Neidio i'r prif gynnwy

'Ni fyddwn byth yn rhoi'r gorau i helpu unrhyw un' | Gwyliwch bennod olaf Saving Lives in Cardiff ddydd Mawrth

20.09.2024

Bydd pennod olaf y gyfres ddogfen chwe rhan Saving Lives in Cardiff yn cael ei darlledu nos Fawrth am 9pm ar BBC One Wales a BBC Two.  

Y llynedd, agorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ei ddrysau i griw ffilmio Label1 i daflu goleuni ar rai o’n llawfeddygon mwyaf blaenllaw yn y byd a’u timau wrth iddynt geisio trawsnewid bywydau eu cleifion gan wynebu’r amseroedd amser hiraf mewn hanes. 

Dros y pum wythnos diwethaf, mae Saving Lives in Cardiff wedi dangos i’r cyhoedd y penderfyniadau anodd y mae clinigwyr yn eu gwneud bob dydd wrth iddynt ddewis pwy i’w trin nesaf, ac wedi archwilio teithiau emosiynol cleifion wrth iddynt gael llawdriniaethau sy’n newid bywyd. Yr wythnos hon, bydd y bennod olaf yn cyflwyno tri llawfeddyg ac arbenigedd newydd.  

Yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, mae Canolfan y Fron yn un o’r adrannau prysuraf ar draws y Bwrdd Iechyd gyda’r tîm yn derbyn 140 o atgyfeiriadau newydd a brys bob wythnos. Yn anffodus, mae'r arweinydd clinigol a llawfeddyg y fron Ms Eleri Davies yn gyfarwydd iawn â'i chlaf nesaf. Mae Michaela, 55, eisoes wedi cael mastectomi dwbl ond yn anffodus mae wedi darganfod lwmp newydd yn ei bron.  

Bydd tua 10% o gleifion yn gweld canser y fron yn dychwelyd ac ar ôl cwrs heriol o gemotherapi, mae gan Eleri gyfnod byr o amser i gynnal llawdriniaeth ar Michaela a thynnu pob meinwe canseraidd a nodau lymff.  

Mae natur frys achos Michaela yn ei gwneud hi'n flaenoriaeth. Ar ôl cael triniaeth ers degawd eisoes - gan gynnwys mastectomi dwbl, mae ei theulu'n aros yn eiddgar i ddarganfod a fydd hi'n rhydd o ganser o'r diwedd.   

 
 

Meddai Eleri: “Mae taith Michaela yn brawf bod gennym lawer o driniaeth ar gyfer canser y fron a hyd yn oed os ydych chi wedi cael canser y fron a'i fod yn dod yn ôl, mae mwy y gallwn ni ei wneud o hyd. Ni fyddwn byth yn rhoi’r gorau i helpu unrhyw un.” 

Hefyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau mae Garry, tad-cu 68 oed, sydd wedi bod yn aros yn amyneddgar am glun newydd ers mwy na dwy flynedd, a’r hiraf y mae Garry yn aros am ei lawdriniaeth, y mwyaf cymhleth fydd ei gyflwr, gydag arthritis sy'n gwaethygu. 

 

Mae'r ysbyty yn lle anodd i Garry ddod yn ôl iddo, wedi iddo golli ei wraig i ganser y llynedd.    

Wrth siarad am y sefyllfa, meddai Phil: “Mae yna lawer o safbwyntiau negyddol ynghylch y GIG ac mae'n bwysig dangos y pethau cadarnhaol pan allwn ni. Rydym yn ffodus gyda llawdriniaeth ar y glun ei fod yn ganlyniad da i gleifion y rhan fwyaf o’r amser — rydym yn newid ansawdd bywyd person ac mae’n dda i’r cyhoedd weld hynny.”     

Yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae Sharon, 53 oed, yn aros i gael llawdriniaeth gan feddyg ymgynghorol y Glust, Trwyn a Gwddf (ENT), Mr Stuart Quine. Mae gan Sharon diwmor anfalaen prin yn ei gwddf ac mae'n hanfodol bod Stuart yn cynnal llawdriniaeth ar y fam i dri o blant cyn iddi fethu â llyncu nac anadlu. 

Oherwydd cymhlethdod y tiwmor, mae dau arbenigedd a thri llawfeddyg yn ymuno ar gyfer y llawdriniaeth. Eu prif bryder yw bod y tiwmor yn gorwedd ar y rhydweli carotid a gallai un symudiad anghywir achosi i Sharon brofi strôc drychinebus.   

Meddai Stuart: “Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig dangos i bobl beth rydyn ni’n ei wneud fel uned. Mae llawfeddygaeth yn ymarfer blaengar, sy'n dysgu bob amser, ac rydych chi'n dod i arfer â delio â lefelau cynyddol o straen ac anhawster, ac rydych chi'n rhannu'r cyfrifoldeb hwnnw fel tîm hefyd. 

“Pan fyddwch chi'n gweithio i'r GIG, rydych chi'n aml yn cwrdd â phobl ar eu hisaf a daw llawer o foddhad swydd o greu canlyniadau da. Does dim llawer o swyddi lle gallwch chi wneud rhywbeth i rywun, ac mae lefel eu diolchgarwch yn uwch nag y gallech chi ei ddychmygu.” 

Gwyliwch bennod olaf Saving Lives in Cardiff ar nos Fawrth am 9pm ar BBC One Wales a BBC Two. Os gwnaethoch chi fethu pennod, gallwch ddal i fyny ar BBC iPlayer nawr.

Dilynwch ni