Wrth i'n safleoedd ysbyty fynd yn brysurach, rydym yn gweld mwy o draffig yn ein prif ysbytai sy’n golygu galw uwch am leoedd parcio ceir.
Gyda gwaith adeiladu yn digwydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) rydym wedi gorfod lleihau ac ailddyrannu lleoedd parcio er mwyn cynyddu capasiti ar gyfer rhai clinigau, i helpu i leihau amseroedd aros cleifion.
Yn YAC rydym wedi ailddyrannu lleoedd Bathodyn Glas i lawr gwaelod y maes parcio aml-lawr ac yn YALl gellir dod o hyd i leoedd parcio Bathodyn Glas ym Meysydd Parcio 1 a 4, yn ogystal ag o flaen Canolfan y Plant ym Maes Parcio 9.
Gyda lleoedd parcio eisoes yn gyfyngedig yn ein hysbytai, rydym yn deall yr heriau a wynebir gan lawer o gleifion ac ymwelwyr, yn ogystal â staff, wrth gael mynediad i'n safleoedd mewn car.
Yn YAC ac YALI mae gennym leoedd parcio wedi’u dyrannu ar gyfer cleifion ac ymwelwyr. Er nad oes angen talu i barcio, efallai na fydd bob amser yn bosibl dod o hyd i le, yn enwedig yn ystod adegau mwyaf prysur y dydd.
Hoffem atgoffa pawb sy'n teithio i’n hysbytai, y gallant ddefnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim sy'n rhedeg ar amseroedd rheolaidd drwy’r dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth Parcio a Theithio, byddwch yn helpu i leihau nifer y cerbydau sy’n dod i’n safleoedd, a all helpu i leddfu tagfeydd a gwella ansawdd aer. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’n hymrwymiad fel Bwrdd Iechyd i deithio cynaliadwy a llesol. Rydym hefyd yn annog pobl sy'n ymweld â'n safleoedd i feicio a cherdded lle bo modd.
Dim ond chwe munud yw’r amser teithio ac mae bysiau’n rhedeg bob 20 munud (gyda’r bws cyntaf yn gadael safle Parcio a Theithio Dwyrain Caerdydd, Pentwyn, CF23 8HH, am 6:30am a’r bws olaf yn gadael YAC am 9pm).
Gweler yr amserlen lawn ar gyfer gwasanaeth Parcio a Theithio Ysbyty Athrofaol Cymru yma.
Tua 11 munud yw’r amser teithio ac mae bysiau'n rhedeg bob 20 munud (gyda'r bws cyntaf yn gadael Willcox House, Bae Caerdydd, CF11 0BA, am 6.30am, a'r bws olaf yn gadael YALl am 7pm, Llun – Gwener).
Gweler yr amserlen lawn ar gyfer gwasanaeth Parcio a Theithio Ysbyty Llandochau yma .