Cafodd Kiera Hodges ddiagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Acíwt a Chromosom Positif Philadelphia ym mis Ionawr 2020 a hithau ond yn 15 oed.
Yn dilyn ei diagnosis, treuliodd Kiera a'i theulu lawer o'r ddwy flynedd nesaf yn Ysbyty Plant Cymru. Derbyniodd dri cham dwys o gemotherapi ac yna sesiynau cynnal, cafodd lawdriniaethau lluosog a phrofodd heintiau anodd.
Drwy gydol ei thaith, roedd Kiera bob amser yn llawn gobaith, a dywedodd fod ei meddylfryd positif wedi bod o gymorth mawr drwy gydol ei thriniaethau. Wrth siarad ym mis Mehefin ar gyfer Wythnos Goroeswyr Canser, dywedodd Kiera wrthym: “Byddwn i’n dweud wrth bobol i feddwl am y foment honno fel pe na bai’n mynd i bara am byth. Roedd y meddylfryd hwnnw'n bwysig iawn, a gwnaeth fy helpu i wynebu fy nhriniaeth.”
Derbyniodd Kiera a’i rhieni Andrea a Tim hefyd gefnogaeth ymarferol, emosiynol ac ariannol amhrisiadwy gan Elusen Canser Plant Cymru LATCH.
Mae’r elusen wedi’i lleoli yn Ysbyty Plant Cymru ac yn cefnogi cannoedd o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru sy’n cael eu trin yn yr Uned Oncoleg bob blwyddyn. Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae LATCH hefyd yn cefnogi'r Uned Oncoleg trwy ariannu offer meddygol ac ystod o brosiectau clinigol ac ymchwil.
I ddathlu Mis Ymwybyddiaeth Canser Plant, cawsom sgwrs gyda Kiera a'i mam Andrea.
Y llynedd, cafodd Kiera’r newyddion gwych bod ei chanser wedi lleddfu, a bellach yn 18 oed, mae hi wedi cwblhau lleoliad gwaith gyda’r uned hematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddar ac mae’n mynd i Brifysgol Caerfaddon yn ddiweddarach y mis hwn i ddechrau ei gradd mewn bioleg.
Wrth siarad am y gefnogaeth a gawsant, dywedodd Andrea: “Pan wnaethon ni ddarganfod am y tro cyntaf bod gan Kiera ganser roedd yn ofnadwy. Roedd hi'n sâl iawn ac fe ddigwyddodd y cyfan mor gyflym. Yn ffodus, roedd ein dau gyflogwr yn dda iawn am roi amser i ffwrdd i ni ond doedden ni ddim yn gwybod ble i ddechrau. Y cyfan y gallem feddwl amdano oedd 'a yw Kiera yn mynd i fod yn iawn?'.
“Gwnaeth LATCH gymryd rhan yn gyflym iawn ac roedd yn help enfawr. Aethom i mewn i'r ysbyty ar y dydd Mercher a chwrdd â Helen o LATCH ar y dydd Iau. Roedd y cyfan yn newydd iawn i ni, a doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl ond gyda’u cefnogaeth nhw, roedden ni’n gallu cael gwell dealltwriaeth o’r hyn oedd yn digwydd yn weddol gyflym.
“Fe wnaethon nhw eistedd i lawr gyda ni a siarad am y materion ariannol ac esbonio pa grantiau y gallem ni wneud cais amdanynt a beth oedd angen i ni ei wneud yn ymarferol - nid oedd hyn hyd yn oed wedi croesi ein meddwl. Trefnodd Helen archwiliad tŷ hefyd oherwydd ein bod yn gwybod y byddai angen i ni wneud addasiadau ar gyfer Kiera. Roedd y gefnogaeth ymarferol yn amhrisiadwy oherwydd roedd yn golygu ein bod yn gallu treulio mwy o amser gyda Kiera.
“Fe wnaethon nhw hefyd roi iPad i Kiera a oedd yn golygu ei bod hi’n gallu cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a oedd yn arbennig o ddefnyddiol oherwydd daeth y cyfyngiadau symud yn fuan wedyn.”
Tra roedd Kiera yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Plant Cymru, roedd Andrea a Tim yn gallu aros yn y llety LATCH sydd wedi'i leoli ar y safle yn Ysbyty Plant Cymru. Roedd y teulu hefyd yn gallu ymweld â charafán LATCH ym Mhorthcawl yn rhad ac am ddim ar gyfer gwyliau haeddiannol ar lan y môr.
“Roedd y llety mor bwysig i ni fel teulu,” meddai Andrea. “Yn anffodus, dioddefodd Kiera haint cas iawn ac roedd yn PICU cyn iddi gael ail lawdriniaeth. Roedd yn help mawr gwybod ein bod ni gerllaw ac yn cael ein cefnogi. Hyd yn oed pe baem ond yn aros am y diwrnod, roeddem yn gallu defnyddio'r gofod i gael seibiant o amgylchedd yr ysbyty a phrosesu'r hyn oedd yn digwydd.
“Unwaith roedd Kiera’n teimlo’n ddigon da, roedden ni’n gallu ymweld â charafán LATCH ym Mhorthcawl. Doedden ni ddim eisiau bod yn rhy bell o gartref felly roedd yn berffaith i ni ac roedd yn amser mor arbennig. Fe wnaethon ni syrthio mewn cariad â Phorthcawl diolch i LATCH ac mewn gwirionedd rydym yn bwriadu symud yno o Gasnewydd.
“Mae gweld Kiera nawr yn anhygoel. Aeth yn ôl i'r ysgol dim ond chwe wythnos cyn ei harholiadau Safon UG ac eleni mae wedi pasio ei harholiadau Safon Uwch. Nawr mae hi'n paratoi i symud i Gaerfaddon ar gyfer y brifysgol.”
Ar ôl gorffen ei thriniaeth ym mis Mai 2022 – flwyddyn yn gynt na’r disgwyl – bydd Kiera yn parhau i gael adolygiadau rheolaidd yn Ysbyty Plant Cymru am y pedair blynedd nesaf.
“Mae tîm Ward Roced yn teimlo fel teulu nawr,” meddai Andrea. “Mae Roced wastad wedi bod yn anhygoel gyda Kiera ac rydyn ni’n teimlo’n agos iawn i’r tîm yno. Rydyn ni wedi profi cymaint o amseroedd caled gyda'n gilydd fel ei bod bellach yn teimlo ein bod ni'n galw heibio i ymweld â theulu. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr ato, rhywbeth nad oeddwn i byth yn ei ddisgwyl.
“Rydym yn ddiolchgar iawn, iawn i bawb yn LATCH am y gefnogaeth amhrisiadwy a roddwyd i ni bob cam o’r ffordd ac i’r timau ar Ward Roced.”
I gael rhagor o wybodaeth am Elusen Canser Plant Cymru LATCH, ewch i Cartref | LATCH Elusen Canser Plant Cymru (latchwales.org).