12 Chwefror 2025
Mae Mille-Mae Adams, y Miss Cymru bresennol, wedi partneru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i hyrwyddo pwysigrwydd brechlyn atal canser.
Mae’r myfyriwr meddygol, 22, o Gaerdydd, sy’n siarad Cymraeg, wedi creu fideo addysgol am y brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) sy’n cael ei roi am ddim i blant ym Mlwyddyn 8 yn yr ysgol uwchradd.
HPV yw’r enw a roddir ar grŵp cyffredin iawn o feirysau sy’n cael eu trosglwyddo drwy gyswllt croen-i-groen ac sydd i’w cael fel arfer ar y bysedd, y dwylo, y geg a’r organau cenhedlu.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu heintio â HPV yn clirio'r feirws o'u corff ac ni fyddant yn mynd yn sâl. Ond i rai gall achosi dafadennau gwenerol, neu hyd yn oed ddatblygu i fod yn rhai mathau o ganser gan gynnwys canser y pen a'r gwddf (sy’n fwyaf cyffredin ymhlith dynion) a chanser ceg y groth ymhlith menywod.
Fodd bynnag, mae'r brechlyn HPV wedi bod yn effeithiol iawn. Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% ymhlith menywod yn eu 20au.
Bob gwanwyn, mae Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a’r Fro yn ymweld ag ysgolion ar draws y rhanbarth i roi’r brechlyn HPV i ddisgyblion Blwyddyn 8, ynghyd â’r rhai ym Mlwyddyn 9, 10 ac 11 a fethodd eu brechlyn ym Mlwyddyn 8.
I gyd-fynd â Dydd San Ffolant ar 14 Chwefror, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymuno â Millie-Mae i annog pobl ifanc i “garu eich hun” drwy gael y brechlyn HPV pan gaiff ei gynnig yn yr ysgol.
“Mae’r brechlyn yn gweithio orau pan fydd merched a bechgyn yn ei gael ym Mlwyddyn 8, felly mae’n bwysig ei gael cyn gynted ag y caiff ei gynnig,” eglura yn y fideo, sydd i’w weld ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd.
“Mae’n cael ei roi mewn un pigiad cyflym yn rhan uchaf y fraich, a dyma’r unig frechlyn atal canser sy’n cael ei ddarparu’n rheolaidd gan GIG Cymru.”
Dywedodd Louise Bridge, Arweinydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Millie-Mae am gymryd yr amser i hyrwyddo pwysigrwydd y brechlyn HPV ochr yn ochr â’i hyfforddiant meddygol a llawer o ymrwymiadau eraill.
“Rydym yn annog pob rhiant i siarad â’u plant am y brechlyn hynod bwysig hwn y disgwylir iddo achub miloedd o fywydau bob blwyddyn ledled y DU yn y pen draw.”
Cafodd Millie-Mae ei choroni yn Miss Cymru ym mis Ebrill 2023 a bydd hi nawr yn mynd ymlaen i gystadlu yn Miss World yn ddiweddarach eleni.
Mae hi hefyd yn llysgennad i Ymchwil Canser Cymru, wedi ymgyrchu yn erbyn trais yn y cartref ac wedi creu’r tîm Meddygon Stryd cyntaf erioed ar gyfer y De-orllewin – sefydliad cenedlaethol sy’n hyfforddi pobl ifanc ynglŷn â sut i achub bywyd.
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn HPV, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.