Neidio i'r prif gynnwy

Pam fod ein cydweithwyr yn cymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru 2022

26 Awst 2022

Bydd Pride Cymru yn dychwelyd i brifddinas Cymru y mis hwn ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) yn falch o fod yn ymuno â chydweithwyr GIG Cymru yn yr orymdaith flynyddol.

Bydd dathliadau’n cael eu cynnal ar Lawntiau Neuadd y Ddinas Caerdydd dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst ac mae disgwyl i filoedd ymuno â’r orymdaith drwy ganol y ddinas ar 27 Awst.

Mae rhai o’n haelodau staff a fydd yn gorymdeithio ochr yn ochr â chydweithwyr y Bwrdd Iechyd, yn cefnogi’r digwyddiad yn wirfoddol neu’n mynychu am resymau eraill, wedi siarad am pam y byddant yn cymryd rhan a pham fod Pride Cymru yr un mor bwysig ag erioed.

Morgan Barnes — Cydlynydd Tîm Amlddisgyblaethol Gwasanaethau Canser

Rwy’n ymuno â chydweithwyr GIG Cymru a BIP Caerdydd a’r Fro yng Ngorymdaith Pride Cymru eleni oherwydd bod homoffobia yn dal i fod yn broblem enfawr mewn cymdeithas.

Mae pobl yn gofyn ‘pam fod angen Pride arnom o hyd? Gallwch briodi, mae gennych yr un hawliau, rydych chi eisoes wedi ennill’. Ond mae’r bobl hynny yn cymharu hawliau cyfartal â thriniaeth gyfartal.

Er bod gennym hawliau cyfartal yn gyfreithiol, mae pobl hoyw yn dal i wynebu stigma enfawr ac yn anffodus, mae camdriniaeth, trais ac erledigaeth yn dal i ddigwydd. Mae Pride yn ein hatgoffa bod y frwydr dros gydraddoldeb ymhell o fod drosodd ac na fydd drosodd tan i bobl LHDTC+ allu cydfodoli heb ofn.

I mi, mae’n bwysig bod GIG Cymru a BIP Caerdydd a’r Fro yn rhan o’r Orymdaith gan fy mod i’n gweithio iddyn nhw ac rwy’n gobeithio parhau i weithio iddyn nhw am flynyddoedd i ddod.

Mae gwybod bod pob person yn bwysig — boed yn gydweithiwr neu’n glaf — yn fy ngwneud i’n hapus ac yn falch o weithio i BIP Caerdydd a’r Fro.

Miranda King — Cynorthwyydd Labordy mewn Biocemeg

Rwyf wedi bod eisiau cymryd rhan yn ystod blynyddoedd blaenorol ond dyma fydd fy nhro cyntaf yn mynychu Pride Cymru ac yn gorymdeithio gyda GIG Cymru a BIP Caerdydd a’r Fro.

Ar draws y byd, mae hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo yn agored. Er bod Pride yn ddathliad, mae hefyd yn wleidyddol ac mae’n bwysig ein bod yn sefyll i fyny ac yn gorymdeithio dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo.

Mae hefyd yn hanfodol bod gwelededd LHDTC+ o fewn GIG Cymru a BIP Caerdydd a’r Fro, fel bod pobl LHDTC+ yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am brofiadau gyda darparwyr gofal iechyd.

Ellis Peares — Aelod o’r Bwrdd Ieuenctid

Fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, byddaf yn cymryd rhan yn Pride Cymru ochr yn ochr â’m cydweithwyr yn y Senedd. Rwyf wedi bod i Essex Pride o’r blaen ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fy mhrofiad Pride Cymru cyntaf.

Credaf yn gryf fod Pride yr un mor bwysig nawr ag yr oedd yn 1972, pan gynhaliwyd yr orymdaith Pride gyntaf yn y DU . Fel person ifanc sydd heb fod ‘allan’ ers cymaint â hynny o amser, mae Pride hefyd yn gyfle i mi ddysgu a darganfod pethau newydd.

Fel aelod o Fwrdd Ieuenctid Iechyd Caerdydd a’r Fro, rwy’n credu ei bod yn bwysig i GIG Cymru a BIP Caerdydd a’r Fro fod yn rhan o’r Orymdaith gan ei fod yn dangos i bobl ifanc LHDTC+ nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a bod y Bwrdd Iechyd yn hyrwyddo cynwysoldeb.

Lisa Cordery — Nyrs Iechyd Cyhoeddus Arbenigol yn y Gymuned

Eleni, rwy’n mynychu Pride Cymru fel gwirfoddolwr ac rydw i wedi cymryd gwyliau blynyddol i helpu gyda’r digwyddiad. Rwyf bob amser wedi gweld Pride fel dathliad a phrotest ac rwy’n teimlo’n angerddol bod angen i mi gymryd mwy o ran.

Fe ddes i’n ymddiriedolwr Pride Cymru dros flwyddyn yn ôl ond dyma fydd fy nhro cyntaf yn gweithio fel gwirfoddolwr wyneb yn wyneb. Rydw i eisoes yn teimlo’r pwysau ond hefyd yn llawn cyffro.

Rwy’n hynod falch bod y Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd mynychu Pride a chymryd rhan yn yr orymdaith. Mae cefnogaeth weladwy yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r nifer o aelodau staff, cleifion ac ymwelwyr LHDTC+ a’r gymuned LHDTC+ ehangach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’n dangos bod cynhwysiant a darparu gofal tosturiol i bawb yn bwysig i ofal iechyd lleol.

Chandra Almeida — Cydlynydd Pobl a Diwylliant

Mae mynychu Pride Cymru yn bwysig i mi gan mai dyma fydd fy ngŵyl Pride gyntaf ers symud i Gymru a dod allan yn ddeurywiol.

Fe es i i Pride Bryste yn gynharach yn ystod yr haf ac roedd yn brofiad mor gathartig a chadarnhaol – rwy’n edrych ymlaen at ddathlu hynny yn y lle rydw i nawr yn ei alw’n gartref, gyda rhai o’r ffrindiau anhygoel a chefnogol rydw i wedi’u gwneud ar hyd y ffordd.

Fel aelod o Dîm Pobl a Diwylliant y Bwrdd Iechyd, mae’n bwysig i mi fod GIG Cymru yn hyrwyddo cynhwysiant y gymuned LHDTC+ ac mae ymuno yn yr Orymdaith yn ffordd wych o ddangos y gefnogaeth a’r undod hwnnw.

Mitchell Jones — Rheolwr Tegwch a Chynhwysiant

Rwy’n cymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru ar gyfer fy hun pan oeddwn i’n iau, ac i bobl sydd yn yr un sefyllfa heddiw. Cymerodd amser hir i mi dderbyn fy mod i’n hoyw. Roedd cwrdd â phobl LHDTC+ eraill a gweld mwy o amlygrwydd i’r gymuned yn gatalydd i mi allu bod yn fi fy hun.

Mae’n bwysig ein bod yn gorymdeithio yn Pride i hyrwyddo BIP Caerdydd a’r Fro a GIG Cymru fel gwasanaeth a chyflogwr cynhwysol o safbwynt pobl LHDTC+. Yn aml, mae pobl angen ein cymorth pan fyddant fwyaf agored i niwed; mae’n bwysig eu bod yn ymddiried ynom ac yn teimlo eu bod yn gallu bod yn onest ac yn nhw eu hunain tra yn ein gofal.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni