22 Mehefin 2023
Mae mis Mehefin yn nodi Mis Pride, dathliad blynyddol o bobl LHDTC+ ar draws y byd. Nod y mis yw ceisio tynnu sylw at y rhwystrau sy’n parhau i’n hwynebu, y gwaith gwych a’r cynnydd a wnaed gan bobl y gymuned, ac addysgu bod ffordd bell i fynd o hyd cyn cyrraedd gwir degwch.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn bod pedwar o’n cydweithwyr anhygoel wedi’u henwi ar Restr Binc WalesOnline, eu dathliad blynyddol o bobl LHDTC+ mwyaf dylanwadol Cymru. Ar y rhestr eleni, dewiswyd y canlynol am eu hymdrechion eithriadol i wneud y byd yn lle gwell i bobl LHDTC+.
Ar 17 Mehefin, ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro â’r orymdaith yn Pride Cymru gyda Byrddau Iechyd eraill yng Nghymru.
Mae cydweithwyr wedi manteisio ar y cyfle i rannu rhai o’u profiadau o Pride Cymru a’r hyn y mae cefnogaeth weledol i bobl LHDTC+ yn ei olygu iddyn nhw fel aelodau o’r gymuned.
Nathan Saunders, Uwch Swyddog Llywodraethu Corfforaethol
"Dyma’r tro cyntaf i mi orymdeithio gyda GIG Cymru ac roedd yr awyrgylch yn hollol anhygoel. Fel Cadeirydd y Rhwydwaith Staff LHDTC+, roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yn bresennol, ond nid dyna’r peth pwysicaf. Mae’n ymwneud â bod yn rhan o gymuned. Cymuned amrywiol, wych, gyfeillgar a chryf.
Roedd yn anrhydedd gorymdeithio ochr yn ochr â chydweithwyr ac roedd gweld yr holl gefnogwyr yn sefyll wrth yr ochr, yn bloeddio cefnogaeth i bawb, yn brofiad eithaf teimladwy mewn gwirionedd. Mae Pride Cymru yn arddangos pa mor agored yw Dinas Caerdydd i bawb. Mae’n dangos nad yw casineb a rhagfarn yn cael eu goddef yn ein Dinas, a byddwn bob amser yn ymladd dros hynny.
Gyda’r casineb cyson yn y cyfryngau prif ffrwd tuag at y gymuned LHDTC+ (yn enwedig y gymuned draws), mae’n bwysicach nag erioed i fod mor weladwy ag y gallwn ac i’w gwneud hi mor amlwg â phosibl ein bod ni yma, rydyn ni wastad wedi bod yma ac nid ydym yn mynd i unman!"
Sally-Anne Ashdowne, Gwasanaeth Cwnsela Gofal Sylfaenol
"Mae Pride yn golygu cymaint i mi. Rwy’n ei weld fel gofod lle gall y Gymuned LHDTCRhA+ (a phawb sy’n ein cefnogi) ymgynnull a dathlu ein hunigoliaeth a’n natur unigryw ein hunain mewn ffordd gynhwysol iawn.
Mae eraill yn dweud wrthyf, “ni ddylai fod angen Pride”. Rwy’n dweud, er bod eraill o’m blaen wedi ymladd dros yr amddiffyniadau cyfreithiol a’r rhyddid yr wyf yn gallu eu mwynhau yn y wlad hon heddiw, mae cymaint o waith i’w wneud o hyd. Mae llawer ohonom yn dal i brofi gwahaniaethu ac erledigaeth mewn ysgolion, mewn gweithleoedd ac yn gyhoeddus. Gellir rhoi amddiffyniadau cyfreithiol a rhyddid ond gellir eu cymryd oddi wrthym hefyd. Mae llawer o fewn ein Cymuned mewn rhannau eraill o’r byd yn wynebu erchyllterau am fod yn nhw eu hunain.
Rwy’n mynd i ddathlu yma, nawr, fy mod i’n gallu bod yn fi fy hun go iawn! I ddiolch i’r rhai a frwydrodd dros y rhyddid rwy’n ei fwynhau heddiw ac i sefyll â fy mhen yn uchel ymhlith y rhai yn fy Nghymuned, gan ledaenu’r neges hyfryd, Cariad yw Cariad!"
