Gall pobl sy'n byw ym Mro Morgannwg nawr fenthyg monitorau pwysedd gwaed o lyfrgelloedd a hybiau cymunedol.
Yn yr un modd ag y gall deiliaid cardiau llyfrgell fenthyg llyfrau ac adnoddau eraill o'r cyfleusterau, gall aelodau'r cyhoedd nawr fanteisio ar y cynllun benthyca newydd a fydd yn caniatáu iddynt gadw golwg ar eu pwysedd gwaed gartref.
Bu Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu'r cynllun, gan ddarparu gweithgarwch i helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae gan Gyngor Caerdydd gynllun tebyg yn ei lyfrgelloedd a'i hybiau ei hun. I gael gwybod mwy ewch i wefan BIP Caerdydd a'r Fro.
Mae gan un o bob tri oedolyn yn y DU bwysedd gwaed uchel ond nid yw llawer yn sylweddoli hynny. Os na chaiff ei drin, gall pwysedd gwaed uchel arwain at nifer o broblemau iechyd gan gynnwys strôc, clefyd y galon, clefyd yr arennau, dementia fasgwlaidd a diabetes.
Gall bod yn fwy ymwybodol o'u pwysedd gwaed alluogi unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw fel bod yn actif, cadw at bwysau iach, bwyta'n iach, rhoi'r gorau i smygu neu gymryd meddyginiaeth, er mwyn osgoi'r canlyniadau negyddol hyn.
Fodd bynnag, hyd yn oed pan gynghorir pobl i fonitro eu pwysedd gwaed, gall cost prynu dyfais fod yn rhwystr.
Nawr, mae monitorau sydd wedi'u dilysu gan Gymdeithas Gorbwysedd Prydain ac Iwerddon ar gyfer defnydd yn y cartref ar gael i'w benthyg am gyfnodau o dair wythnos i alluogi preswylwyr i fonitro eu hunain gartref. Bydd cwsmeriaid yn cael llyfryn sy'n cynnwys gwybodaeth am pam ei bod hi'n bwysig monitro pwysedd gwaed, achosion pwysedd gwaed uchel, sut i ddefnyddio'r ddyfais a chofnodi canlyniadau, a beth i'w wneud os ydynt yn pryderu am y darlleniadau maen nhw'n eu cymryd.
Gall aelodau o'r gymuned sydd eisiau benthyg dyfais, ond nad oes ganddyn nhw gerdyn llyfrgell ar hyn o bryd, gofrestru am un yn eu hyb neu lyfrgell leol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: “Mae ein llyfrgelloedd yn llawer mwy na lleoedd i fenthyca llyfrau - maent yn fannau cymunedol hygyrch sy'n chwarae rhan gynyddol bwysig wrth gefnogi iechyd a lles pobl.
“Drwy ganiatáu i breswylwyr fenthyca monitorau pwysedd gwaed, mae llyfrgelloedd ledled y Fro yn helpu preswylwyr i ofalu am eu hiechyd, gan gael gwared ar gost fel rhwystr. Gall cefnogi pobl yn y ffordd hon wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth nodi a thrin problemau iechyd yn gynt a helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau hanfodol dros amser hefyd.”
Ychwanegodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd BIP Caerdydd a'r Fro: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â'r ddau awdurdod lleol i ddarparu'r cynllun arloesol hwn. Gall llawer o bobl deimlo'n gynhyrfus wrth gael eu pwysedd gwaed wedi'i fesur mewn lleoliad gofal iechyd, a all effeithio ar gywirdeb eu darlleniad. Drwy fenthyg dyfais o'u llyfrgell neu hyb lleol, gall cwsmeriaid gynnal y monitro yng nghysur eu cartrefi a chymryd camau i wella eu hiechyd eu hunain.”
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.