Mae tua 55,000 o fenywod yn cael diagnosis o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn. Er bod canser y fron yn fwy cyffredin ymhlith menywod dros 50 oed, gall effeithio ar fenywod iau o hyd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn gartref i Ganolfan y Fron Caerdydd, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ers 2010.
Daeth Canolfan y Fron i’r amlwg yn ddiweddar yn ystod pennod chwech o gyfres Saving Lives in Cardiff ar y BBC, lle bu llawfeddyg ymgynghorol y fron, Eleri Davies, a’i thîm yn ceisio helpu Michaela unwaith eto, claf sydd ddim yn ddieithr i’r Ganolfan yn anffodus.
I nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, rydym yn taflu goleuni ar Eleri a’i thîm, gan amlygu eu penderfyniad, eu hymroddiad a’u gwaith caled sydd yn ei dro yn darparu’r canlyniadau gorau posibl i’r cleifion yng Nghanolfan y Fron.
Mae’r Cyfarwyddwr Clinigol, Eleri Davies wedi bod yn llawfeddyg yng Nghanolfan y Fron, Ysbyty Athrofaol Llandochau ers 2010. Yn wreiddiol o Gaer, mae Eleri bellach yn byw yn Ne Cymru gyda’i gŵr a’u dau o blant ac mae hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl. Gyda diddordeb arbennig mewn cleifion sy’n etifeddu’r amrywiadau genynnau BRCA1 a BRCA2, mae Eleri yn rhannu ei hamser rhwng gweithio gydag Iechyd y Cyhoedd a’r rhaglen sgrinio genedlaethol, hyfforddiant a’i dyletswyddau llawfeddygol.
“Lwcus i gael tîm gwych”
Mae cael tîm craidd y gallwch ddibynnu arno mewn unrhyw rôl yn arwain at ganlyniadau gwell ond, fel rhan o dîm sy’n darparu gofal sy’n achub bywydau, boed yn glinigol neu’n llawfeddygol, mae’n hanfodol ar gyfer sicrhau gofal rhagorol i gleifion.
“Rydym yn ffodus iawn o fewn Canolfan y Fron fod gennym dîm hynod brofiadol. Yn enwedig i fi fy hun yn y theatr, mae gen i dîm ymroddedig a rhagweithiol sydd wedi rhagweld fy symudiad nesaf cyn i fi hyd yn oed agor fy ngheg.”
“Mae pawb yn gweithio mor galed o’r eiliad rydyn ni’n derbyn yr atgyfeiriad, o’r tîm gweinyddol sy’n ceisio trefnu eu gweld cyn gynted â phosibl hyd at y staff clinigol – rydw i’n eu cymeradwyo nhw i gyd.”
“Mae cleifion yn aml yn gweld yr un wynebau o’u hapwyntiad cyntaf i’r un olaf, ac mae cael y gofal cyson hwnnw yn rhoi cysur mawr i’r rhai sy’n mynd trwy un o gyfnodau mwyaf heriol eu bywydau.”
Dau o’r bobl cyson hynny fydd Ceri a Kelly, cydlynwyr clinig yng Nghanolfan y Fron. Gan weithio mewn uned sy’n symud ac yn gyflym ac ag amgylchiadau sy’n newid yn barhaus, mae rolau Ceri a Kelly yn hanfodol i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld ar amser a chydag agwedd garedig a gofalgar.
Mae Ceri wedi gweithio yng Nghanolfan y Fron ers iddi agor 25 mlynedd yn ôl ac mae’n dweud ei bod yn caru ei swydd gymaint heddiw ag yr oedd ar ei diwrnod cyntaf;
“Mae gen i 5 mlynedd nes bydda i’n ymddeol…os bydda i byth! Mae’n hyfryd dod i’r gwaith gan wybod na fyddwch chi gyda chydweithwyr neu gymdeithion yn unig, ond ffrindiau gwerthfawr hefyd. Rydyn ni i gyd yn dadlau weithiau ac ar ôl cael dweud ein dweud, mae popeth yn iawn eto!”
Mae Ceri a Kelly ill dwy yn oroeswyr canser y fron ac felly’n gallu cydymdeimlo ar lefel bersonol gyda phob claf sy’n cerdded drwy’r drws;
“Rydyn ni’n teimlo’r holl emosiynau gyda’r cleifion hefyd. Mae’n brofiad emosiynol yn yr ystyr y gallem fod yn torri’n calon gyda chlaf sydd wedi derbyn newyddion ofnadwy ac, yn yr anadl nesaf, yn gorfoleddu gyda chlaf sydd wedi clywed ei fod yn glir o’r canser. Mae ein hemosiynau bob amser yn ddiffuant ond mae bod yn asgwrn cefn i gleifion yn ystod eu cyfnod o angen yn gallu bod yn flinedig yn gorfforol ac yn feddyliol, ond yn rhoi boddhad mawr ar yr un pryd.”
Ychwanegodd Kelly;
“Rwy’n caru fy swydd. Mae’n uned mor braf ac rwy’n teimlo y gallaf roi yn ôl. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth pan fyddwch chi’n caru eich swydd a’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw ac rydw i’n gallu cydbwyso cynnal swydd rydw i’n ei charu tra’n magu fy mhlant.”
Mae’n bwysig archwilio eich bronnau’n rheolaidd fel eich bod yn gwybod beth sy’n arferol i chi. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws sylwi ar unrhyw newidiadau ym maint, edrychiad neu deimlad eich bron.
Mae rhai o’r symptomau hyn, gan gynnwys lympiau yn y fron, yn gyffredin iawn a gallant gael eu hachosi gan gyflyrau eraill.
Nid yw cael y symptomau yn golygu bod gennych ganser y fron yn bendant, ond mae’n bwysig mynd i weld eich meddyg teulu.
Os caiff eich symptomau eu hachosi gan ganser, gall dod o hyd iddo’n gynnar olygu ei fod yn haws ei drin.
Bydd Eleri yn rhedeg ei phumed marathon, a’r olaf, yn Chicago fis Hydref eleni, gan godi arian at apêl Canolfan y Fron i gofio am bob un o’i chleifion ac i’w cefnogi. Bydd yr arian a godir yn helpu i ariannu gwasanaethau i gleifion canser y fron megis darparu bras arbennig i’r rhai sydd wedi cael mastectomïau ac adluniad y fron, sesiynau ffisiotherapi i gleifion cyn ac ar ôl llawdriniaeth canser, therapïau cyflenwol a llawer mwy.
I gyfrannu at Apêl Canolfan y Fron Eleri a’i helpu i gyrraedd ei tharged o £10,000 cliciwch yma.