Katie Rose, Cydlynydd Treialon Masnachol
"Gwylio’r orymdaith ar gyfer Pride Cymru sy’n fy atgoffa bob blwyddyn nad wyf ar fy mhen fy hun. Mae bywyd yn y DU ar hyn o bryd yn gallu teimlo’n frawychus iawn i bobl LHDTC+, ond bob blwyddyn, ar ddiwrnod gorymdaith Pride Cymru, gallaf fynd i ganol prifddinas Cymru a gweld miloedd ar filoedd o bobl sy’n union fel fi, sy’n poeni amdana i, sydd eisiau i mi allu byw fy mywyd mewn heddwch.
Rwy’n gweld timau pêl-droed a chorau LHDTC+ lleol, yn gwenu ac yn chwerthin wrth iddynt ddathlu’r diwrnod gyda’i gilydd. Rwy’n gweld grwpiau cymorth cymunedol a grwpiau ymgyrchu yn mwynhau diwrnod o ddathlu ymhell o’u gwaith caled diddiolch, diddiwedd.
Ac rwy’n gweld pobl ifanc, yn eu digwyddiad Pride cyntaf erioed, ar goll yn y llawenydd o weld eu cymuned o’u cwmpas ac yn eu cefnogi am y tro cyntaf yn eu bywydau. Rwy’n gwybod nad wyf ar fy mhen fy hun. Rwy’n gwybod y gallwn oresgyn hyn. Ac rwy’n gwybod fy mod i’n fenyw lesbiaidd drawsryweddol falch, ac ni all unrhyw un fyth dynnu hynny oddi wrthyf."
Novice Honey Imhome, Order of Perpetual Indulgence Caerdydd a chydweithiwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
"Mae’r profiad cwiar yn un eithaf unig – gall gymryd llawer o amser i ddod o hyd i chi’ch hun, ac yna dod o hyd i eraill sydd fel chi. Nid yw pobl LHDTC+ yn edrych fel unrhyw beth yn benodol, ac mae’n anodd gwybod pwy allai deimlo’r un ffordd â chi oni bai eu bod yn agored i siarad amdano. Mae pobl LHDTC+ yn cyfrif am tua 2% o’r boblogaeth a gall hynny deimlo’n fach iawn. Pryd bynnag y byddwch chi’n teimlo’n unig, cofiwch y bydd rhywun yn Pride yn siŵr o fod yn union fel chi.
I’r holl bobl sy’n cwestiynu, sydd heb ddod o hyd i’w hunain eto ond sy’n meddwl y gallai fod rhywbeth i’w archwilio, a’r rhai sy’n rhy ofnus i wneud hynny – mae Pride ar eich cyfer chi. Mae bob amser wedi bod ar eich cyfer chi. Rwy’n gobeithio eich gweld chi yn 2024!
O - a’r wisg hon? Os galla i fynd allan yn edrych fel hyn, gallwch chi fyw eich bywyd cwiar hardd fel y dymunwch hefyd. Mae pobl yn eich caru ac rydych chi’n haeddu cariad hefyd."
Blake Hayward, Radiograffydd
"Mae Pride nid yn unig yn amser i ddathlu ond hefyd yn amser i godi ymwybyddiaeth o’r materion y gallem eu profi fel rhan o’r gymuned LHDTC+. Mae’r newyddion diweddar am hysbysfwrdd Pride Bryste yn cael ei roi ar dân yn pwysleisio, er pa mor bell yr ydym wedi dod, fod ffordd bell i fynd o hyd. Gweithredoedd atgasedd bwriadol yw’r rheswm pam mae Pride yn parhau i fod yn brotest a pham y dylem i gyd fod yn bresennol i gefnogi ein gilydd."
Ym mis Chwefror eleni, fe gyrhaeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yr 80fed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, sy’n dathlu’r 100 sefydliad sy’n perfformio orau ledled y DU ar gyfer Cydraddoldeb LHDTC+.
Enillodd BIP Caerdydd a’r Fro Wobr Aur, ar ôl archwilio eu polisi cyflogaeth ac ymarfer yn ogystal â chynnal arolygon a gwblhawyd yn ddienw gan staff am eu profiadau o amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.