Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs ymroddedig yn ennill gwobr 'Arwr Di-glod' yn Nau Dŷ'r Senedd

6 Chwefror 2024

Mae nyrs brofiadol sydd wedi cysegru dau ddegawd o’i gyrfa i drin cleifion â thrombosis wedi ennill gwobr fawreddog ledled y DU.

Derbyniodd Marilyn Rees, Arbenigwr Nyrsio Thrombosis Gwythiennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wobr Ymarferydd Gofal Iechyd - Arwr Di-glod yn y Gwobrau VTE yn Nau Dŷ’r Senedd yn Llundain.

Cafodd ei chanmol am ei gwaith aruthrol a’i hymroddiad i gleifion â VTE (thrombo-emboledd gwythiennol), cyflwr sy’n digwydd pan fydd clot gwaed yn ffurfio mewn gwythïen ac yn teithio drwy’r llif gwaed i’r ysgyfaint.

Mae rhan o waith Marilyn wedi cynnwys codi ymwybyddiaeth ynghylch VTE, gan gynnwys atal, rheoli, darparu eiriolaeth ac addysg a chymorth i gleifion.

Datblygodd Marilyn ei gwybodaeth helaeth am glotiau gwaed a sut i amddiffyn cleifion tra’n gweithio fel Prif Nyrs, a arweiniodd wedyn at ddod yn un o aelodau sefydlu’r Pwyllgor Thrombosis a Gwrthgeulo.

Arweiniodd ddatblygiad arloesol y Clinig DVT dan arweiniad nyrsys, gan ddod â thriniaeth a diagnosis DVT at ei gilydd mewn un lle, gan arwain at newid ac arloesi yn y ddau faes, a gwasanaeth llawer gwell a mwy cyson i gleifion.

Enwebwyd Marilyn am yr anrhydedd gan nifer o gydweithwyr yn y tîm thrombosis am ei hymroddiad i’w rôl dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae ei gyrfa wedi ymestyn dros gyfanswm o 40 mlynedd ac mae wedi ei gweld yn cymryd rolau GIG mewn gofal heb ei drefnu, orthopaedeg a gofal dwys.

Gwnaeth Grŵp Llywio Thrombosis a Gafwyd mewn Ysbytai (HAT) Cymru Gyfan - yr oedd Marilyn yn aelod sylfaenol ohono - hefyd dderbyn gwobr canmoliaeth uchel am raglen gwella ansawdd ragorol sy'n datblygu dulliau atal thrombosis.

Mae’r grŵp yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, ac yn fwy diweddar Grŵp Risg Cymru, i wella dealltwriaeth, atal ac adnabod HAT, datblygu polisi Thromboproffylacsis Cymru gyfan, coladu data HAT Cymru gyfan a datblygu offer hyfforddi ESR ar gyfer staff.

Cynhaliwyd y Gwobrau VTE blynyddol gan Lyn Brown AS a’r elusen Thrombosis UK ar 29 Tachwedd, 2023. Maen nhw'n gyfle i ddathlu'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud i helpu i atal a gweithio gyda VTE.

Gwahoddwyd timau gofal iechyd a nyrsys arbenigol unigol o bob rhan o’r DU, gyda phawb yn dathlu gweithredu dulliau atal a rheoli VTE yn effeithiol gan arwain at well diogelwch, profiad a chanlyniadau i gleifion.

Lansiwyd ap Let’s Talk Clots yn y gwobrau, a ddisgrifiwyd fel adnodd ardderchog a ddatblygwyd ar gyfer cleifion â thrombosis trwy eu hadborth parhaus. Mae’n cynnig cyfoeth o wybodaeth a chymorth, gan ateb unrhyw gwestiynau gan gleifion.

Dilynwch ni