19 Ebrill 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio â Ballet Cymru i ddarparu cymorth artistig, creadigol a chynhwysol i blant a phobl ifanc sy’n byw gydag arthritis ieuenctid.
Lansiwyd y Gwasanaeth Rhewmatoleg Pediatrig yn 2019 a dyma’r gwasanaeth arbenigol cyntaf ar gyfer rhewmatoleg bediatrig yng Nghymru. Mae'r tîm yn gofalu am blant a phobl ifanc ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru sy'n byw gyda chyflyrau rhewmatolegol fel arthritis ieuenctid.
Cafodd Dr Joanne May, a sefydlodd y gwasanaeth rhewmatoleg bediatrig, ei hysbrydoli i weithio gyda Ballet Cymru—cwmni bale teithiol rhyngwladol i Gymru sy’n ymrwymedig i gynhwysiant ac arloesi mewn dawns a bale clasurol—ar ôl cydnabod y potensial ar gyfer cymorth holistaidd a chyfle i wella gofal cleifion y tu hwnt i'r lleoliad clinigol.
Dywedodd Dr May: “Ein nod yw darparu gofal holistaidd ond mae amser mewn clinigau yn brin sy’n golygu’n aml bod y ffocws ar reoli a thrin y cyflwr. Yn gynnar, roeddem yn cydnabod y byddai ymyriadau creadigol o fudd i blant nid yn unig oherwydd y byddai elfennau dawns yn cefnogi symudiad, ond hefyd oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i fagu hyder a chefnogi lles plant a’u teuluoedd. Gwelsom hefyd y gallai rhieni a theuluoedd deimlo'n ynysig ac y gallent werthfawrogi cyfleoedd i gwrdd â theuluoedd eraill sydd â phrofiadau tebyg. Wrth i’r gwasanaeth ddatblygu, roeddem am edrych ar sut olwg fyddai ar bartneriaeth holistaidd y tu allan i’r lleoliad iechyd.”
Wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cynlluniwyd y rhaglen Dawnsio i Symud ar y cyd â Ballet Cymru i ddarparu profiad unigryw a thrawsnewidiol i blant a’u teuluoedd i archwilio eu meddyliau, eu teimladau, a’u galluoedd trwy ddawns a lluniadu, tra hefyd yn dysgu am y celfyddydau creadigol sy’n rhan o gynhyrchiad bale fel dylunio gwisgoedd ac adrodd straeon.
Drwy gydol y prosiect, gwnaethom sylwi hefyd ar y manteision annisgwyl o ddod â theuluoedd at ei gilydd gyda’r timau clinigol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion cleifion a’u teuluoedd y tu allan i amgylchedd y clinig.
Eglurodd Dr May: “Er ein bod ni wedi gweithio i adeiladu rhaglen yr oeddem yn meddwl yn wreiddiol y byddai’n ymwneud yn gyfan gwbl â’r plant yn dawnsio, yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd ar hyd y ffordd oedd bod y rhaglen wedi ymwneud yn llai â’r perfformiad ac yn fwy â ni i gyd yn dod at ein gilydd fel teuluoedd.
“Mae’r sesiynau wedi helpu i feithrin cydberthnasau a chyfathrebu â rhieni. Mae’n rhoi’r cyfle i ni feddwl am gleifion a’u teuluoedd yng nghyd-destun eu bywydau ac nid dim ond am yr amser byr hwnnw sydd gennym mewn apwyntiadau.”
Gyda chefnogaeth Cymru Versus Arthritis, mae’r diwrnodau hwyl i’r teulu hyd yma wedi’u cynnal yng Nghaerdydd, Casnewydd, a Chaerfyrddin ac wedi cynnwys cyfres o weithdai creadigol gan gynnwys dawns, ioga, a lluniadu. Gwahoddwyd rhieni a gofalwyr hefyd i gymryd rhan mewn gweithdai ymwybyddiaeth ofalgar dan arweiniad Tim Anfield o Mindful Families.
Dywedodd Louise Lloyd, Swyddog Mynediad a Chynhwysiant yn Ballet Cymru: “Mae’r gair bale yn aml yn gallu codi rhwystrau, yn enwedig i bobl ifanc a allai fod mewn poen neu’n gofidio. Y syniad oedd ei wneud yn agored, yn gyfeillgar ac yn ddiddorol ac fe wnaethom dreialu gwahanol fformatau gyda mannau trafod a gweithdai i ddarganfod beth sy'n gweithio.
“Yn y bore, fe wnaethom gynnal sesiynau blasu gwahanol i gyflwyno’r bobl ifanc i wahanol sgiliau artistig a dechrau magu eu hyder. Unwaith eu bod yn teimlo'n ddigon cyfforddus a diogel i ddod i mewn i'r stiwdio ddawns, buont yn gweithio gyda'r tîm addysg dawns yn y prynhawn i greu darn perfformio ac fe wnaethant hefyd greu eu hategolion gwisgoedd eu hunain yn seiliedig ar Hugan Fach Goch Roald Dahl.
“Fe wnaethon ni gloi’r diwrnod gyda’r perfformiad, a oedd yn foment hyfryd i deuluoedd. Roedd y plant a’r bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a gallech weld eu hyder yn cynyddu drwy gydol y dydd.”
I ddarganfod mwy am Ballet Cymru, ewch i ballet.cymru.