04 Hydref 2024
Mae Rhian Greenslade, Nyrs Cyswllt Rhyddhau i Blant ag Anghenion Iechyd Cymhleth WellChild yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, wedi’i henwi’n enillydd yng ngwobrau cenedlaethol mawreddog WellChild 2024.
Cyflwynwyd y gwobrau, a drefnwyd gan WellChild, elusen genedlaethol ar gyfer plant sy’n ddifrifol wael, mewn seremoni ddydd Llun 30 Medi yng Ngwesty’r Royal Lancaster yn Llundain ac roedd Noddwr WellChild, y Tywysog Harry, yn bresennol. Cafodd Rhian gydnabyddiaeth gyda’r wobr ‘Nyrs Ysbrydoledig’ a chafodd dreulio amser yn sgwrsio â Dug Sussex.
Yn ei rôl, mae Rhian yn helpu plant ag anghenion meddygol cymhleth i bontio o’r ysbyty i’r cartref, gan ddarparu cymorth ac arweiniad i deuluoedd ar draws chwe bwrdd iechyd, ac mae’n ymdrechu i sicrhau y gallant gael cymorth emosiynol ac ymarferol pan fyddant yn gadael yr ysbyty.
Dywedodd Rhian: “Roedd y wobr yn anrhydedd. Wnes i erioed ddisgwyl ennill gwobr pan ddechreuais fy ngyrfa nyrsio 35 mlynedd yn ôl. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymhleth dros y 24 mlynedd diwethaf. Maent yn bendant yn eich dysgu am flaenoriaethau bywyd ac yn gwneud i chi weld bywyd o bersbectif gwahanol. Gofalu am y grŵp cleifion hwn yn y gymuned a lleoliadau acíwt sydd wedi rhoi’r angerdd i fi hyrwyddo ac eirioli dros anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymhleth.
“Roedd y seremoni wobrwyo yn anhygoel ac roedd yr holl ddigwyddiad, o gwrdd â’r Tywysog Harry ac enillwyr y gwobrau eraill, wedi ei gwneud yn noson fythgofiadwy. Mae wedi atgyfnerthu pa mor ffodus ydw i ac wedi fy ngwneud i mor ddiolchgar i weithio gyda thîm o weithwyr proffesiynol ym maes pediatreg, yn y gymuned ac mewn lleoliadau acíwt yng Nghaerdydd a’r Fro.”
Daeth enwebiad Rhian ar gyfer y wobr gan Laura Truscott-Wright, Nyrs Hyfforddwr Rhieni WellChild ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Dywedodd Laura, “Mae ei hymroddiad, ei charedigrwydd a’i thosturi wrth gyflawni ei rôl yn ysbrydoledig. Does dim byd yn gweithredu mor ddidrafferth heb Rhian, sy’n glod iddi hi ac i WellChild. Mae hi’n gweithio’n ddiflino, bob amser â gwên ar ei hwyneb ac yn llawn geiriau caredig, i sicrhau bod teuluoedd yn gallu mynd â’u plant ag anghenion cymhleth adref. Mae ei gwaith wedi cael ei werthfawrogi gan lawer o deuluoedd dros y blynyddoedd.”
Fel un o’r Nyrsys WellChild sydd wedi gwasanaethu hiraf, mwy na 15 mlynedd yn ei rôl bresennol a dros 30 mlynedd o brofiad nyrsio, mae Rhian wedi cael effaith anfesuradwy ar fywydau miloedd o blant a’u teuluoedd. Y tu hwnt i’w dyletswyddau nyrsio o ddydd i ddydd, mae’n eiriolwr angerddol dros elusen WellChild, gan ymwneud yn weithgar â chefnogi ymgyrchoedd a gweithgareddau codi arian, i weld plant ag anghenion meddygol cymhleth yn ffynnu gartref.