Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o blant yng Nghaerdydd a'r Fro yn cerdded neu'n seiclo i'r ysgol

Yn ôl adroddiad newydd, mae bron i hanner plant ysgolion uwchradd Caerdydd wedi nodi eu bod yn cerdded neu’n seiclo i’r ysgol - y mwyaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. 

Yn ôl y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), a gynhaliodd arolwg iechyd a lles ledled Cymru yn 2021 a oedd yn cynnwys dros 123,000 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 11, dywedodd 48.6% o’r ymatebwyr ym mhrifddinas Cymru eu bod yn dewis ffordd actif o deithio i’r ysgol. 

Mae hynny lawer yn uwch na chyfartaledd Cymru o 35% ac mae’n welliant o’i gymharu â’r data blaenorol ar gyfer Caerdydd a gofnodwyd yn 2019 (47.5%) a 2017 (43.3%). Canfu’r arolwg hefyd fod bechgyn (51.1%) yn ysgolion uwchradd Caerdydd yn fwy tebygol o gerdded neu seiclo i’r ysgol na merched (46%), gan ddilyn tuedd debyg ar draws y wlad.  

Mae Tîm Ysgolion Teithio Llesol Cyngor Caerdydd yn gweithio gydag ysgolion ledled Caerdydd i’w cefnogi i leihau’r nifer sy’n teithio mewn car i’r ysgol a chynyddu’r nifer sy’n cerdded, seiclo a sgwtera hyd yn oed. Ei nod yw i bob ysgol gael Swyddog Teithio Llesol sy’n helpu i ddatblygu cynllun teithio llesol sy’n addas iddynt. 

Un o lwyddiannau Ysgol Teithio Llesol Caerdydd yw’r Cynllun Fflyd Beiciau Ysgol, sydd wedi arwain at fflydoedd beic yn cael eu dosbarthu i fwy na 100 o ysgolion ers 2020, gan gynnwys helmedau beic a storfeydd. Mae’r fflydoedd yn helpu i gyflwyno seiclo i fwy o blant a phobl ifanc trwy gyfleoedd i ddefnyddio beiciau yn ystod gwersi a chlybiau ar ôl ysgol. 

Mae ysgolion yng Nghaerdydd hefyd wedi cael eu cefnogi gan Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol ar gyfer disgyblion a staff, ac yn ddiweddar cyflwynwyd hyfforddiant i staff i’w galluogi i hyfforddi disgyblion eu hunain. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol, y Cynghorydd Dan De’Ath: “Mae canlyniadau’r arolwg yn rhagorol a gellir eu priodoli i’r ymrwymiad, y buddsoddiad a’r gwerth yr ydym wedi’i roi ar hyrwyddo teithio llesol i bawb. 

“Mae’r Cynllun Fflyd Beiciau Ysgol wedi achosi cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn seiclo trwy ei ymgorffori yng nghwricwlwm yr ysgol, a gyda’r gefnogaeth i seiclo’n ddiogel ac yn hyderus, mae’n darparu sgil bywyd. 

“Mae’r newid ymddygiad hwn yn hyrwyddo teithio llesol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau a’u dyfodol. Yn ogystal, mae hefyd yn helpu i drawsnewid system drafnidiaeth y ddinas, hyrwyddo iechyd a lles ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd, sydd mor bwysig. 

“Ein nod yw cynyddu hyfforddiant a nifer y fflydoedd beiciau i gefnogi a chyflawni ein gweledigaeth teithio llesol ar gyfer Caerdydd ymhellach.” 

Yn y cyfamser, mae’r darlun ym Mro Morgannwg hefyd yn un positif. Yn 2021, canfu arolwg SHRN bod 42.3% o ddisgyblion ysgol blynyddoedd 7 i 11 yn dewis teithio’n llesol i’r ysgol, y pedwerydd uchaf yng Nghymru. Roedd hyn yn uwch na 39.4% yn 2019 a 38.8% yn 2017. 

Dywedodd tua 43.8% o fechgyn eu bod yn cerdded neu’n seiclo i’r ysgol yn y Fro, a oedd ychydig yn uwch na’r merched ar 40.8%. Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg ei fod yn gweithio’n agos gyda rhieni a disgyblion i sicrhau bod llwybrau a lonydd seiclo mwy diogel i ysgolion ar gael mewn ardaloedd preswyl a gwledig. 

Gyda chymorth gan fwy na 250 o ddisgyblion, rhieni, athrawon a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, dywedodd yr awdurdod lleol ei fod wedi gallu gwneud gwelliannau sylweddol i’r seilwaith ar lwybrau cymudo i ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys cyrbau is, palmant botymog, gwelliannau o amgylch coed ac ehangu troedffyrdd. 

Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflwyno cynlluniau 20mya yn Sant-y-brid, Aberthin a Llanbedr-y-fro. Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod cynlluniau o’r fath yn helpu i annog teithio llesol a lleihau tagfeydd, allyriadau carbon a gwella’r amgylchedd lleol yn gyffredinol. 

Mae cynlluniau Teithio Llesol hefyd wedi’u cyflwyno i wella cyfleoedd ar gyfer cerdded a seiclo mewn sawl ardal ledled Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd mae tîm Prosiect Sero y Cyngor yn gweithio’n agos gyda thrigolion ac ysgolion i wneud newidiadau cadarnhaol i’w taith cymudo dyddiol. 

Mae un o gynlluniau Prosiect Sero y Cyngor yn cynnwys gweithio gydag ysgolion y Fro i annog seiclo. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu chwe beic cydbwysedd a ddarperir i bob ysgol gynradd yn y Fro. Mae llochesi seiclo wedi’u gosod mewn pedair ysgol ac mae gorsafoedd trwsio beiciau wedi’u gosod mewn pum safle. 

Ar y cyd â’r Mis Cerdded Cenedlaethol ym mis Mai, bu Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi Wythnos Cerdded i’r Ysgol rhwng Mai 15-19. Mae’r gweithgaredd wythnos o hyd ar gyfer ysgolion cynradd wedi’i sefydlu i roi profiad uniongyrchol i ddisgyblion o bwysigrwydd cerdded i’r ysgol. 

Y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Mannau Cynaliadwy: “Mae tîm Prosiect Sero a Chyngor Bro Morgannwg wedi gweithio’n galed iawn i wella’r seilwaith ar gyfer llwybrau Teithio Llesol ac mae’r ystadegau newydd yn destament i’w hymdrechion. 

“Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon i sero net erbyn 2030 ac mae hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda chynlluniau teithio llesol ysgolion i wneud llwybrau’n fwy diogel ac yn fwy hygyrch ledled y Fro. 

“Mae cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru wedi galluogi’r cyngor i ddarparu cyfleusterau teithio hanfodol a chynlluniau seiclo mewn ardaloedd allweddol lle mae eu hangen fwyaf. Bydd hyn o fudd i les corfforol a meddyliol plant, yn lleihau tagfeydd traffig y tu allan i ysgolion ac yn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol.” 

Er bod Caerdydd a Bro Morgannwg wedi gweld cynnydd yn eu ffigyrau teithio llesol ar draws tri adroddiad SHRN, ni ellir dweud yr un peth am Gymru gyfan, lle’r oedd y ffigurau’n parhau i fod yn fwy digyfnewid (35% yn 2021, 35% yn 2019 a 33.8% yn 2017). 

Mae’r canfyddiadau o’r adroddiad SHRN diweddaraf, a gyflwynir gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, yn darparu’r trosolwg manwl cyntaf o iechyd a lles pobl ifanc ers dechrau’r pandemig. 

Ac, am y tro cyntaf, gellir cymharu detholiad o’r data hefyd ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru diolch i bartneriaeth SHRN gyda dadansoddwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi datblygu dangosfwrdd rhyngweithiol ar-lein i ddarparu canlyniadau’r arolwg yn fanylach. Gellir cael mynediad ato yma: Dangosfwrdd Data SHRN - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) 

Wrth sôn am y canfyddiadau calonogol ar gyfer Caerdydd a’r Fro, dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus BIP Caerdydd a’r Fro: “Mae’n wych gweld nifer y plant sy’n dewis cerdded neu seiclo i’r ysgol yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ein hardal. 

“Mae’r manteision i les corfforol a meddyliol plant o fod allan yn yr awyr agored a bod yn actif ar y ffordd i’r ysgol yn hysbys iawn, a phob tro y bydd rhywun yn dewis teithio’n llesol, mae’n helpu i lanhau ein haer a lleihau allyriadau carbon. I blant iau, bydd cerdded neu seiclo yn aml yn golygu bod eu rhieni’n cynyddu eu gweithgarwch corfforol o ddydd i ddydd hefyd, gan fod o fudd i’r teulu cyfan.” 

Dilynwch ni