddiad cyntaf yn 2019.

Tîm Model Adsefydlu BIP Caerdydd a’r Fro oedd enillwyr cyffredinol y noson, a hefyd gwnaethant hefyd ennill y wobr am Ragoriaeth mewn Adsefydlu. Mae'r model a ddatblygwyd gan y tîm yn canolbwyntio ar adferiad, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd trwy wella iechyd a chefnogi hunanreolaeth. Mae gwasanaethau presennol yn cynnwys adferiad ar ôl Covid Hir, paratoi’n dda ar gyfer llawdriniaeth a chefnogi pobl i fyw’n dda gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Ymhlith yr enillwyr eraill ar y noson roedd Orla Adams, Arweinydd Deietetig ar gyfer Rheoli Pwysau Mamol. Enillodd Orla y Wobr am Wella Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd. Mae'r prosiect arloesol yn canolbwyntio ar sicrhau bod menywod sydd â BMI >40 kg/m2 yn magu cyn lleied o bwysau â phosibl yn ystod eu beichiogrwydd, a chynyddu ymgysylltiad menywod â'r llwybr rheoli pwysau ôl-enedigol, gan leihau'r risg i'r fam a'r babi. Roedd y beirniaid hefyd yn cydnabod awydd angerddol ac ymroddedig Orla i rannu arfer da ac uwchsgilio eraill.

Dyfarnwyd Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd y Flwyddyn i Judyth Jenkins, sydd bellach wedi ymddeol fel Pennaeth Gwasanaethau Maeth a Deieteg yn y Bwrdd Iechyd. Dangosodd Judyth arweinyddiaeth ysbrydoledig trwy gydol ei gwasanaeth, gan hyd yn oed ohirio cynlluniau i ymddeol yn 2020 i barhau i gefnogi’r GIG yn ystod y pandemig. Mae hi wedi gweithio’n ddiflino ac yn angerddol yn eirioli dros rôl maeth wrth wella iechyd a lles y boblogaeth, gyrru gwasanaethau yn eu blaenau, a sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau wrth galon datblygiadau yng Nghaerdydd a’r Fro a thu hwnt.

Dywedodd Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd yn BIP Caerdydd a’r Fro, “Llongyfarchiadau i Judyth, Orla, a thîm Adsefydlu BIP Caerdydd a’r Fro ar eu buddugoliaethau haeddiannol. Mae’r gwobrau hyn yn amlygu llwyddiannau eithriadol ein staff, a gwaith pwysig ac arloesol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwyddonwyr gofal iechyd a’u timau o fewn y Bwrdd Iechyd a ledled Cymru”. Darllenwch fwy am yr holl enillwyr ledled Cymru, ar wefan Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd.

Dilynwch ni