22 Rhagfyr 2023
I ddathlu'r cyfnod Nadoligaidd mae'r Cadeirydd Charles 'Jan' Janczewski a'r Prif Weithredwr Suzanne Rankin wedi recordio negeseuon fideo i ddiolch ac i ddymuno Nadolig Llawen i’n cydweithwyr, partneriaid a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Yn y fideos byr maent yn diolch i gydweithwyr am eu gwaith caled, eu hymrwymiad, eu proffesiynoldeb, eu tosturi a'u gofal a ddangoswyd dros y 12 mis diwethaf.
Gwyliwch wrth iddynt fyfyrio ar rai o heriau 2023, ailedrych ar gyflawniadau gwych y flwyddyn a dymuno Nadolig hapus ac iach i ni i gyd.