23 Gorffennaf 2024
Mae Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gwneud rhai newidiadau i’w grwpiau cymorth bwydo ar y fron er mwyn darparu cymorth tecach, wedi’i dargedu’n well.
Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn falch o gefnogi Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF a bydd y newidiadau hyn yn cefnogi rhagor o fenywod sy’n profi problemau bwydo ar y fron cymhleth i gael cymorth gan y Tîm Arbenigol Bwydo Babanod ar sail 1:1 gartref neu yn y Clinig Bwydo ar y Fron Arbenigol i Fabanod.
Er mwyn adeiladu ar y model a roddwyd ar waith yn llwyddiannus mewn grwpiau eraill, bydd Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Dinas Powys yn cael ei gefnogi gan gymysgedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig o bob rhan o’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd o 2 Medi 2024. Mae hyn yn cynnwys nyrsys staff cymunedol a nyrsys meithrin cymunedol sy’n fedrus wrth adnabod pryderon o ran bwydo.
Yn sgil presenoldeb isel, mae’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd wedi rhoi’r gorau i gefnogi Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Bae Caerdydd ar gornel Heol Corporation/Heol Avondale. Gall menywod sydd angen cymorth ychwanegol fynychu grwpiau cymorth eraill a arweinir gan y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd neu grwpiau cymorth gan gymheiriaid. I gael rhagor o wybodaeth am grwpiau cymorth yng Nghaerdydd a’r Fro, cliciwch yma.
Yn ogystal, gall menywod gysylltu â’u hymwelydd iechyd am gyngor a chymorth. Bydd menywod sydd angen cymorth arbenigol yn cael eu hatgyfeirio at y Tîm Arbenigol Bwydo Babanod sy’n cynnal clinig wythnosol ac yn cynnig ymweliadau cartref.
Ceir rhagor o wybodaeth am y grwpiau a’r clinig a arweinir gan y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd isod.
Cymorth Arbenigol
Gall menywod gysylltu â’u hymwelydd iechyd am gyngor a chymorth. Bydd menywod sydd angen cymorth arbenigol yn cael eu hatgyfeirio at y Tîm Arbenigol Bwydo Babanod sy’n cynnal clinig wythnosol ac yn cynnig ymweliadau cartref.
Os cewch eich atgyfeirio at Dîm Arbenigol Bwydo Babanod y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd, efallai y cewch gynnig ymweliad cartref neu apwyntiad yn y Clinig Bwydo ar y Fron Arbenigol i Fabanod.
I gael gwybodaeth am yr holl grwpiau cymorth bwydo ar y fron, clinigau arbenigol a grwpiau cymorth gan gymheiriaid, cliciwch yma.