Neidio i'r prif gynnwy

Nod Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Caerdydd yw grymuso cymunedau Caerdydd i hyrwyddo bwyd lleol, cynaliadwy

Yn dilyn llwyddiant Gŵyl 2020, mae Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Bwyd Caerdydd wedi dychwelyd, gan ganolbwyntio ar adeiladu cymunedau iach. Gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir yn digwydd yn ystod yr wythnos rhwng 16 - 24 Hydref, bydd yr ŵyl yn cynnal cyfres o sesiynau pwrpasol sy’n canolbwyntio ar fwyd maethlon, cynaliadwyedd a chysylltu gydag unigolion o’r un anian.

Mae partneriaeth bwyd cynaliadwy Bwyd Caerdydd yn deall bod y bwyd sy’n cael ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd bob dydd ar draws Caerdydd. Y tu hwnt i’r manteision iechyd, mae bwyd da sy’n gynaliadwy ac yn lleol yn helpu i adeiladu economi fwyd lleol sy’n ffynnu a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn ddiweddar dyfarnwyd statws Arian i Fwyd Caerdydd, aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sef y lle cyntaf yng Nghymru i dderbyn y statws Arian, gan gydnabod gwaith arloesol y ddinas yn hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

Trefnwyd 45 o ddigwyddiadau yn ystod Gŵyl yr Hydref y llynedd, gan ddenu 4,000 o bobl a dosbarthwyd dros 5,000 o blanhigion llysiau i bobl leol. Er mwyn parhau i adeiladu ar y momentwm a grëwyd y llynedd, nod Bwyd Caerdydd yw helpu cymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain, rhannu cynnyrch a chysylltu gyda chymdogion yn ystod rhaglen o ddigwyddiadau eleni, a fydd yn cael eu cynnal ar draws y ddinas gan ddilyn canllawiau diogelwch COVID-19.

Gan ddod â grwpiau cymunedol, busnesau lleol, gerddi, ysgolion a sefydliadau at ei gilydd, bydd Gŵyl Bwyd Da yr Hydref Caerdydd yn canolbwyntio ar adeiladu cymunedau cryfach, iachach sy’n blaenoriaethu bwyd da. Bydd yr artist lleol, Nathan Wyburn, yn creu llun ar raddfa fawr gan ddefnyddio ffrwythau a llysiau a dyfwyd yn lleol a fydd yn cael eu coginio gan grwpiau trwy gydol yr ŵyl. Caiff hyn ei lansio ar Ddiwrnod Bwyd y Byd (16 Hydref). Yn ogystal â hyn, bydd yr Ŵyl yn croesawu cynnwys bwyd da a gweithgareddau gan bartneriaid ar draws y ddinas, yn cynnwys cwisiau bwyd, sesiwn Tyfu ar y Cyd Rithwir, sesiynau cerfio pwmpen a llawer mwy.

Bydd busnesau lleol gan gynnwys Bar 44, Pantri Penylan a Chaffi’r Secret Garden yn cynnal “bwydlen arbennig Bwyd Da Caerdydd” ar gyfer yr ŵyl, i ddathlu bwyd blasus, maethlon sy’n gyfeillgar i’r blaned.

“Fel Bwrdd Iechyd rydym yn ymrwymedig, gyda’n partneriaid, i wella iechyd a lles ein staff a’r boblogaeth leol, gan ganolbwyntio’n benodol ar greu amgylchedd bwyd iachach. Rydym ni bob amser yn falch o gefnogi gwaith ein partner Bwyd Caerdydd, sydd â rôl bwysig yn helpu ein poblogaeth i gael mynediad at fwyd da a hyrwyddo system fwyd gynaliadwy yng Nghaerdydd. Mae Gŵyl Bwyd Da yr Hydref yn ddigwyddiad gwych sy’n annog ein cymunedau i ddod at ei gilydd a chysylltu dros bwysigrwydd gwella mynediad at faint o ddewisiadau iach, cynaliadwy yn amgylcheddol sydd ar gael,” Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Bydd yr ŵyl hefyd yn nodi lansiad strategaeth fwyd Caerdydd ar draws y ddinas yn ei Huwch-gynhadledd Bwyd Da ar 22 Hydref. Mae’r strategaeth fwyd wedi’i datblygu gyda chefnogaeth dros 2,500 o bobl yn y ddinas, gan nodi pum Nod Bwyd Da i’w blaenoriaethu dros y blynyddoedd nesaf, a helpu i wella’r ffordd y mae unigolion a busnesau yn tyfu, prynu, coginio a bwyta ledled Caerdydd.

Bydd yr Uwch-gynhadledd Bwyd Da yn dod ag arweinwyr, busnesau, sefydliadau, grwpiau cymunedol a gweithredwyr at ei gilydd i greu dyfodol bwyd gwell.

Bydd siaradwyr yn cynnwys y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Carolyn Steel, Awdur, Jane Davidson, cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru, Nirushan Sudarsan, arweinydd ifanc sy’n gweithio gyda Citizens Cymru Wales a Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Yn ôl Pearl Costello, trefnydd yr ŵyl a Chydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd: “Gŵyl Bwyd Da yr Hydref yw un o’n prif ddigwyddiadau ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein Strategaeth Bwyd Da a fydd yn cael ei defnyddio i drawsnewid y bwyd rydym yn tyfu, prynu a bwyta ar draws Caerdydd.

"Bydd yr ŵyl yn gyfle i ddathlu’r holl waith gwych mae grwpiau cymunedol a busnesau wedi’i wneud i sicrhau bod y ddinas yn cael ei bwydo a dod â ni at ein gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yr Uwch-gynhadledd yn archwilio sut y gall Caerdydd adeiladu ar y momentwm hwn a thrawsnewid y system fwyd leol.

“Trwy annog mwy a mwy o bobl i gymryd rhan yn yr ŵyl, mae Caerdydd yn creu ymgyrch bwyd da a fydd yn hybu faint o fwyd iach, cynaliadwy yn amgylcheddol sydd ar gael, sy’n cefnogi economi fwyd lleol sy’n ffynnu, yn grymuso pobl ac sy’n deg ac yn gysylltiedig.”

I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Bwyd Da yr Hydref Bwyd Caerdydd, y digwyddiadau a gynhelir a sut i gymryd rhan, ewch i https://foodcardiff.com/cy/bwyd-da-caerdydd-rhaglen-yr-wyl/.

Fel arall, er mwyn cymryd rhan neu gynnal eich digwyddiad eich hun yn rhan o’r Ŵyl, anfonwch e-bost at foodsensewales@wales.nhs.uk.

 

14/10/2021

Dilynwch ni