4 Tachwedd 2024
Mae botymau mawr wedi’u gosod mewn pedwar lleoliad gwahanol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i bobl eu gwasgu pe baent yn gweld unrhyw un yn smygu ar dir yr ysbyty.
Mae staff sy’n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) wedi lleisio eu pryderon yn aml am gleifion, ymwelwyr a chydweithwyr yn smygu tybaco y tu allan i fynedfeydd ac o amgylch safleoedd yr ysbytai.
Ers 1 Mawrth 2021, mae wedi bod yn anghyfreithlon i smygu ar dir ysbytai a gallai unrhyw un a welir yn smygu dderbyn hysbysiad cosb benodedig o £100. Fodd bynnag, nid yw hynny wedi atal rhai pobl rhag parhau i smygu.
Mewn ymgais i fynd i’r afael â’r broblem hon, mae systemau uchelseinydd wedi’u gosod mewn pedwar lleoliad gwahanol: y tu allan i Uned y Menywod yn YAC, y tu allan i brif gyntedd YAC, y tu allan i brif fynedfa YALl a thu allan i fynedfa Hafan y Coed yn YALl.
Pan fydd rhywun yn cael ei ddal yn smygu, gellir actifadu’r uchelseinydd trwy wasgu botwm sydd wedi’i leoli yn agos y tu fewn i’r pedair mynedfa (ond yn ddigon pell i ffwrdd i’r smygwr beidio â gweld pwy oedd yn ei wasgu).
Unwaith y caiff ei wasgu, mae neges ‘rhoi’r gorau i smygu’ yn cael ei chwarae i’r smygwyr yn eu hannog i ddiffodd eu sigarét neu i ofyn am gymorth i roi’r gorau i smygu trwy Helpa Fi i Stopio.
Dywedodd Catherine Perry, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Lleol BIP Caerdydd a’r Fro: “Er bod cyfraddau smygu wedi gostwng ledled Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i dderbyn cwynion am smygu ar dir ysbytai, gan roi iechyd cleifion, cydweithwyr a’r cyhoedd mewn perygl.
“Pan fydd pobl yn smygu ar safleoedd ysbytai, mae cleifion yn cael eu gorfodi i anadlu mwg ail-law gwenwynig – gan gynnwys rhai o’n hunigolion mwyaf bregus. Weithiau mae’n rhaid i gleifion gerdded trwy fwg ail-law i fynd i mewn ac allan o’r ysbyty, sy’n hynod annymunol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y negeseuon hyn ar yr uchelseinydd yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn smygu, a gofyn am gymorth proffesiynol am ddim trwy raglen Helpa Fi i Stopio. Rydym wedi ymrwymo i Strategaeth Cymru ar gyfer Rheoli Tybaco Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o greu Cymru ddi-fwg erbyn 2030.”
Y tu allan i Uned y Menywod yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae dau o ddisgyblion Ysgol Gynradd Creigiau yn darllen pedair neges rhoi’r gorau i smygu yn ddwyieithog - Rua Harvard ac Ela Bryant Williams. Mae'r ddau blentyn yn yr ysgol uwchradd erbyn hyn.
Dywedodd Delyth Kirkman, Pennaeth Ysgol Gynradd Creigiau: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar y fenter bwysig hon. Rydym yn awyddus i’n myfyrwyr dyfu i fyny mewn byd lle mae smygu sigaréts yn dabŵ a ddim yn rhywbeth a welir yn aml. Da iawn i Rua ac Ela am chwarae rhan mor allweddol wrth leihau cyfraddau smygu ar dir ysbytai.”
I gael rhestr lawn o wasanaethau rhoi’r gorau i smygu yn lleol, cysylltwch â thîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio drwy:
Gall smygwyr hefyd gael eu hatgyfeirio at Helpa Fi i Stopio gan eu meddyg teulu neu nyrs practis, neu os ydynt yn yr ysbyty gallant gael mynediad at wasanaethau a chynhyrchion ar y safle cyn cael eu trosglwyddo yn ôl i’r gymuned. Mae rhai fferyllfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnig cyngor a chynhyrchion Helpa Fi i Stopio.