Neidio i'r prif gynnwy

Neges Destun i Gadarnhau Manylion Cleifion ar y Rhestr Aros Ganolog Ddeintyddol

Os ydych ar ein rhestr aros ganolog am ddeintydd y GIG, efallai eich bod wedi derbyn neges destun gan GIG Cymru yn ddiweddar.

Ar hyn o bryd rydym yn anfon neges destun at rai pobl sydd ar y rhestr aros i gadarnhau eu gwybodaeth a sicrhau bod pawb sydd dal i fod angen deintydd yn gallu cael un mewn modd amserol.

O fewn y neges destun, bydd gofyn i chi gadarnhau eich safle ar y rhestr. I wneud hynny, byddwch wedi cael cod PIN unigryw y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi i’n porth GIG, ynghyd â’ch dyddiad geni i gadarnhau pwy ydych.

Os ydych yn dal i fod angen lle ar y rhestr ac yn dal i aros am ddeintydd y GIG, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y neges destun a dderbyniwyd a thiciwch 'Ydw'.

Os nad oes angen i chi gofrestru gyda deintydd y GIG mwyach neu os ydych eisoes wedi cael deintydd y GIG, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y neges destun a thiciwch 'Nac ydw'.

Mae’r neges destun, y ddolen a’r wybodaeth sydd wedi’u cynnwys yn y neges destun yn ddilys ac mae’r neges destun wedi’i hanfon atoch gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Fodd bynnag, os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn dilyn y ddolen a gynhwysir yn y neges destun, bydd llythyr yn cael ei anfon yn awtomatig i'ch cyfeiriad cartref yn amlinellu'r ffyrdd y gallwch gadarnhau eich safle ar y rhestr aros.

Os nad oes gennych rif ffôn symudol, neu os ydych wedi newid rhif ffôn ers ymuno â'r rhestr aros, bydd llythyr hefyd yn cael ei anfon yn awtomatig i'ch cyfeiriad cartref.

Dilynwch ni