Mae gan bawb ragenwau. Rydym yn eu defnyddio bob dydd wrth ryngweithio â phobl eraill.
Mae gwybod a defnyddio rhagenwau cywir unigolyn yn helpu i feithrin cynwysoldeb a chreu amgylchedd diogel a chroesawgar.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio rhagenwau fel fe, hi, neu nhw. Mae’n well gan rai pobl ddefnyddio rhagenwau neo, sy’n fath gwahanol o ragenw a ddefnyddir yn aml gan bobl anneuaidd neu bobl nad ydynt yn cydymffurfio â rhywedd penodol. Gall hyn gynnwys ey/em, ze/zir, fae/faer, a xe/xem.
Efallai y bydd rhai pobl yn defnyddio rhagenwau lluosog, fel cyfuniad o ‘hi’ a ‘nhw’. Mae hyn yn golygu y gallwch eu defnyddio’n gyfnewidiol pan fyddwch yn cyfeirio at y person hwn, er ei bod yn braf defnyddio’r ddau pan allwch.
Pam ddylwn i eu harddangos?
Mae rhannu eich rhagenwau ar broffiliau cyfryngau cymdeithasol ac mewn llofnodion e-bost yn ffordd hawdd o roi gwybod i bobl am eich rhagenwau, yn enwedig os nad ydych wedi cwrdd wyneb yn wyneb. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i bobl ddyfalu.
Efallai ei fod yn ymddangos yn amlwg ar y dechrau, ond mae hefyd yn helpu i normaleiddio rhannu rhagenwau a all helpu pobl draws ac anneuaidd a allai uniaethu â rhyw sy’n wahanol i’w rhyw pan gawson nhw eu geni. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol os oes gennych enw amwys fel Sam, Alex, neu Taylor.
Sut alla i eu harddangos?
Mae arddangos eich rhagenwau ar-lein yn beth cyflym i’w wneud, ac mae ond yn cymryd munud neu ddwy, ond gall gael effaith gadarnhaol ar y bobl rydych chi’n cyfathrebu â nhw.
Mae eisoes gan rai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol le pwrpasol i chi arddangos eich rhagenwau dewisol ond gall fod mor syml â’u rhoi yn eich bio. Gallwch wneud yr un peth gyda’ch llofnod e-bost fel bod cyfoedion a chydweithwyr yn gwybod pa ragenwau i’w defnyddio.
Mae rhai gweithleoedd hefyd yn caniatáu i ragenwau gael eu cynnwys ar fathodynnau adnabod.
Gall rhoi rhagenwau ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu yn eich e-bost fod mor syml â “Rhagenw: fe” neu “Fy rhagenw yw nhw”.
Rydym wedi rhoi rhai templedi dwyieithog at ei gilydd y gallwch eu copïo a’u gludo:
Rhagenwau:
Rhagenw: Fe
Rhagenw: Hi
Rhagenw: Nhw
Rhagenwau: Xe/xem
Fy rhagenwau yw...
Fy rhagenw yw fe
Fy rhagenw yw hi
Fy rhagenw yw nhw
Fy rhagenwau yw xe/xem