04 Ebrill 2024
Yr wythnos diwethaf mewn seremoni yn y Senedd, derbyniodd yr Offthalmolegydd Pediatrig Ymgynghorol Patrick Watts y Wobr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.
Mae’r rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant yn cael eu dewis gan banel annibynnol, o blith enwebiadau a anfonwyd gan bobl ledled Cymru. Dewisir yr enillwyr gan y Prif Weinidog.
Roedd y wobr yn cydnabod Mr Patrick Watts, sy’n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, am ei effaith ar fywydau plant â phroblemau llygaid, wedi iddo achub golwg nifer o fabanod a phlant drwy gydol ei yrfa.
Am bum mlynedd, gwasanaethodd Mr. Watts fel Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Hyfforddiant Offthalmig yng Nghymru, gan hyfforddi traean o'r offthalmolegwyr ymgynghorol sy'n ymarfer ledled y wlad ar hyn o bryd. Mewn neges fideo a recordiwyd ar gyfer y seremoni wobrwyo, dywedodd Mr Watts: “Rwy’n gofalu am blant â phroblemau llygaid, ac rwyf wrth fy modd yn addysgu. Dyma fy angerdd. Rwy’n mwynhau cyflwyno gwybodaeth i wella’r gofal a ddarparwn yn y maes offthalmoleg.”
Gwnaeth Mr. Watts, sy’n wreiddiol o India, ymgartrefu yng Nghymru ar ôl ymfudo fel meddyg ôl-raddedig. Aeth ei hyfforddiant ag ef i Swydd Efrog, Windsor, Cymru, Llundain, a Chanada, cyn iddo ymsefydlu yng Nghymru fel meddyg ymgynghorol.
Mae’n ymroddedig i'w broffesiwn, ac mae’n gyfrifol am ysgrifennu llu o ganllawiau a dogfennau addysgu ar gyfer Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr. Mae wedi arwain ymchwil i anafiadau nad ydynt yn ddamweiniol i'r llygaid a sut y gall meddygon gadw llygad am arwyddion o gam-drin ymhlith babanod.
Llun: trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru