27 Medi 2024
Mae Caroline Trezise, Nyrs Glinigol Arbenigol y Colon a’r Rhefr, wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gwaith ‘eithriadol’ gyda chleifion canser y coluddyn.
Cyflwynwyd Gwobrau Nyrsys Canser y Colon a’r Rhefr Gary Logue 2024 ym Manceinion ar 19 Medi. Derbyniodd Caroline y wobr yn y categori ‘nyrsys a enwebwyd gan eu cydweithwyr’.
Enwebwyd Caroline, sy’n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, gan gydweithwyr oherwydd ei gwaith yn datblygu Gwasanaeth Metastasis Peritoneol y Colon a’r Rhefr Cymru Gyfan dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cyflwynodd Prif Weithredwr Bowel Cancer UK, Genevieve Edwards, y wobr gan ddweud: “Roedd ein beirniaid wedi’u plesio’n fawr gan y gefnogaeth a’r tosturi rhagorol y mae Caroline yn eu rhoi i gleifion, yn ogystal â’r syniadau arloesol y mae hi wedi’u cyflwyno i’r ysbyty.”
Gwasanaeth Metastasis Peritoneol y Colon a’r Rhefr Cymru Gyfan yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’n rhoi cyfle i gleifion canser y coluddyn sydd â chelloedd canser wedi'u lledaenu i’r peritonewm (haen denau o feinwe y tu mewn i’r abdomen) gael triniaeth sy’n cyfuno llawdriniaeth â chemotherapi. Cyn i’r gwasanaeth gael ei gyflwyno roedd cleifion yng Nghymru yn cael cynnig cemotherapi lliniarol, oni bai eu bod yn gwneud cais i dderbyn triniaeth yn Lloegr. Ar gyfer cleifion addas, dangosir bod y driniaeth newydd yn arwain at allu goroesi am 5 mlynedd neu fwy ar gyfer dros 50% sy’n ei derbyn.
Bu’r beirniaid yn canmol Caroline am ba mor dda y mae’n cefnogi cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth gan fyrddau iechyd ledled Cymru, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael taith ddidrafferth at y llawdriniaeth.
Dywedodd Jody Parker, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a’r Rhefr yn BIP Caerdydd a’r Fro ac arweinydd prosiect yng Ngwasanaeth Metastasis Peritoneol y Colon a’r Rhefr Cymru Gyfan: “Mae Caroline eisoes yn nyrs arbenigol y colon a’r rhefr rhagorol ond mae wedi rhagori ymhellach dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn ei rôl yn datblygu Gwasanaeth Metastasis Peritoneol y Colon a’r Rhefr Cymru Gyfan.
“Yn ogystal â’i llwyth gwaith, sydd eisoes yn drwm, mae hi wedi cefnogi cleifion ledled Cymru sy’n cael eu atgyfeirio at ein gwasanaeth newydd. Mae ei hymrwymiad ymhell y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir. Mae bron i 200 o gleifion wedi bod trwy ein system atgyfeirio gyda 40 wedi cael rhyw fath o ymyriad llawfeddygol gan ein tîm. Caroline yw’r person allweddol wrth gydlynu’r tîm amlddisgyblaethol, a rheoli cleifion allanol a chleifion mewnol.
“Yn ogystal â’r sgiliau trefnu ac arwain y mae Caroline wedi’u dangos, mae ei thosturi a’i chefnogaeth fugeiliol heb eu hail. Mae cleifion yn ei charu. Mae ganddi gydbwysedd gwych o onestrwydd, didwylledd a charedigrwydd ac mae’n darparu hyn i gyd i sicrhau bod y claf yn cael y wybodaeth a’r gefnogaeth gywir sydd eu hangen arnynt trwy’r broses anodd hon, hyd yn oed pan fo’n anodd ei chlywed. Ar ôl cael adborth gan gleifion a chlinigwyr, mae enw Caroline yn codi bob tro yn y ganmoliaeth a roddir.”
“Mae sefydlu’r gwasanaeth hwn wedi bod yn her i ni i gyd a gallaf ddweud yn onest, heb Caroline, ni fyddem wedi gallu ei ddarparu. Fel cymaint o nyrsys sy’n gweithio mor galed dros eu cleifion, mae’n haeddu’r gydnabyddiaeth a’r ganmoliaeth am fod yn berson eithriadol.”
Mae Gwobrau Nyrsys Canser y Colon a’r Rhefr Gary Logue yn tynnu sylw at lwyddiannau gwych nyrsys y colon a’r rhefr sy’n cael effaith sylweddol ar gleifion sydd wedi’u heffeithio gan ganser y coluddyn, yn darparu gofal eithriadol ac yn dangos menter ragorol. Sefydlwyd y gwobrau ddeng mlynedd yn ôl gan Bowel Cancer UK i anrhydeddu Gary Logue, a oedd yn gweithio i’r elusen fel cynghorydd nyrsio arbenigol a fu farw, yn drist iawn, yn 2014.
Canser y coluddyn yw’r trydydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru. Po gynharaf y deuir o hyd iddo, y mwyaf tebygol yw y gellir ei drin. Gall canser y coluddyn effeithio ar unrhyw un, beth bynnag fo’ch oedran, rhywedd, ethnigrwydd neu ble rydych chi’n byw.
Tri phrif symptom canser y coluddyn yw:
Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sydd â’r symptomau hyn ganser y coluddyn ond ewch i weld eich meddyg teulu os oes gennych un neu fwy o symptomau canser y coluddyn a’u bod wedi parhau am dros dair wythnos.