Neidio i'r prif gynnwy

Mwynhewch yr penwythnos gŵyl y banc Coroniad a chadwch eich hun yn iach

Mae penwythnos gŵyl y banc Coroniad yn prysur agosáu, ac er y gall rhai fod yn dathlu neu'n mynd i ffwrdd, bydd ein hawgrymiadau defnyddiol yn helpu i atal damweiniau neu salwch rhag amharu ar yr hwyl.

O baratoi eich pecyn cymorth cyntaf i ymgyfarwyddo â’r gwahanol ffyrdd y gallwch gael mynediad at ofal, sicrhewch fod gennych yr hyn sydd ei angen arnoch er mwyn osgoi taith i’n Huned Achosion Brys a’n Huned Mân Anafiadau, fel y gallwn helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf.

 

Saith diwrnod o rybudd....

Os ydych yn bwriadu archebu neu gasglu eich meddyginiaeth dros ŵyl y banc, gall pethau gymryd ychydig mwy o amser. Archebwch eich presgripsiwn saith diwrnod cyn gŵyl y banc i sicrhau eich bod yn cael eich meddyginiaeth mewn da bryd.

Efallai y bydd amseroedd agor eich fferyllydd cymunedol yn newid dros yr ŵyl y banc estynedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â'r rhain.

 

Gwnewch yn siŵr fod eich pecyn cymorth cyntaf yn gyflawn

Gellir trin y rhan fwyaf o fân anhwylderau ac anafiadau gartref neu pan fyddwch allan. Gall cadw pecyn cymorth cyntaf cyflawn wrth law helpu i drin unrhyw fân friwiau, crafiadau, ergydion neu salwch yn gyflym ac yn hawdd.

Dylai eich pecyn cymorth cyntaf gynnwys clytiau alcohol, plastrau, rhwymynnau, pliciwr, siswrn, hufen antiseptig, cyffuriau lladd poen a gwrth-histaminau ymhlith pethau eraill. Mae’r wefan GIG hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer llenwi pecyn cymorth cyntaf.

 

Mynd i ffwrdd? Rydyn ni dal yma i chi.

Ble bynnag yr ydych yn treulio gŵyl y banc yng Nghymru, os oes angen i chi gael mynediad at wybodaeth gofal iechyd, cyngor neu gymorth gofal brys, mae GIG 111 ar gael.

Gallwch gael amrywiaeth o gyngor gofal iechyd a gwybodaeth leol ar wefan 111 GIG Cymru, neu siaradwch â swyddog galwadau am gyngor iechyd brys a mynediad at ofal brys y tu allan i oriau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy ddeialu 111.

 

Gwybod eich Dewis Sylfaenol

Eich tîm Gofal Sylfaenol yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gofal iechyd ac mae'n cynnwys eich meddyg teulu, fferyllfa gymunedol, gwasanaethau deintyddol ac optometreg (iechyd llygaid). Gall gwybod pwy i’w weld am y cyngor gorau ar yr amser iawn helpu i sicrhau eich bod yn cael y driniaeth fwyaf priodol cyn gynted â phosibl, fel y gallwch fynd yn ôl i fwynhau eich gwyliau.

Cliciwch yma i gwrdd â'ch tîm Gofal Sylfaenol a deall pwy yw eich Dewis Sylfaenol.

 

Os oes angen i chi gael eich gweld yn yr Uned Achosion Brys neu'r Uned Mân Anafiadau

Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn profi anaf neu salwch dros benwythnos gŵyl y banc, a’ch bod yn meddwl bod angen ei asesu yn yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau, yna ffoniwch 111 yn gyntaf.

Bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac os bydd yn briodol, bydd clinigwr CAF 24/7 yn eich ffonio’n ôl. Os bydd y clinigwr yn penderfynu bod angen asesiad pellach arnoch, byddwch yn cael slot amser i fynychu’r gwasanaeth mwyaf priodol.

Cofiwch fod 999 ar gael i chi o hyd mewn argyfwng difrifol neu lle mae bywyd yn y fantol.

Dilynwch ni