Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Caerdydd a'r Fro yn cael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol 2025

8 Rhagfyr 2025

Mae dwy nyrs o Gaerdydd a’r Fro wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol 2025. 

Mae’r gwobrau’n cydnabod y rhai sydd wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygu ymarfer nyrsio a gwella gofal mewn cymunedau ledled Cymru. 

Derbyniodd Claire Loveridge, Addysgwr Ymarfer mewn Nyrsio Plant Cymunedol, a Victoria (Vicki) Hayman-Teear, Uwch Nyrs yn Ardal y Fro, wobrau mewn dau gategori am eu hymrwymiad i hyrwyddo meysydd gwaith allweddol yn y Bwrdd Iechyd. 

Gwobr Addysg Nyrsio 

Dyfarnwyd Gwobr Addysg Nyrsio i Claire am ei gwaith pwysig yn arwain menter i sefydlu dull strwythuredig a safonol o hyfforddi ac asesu ym maes Nyrsio Cymunedol Plant. 

Gweithredodd Claire gynllun gwella gweledigaethol ar gyfer hyfforddiant a datblygiad, a chydlynu cyfleoedd hyfforddi i gydweithwyr ledled Cymru. Yn ogystal, creodd rwydwaith cenedlaethol o unigolion i raeadru gwybodaeth allweddol a gwasanaethu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer anghenion hyfforddi ym mhob Bwrdd Iechyd. 

Nid yn unig y mae gwaith Claire wedi arwain at welliannau o ran canlyniadau i gleifion, ond hefyd mewn morâl staff, cymhwysedd a hyder clinigol, a llywodraethu clinigol. 

 
 
 
 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni