Neidio i'r prif gynnwy

NewidCyflym: yr animeiddiad arobryn sy'n annog plant ifanc i symud yn yr ysgol

4 Rhagfyr 2023

Mae animeiddiad digidol newydd, sydd wedi’i gynllunio i annog plant i symud yn eu hystafelloedd dosbarth, yn boblogaidd iawn ymhlith ysgolion ledled Caerdydd a’r Fro.

Nod NewidCyflym, a ddatblygwyd gan Dîm Podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mewn cydweithrediad â Thîm Iechyd y Cyhoedd Lleol, yw annog plant pedair i chwe blwydd oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol dyddiol er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad iach cyhyrau eu traed a’u pigyrnau.

Wedi’i harwain gan amrywiaeth o gymeriadau cartŵn lliwgar, mae’r animeiddiad rhyngweithiol hwyliog yn annog plant i gymryd rhan mewn cyfres o ymarferion cryfhau ac ymestyn, heb fod angen offer ychwanegol na newid dillad.

Cytunodd pum ysgol gynradd ddwyieithog yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gymryd rhan mewn cynllun peilot lle byddai disgyblion oedran Derbyn a Blwyddyn 1 yn gwneud yr ymarferion bob dydd dros gyfnod o wythnos.

Roedd ymateb y plant yn gadarnhaol, gydag 84% o’r cyfranogwyr yn ymateb gydag ‘wyneb hapus’ yn hytrach nag ‘wyneb trist’ ar ddiwedd y treial. Roedd yr athrawon a oedd yn cymryd rhan hefyd yn canmol y fideo wyth munud a’r ffordd y mae’n cyd-fynd â’r cwricwlwm ysgol newydd.

Un ysgol sydd wedi elwa o NewidCyflym yw Ysgol Gynradd Pendeulwyn Yr Eglwys yng Nghymru ym Mro Morgannwg. “Mae’r plant wedi ymateb yn arbennig o dda i’r animeiddiad,” esboniodd Jo Knill-Jones, athrawes Blwyddyn 1.

“Maen nhw’n cymryd diddordeb, maen nhw wir yn mwynhau ei wneud ac maent yn arbennig o hoff o ystum archarwr NewidCyflym. Mae’r plant yn gofyn i mi bob dydd ‘Ydyn ni’n gwneud NewidCyflym heddiw?’, sy’n wych.

“Mae’n cyd-fynd yn dda â’r cwricwlwm newydd gan fod y maes dysgu iechyd a lles yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol, gan wella lefelau egni a chodi hwyliau. Mae NewidCyflym yn cwmpasu’r holl bethau hynny. Mae’r fideo yn fyr, yn gryno ac yn helpu i ddatblygu traed y plant a’u cryfder corfforol yn gyffredinol.”

 

Mae gordewdra ymhlith plant yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru a, heb ymyrraeth, bydd yn arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o ystod eang o gyflyrau cronig ymhlith oedolion fel diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd a chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Dywedodd y podiatrydd Stephen Coombs, a oedd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu NewidCyflym: “Ar ôl treulio 30 mlynedd ym maes podiatreg, rwyf wedi sylwi, gyda phob degawd, fod plant yn mynd yn llai ffit, yn symud llai ac yn llai sefydlog ar eu traed. Roeddem ni’n meddwl y byddai’n syniad da cyflwyno rhai o’r ymarferion rydyn ni’n eu defnyddio yn y clinig mewn ysgolion, fel nad yw’n arwain at broblemau yn yr hirdymor.

“Ni fydd hyn yn datrys y broblem gyfan, ond bydd yn helpu ac yn gymorth i annog mwy o weithgarwch corfforol. Roedd yn ymdrech tîm i roi’r prosiect ar waith ac roedd wir yn broses ddysgu i ni wrth geisio cael hyn yn iawn, ond rydym yn falch iawn o’r animeiddiad ac mae’r adborth wedi bod yn wych gan y plant a’r athrawon. Mae llawer ohonynt eisiau parhau i’w wneud.

“Y nod yw ei gyflwyno ym mhob ysgol yng Nghymru fel y gall pob plentyn pedair i chwech oed fwynhau amser ymarfer corff llawn hwyl. Os na allant wneud y Filltir Ddyddiol oherwydd y tywydd,

gallant wneud NewidCyflym yn y dosbarth. Mae’n rhaid canolbwyntio ar atal fel y ffordd ymlaen er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

Sefydlwyd NewidCyflym am y tro cyntaf yn 2019 gan Stephen Coombs a Lauren Idowu o Dîm Iechyd y Cyhoedd Lleol BIP Caerdydd a’r Fro. Yna bu’r podiatrydd Jo Wrigley yn gweithio’n agos gydag Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Martha-Jane Powell, i ddatblygu’r syniad ymhellach unwaith y cadarnhawyd y cyllid ac yn helpu i’w gyflwyno i ysgolion, gyda Nia Jones yn adolygu’r briff ymchwil.

Ymhlith yr aelodau newydd sy’n ymuno â’r tîm mae’r podiatrydd Charlotte Holley a’r ffisiotherapyddion Sharon Hortop a Laura Morgan, a fydd yn helpu i ddatblygu ymarferion newydd i sicrhau bod y prosiect yn esblygu’n barhaus.

 

Cafodd y prosiect cydweithredol ei arddangos i ystod eang o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg a thechnoleg yn Academi Lledaeniad a Graddfa fis Hydref, yn Sefydliad Calon y Ddraig yng Nghaerdydd. Mae hefyd wedi ennill dwy wobr yn 2023 – un yng Nghynhadledd UKPHR ar gyfer Gwella Ymarfer Iechyd y Cyhoedd i Leihau Anghydraddoldebau Iechyd, ac un am y cyflwyniad poster gorau yng Nghynhadledd MSK Innovations.

Yr ysgolion a gymerodd ran yn rhaglen beilot NewidCyflym oedd Ysgol Gynradd Pendeulwyn yr Eglwys yng Nghymru, Ysgol Gynradd Adamsdown, Ysgol Gynradd St Philip Evans, Ysgol Y Berllan Deg ac Ysgol Gynradd Palmerston. Y cam nesaf fydd cyflwyno defnydd dyddiol o animeiddiad NewidCyflym ar draws holl ysgolion Caerdydd a Bro Morgannwg.

I weld yr animeiddiad llawn, ewch yma.

Dilynwch ni