Neidio i'r prif gynnwy

Mis Pride 2022: Cip olwg ar ein casgliad o celf LHDTQ+

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi comisiynu gwaith celf o enwogion LHDTC+ a’r cymeriadau y maent wedi’u portreadu ar y sgrin, a gan artistiaid LHDTC+ sy’n awyddus i fynegi eu lleisiau drwy gelf. 

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro yn falch o sefyll ochr yn ochr â’r gymuned hon a bod yn gynghrair i bob cymuned LHDTC+.  

I ddathlu Pride 2022, rydym am arddangos y gwaith celf anhygoel y mae tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles wedi’i gomisiynu dros y blynyddoedd. 

Os hoffech gyfrannu at gronfa LHDTC+ Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, cliciwch yma

Cyfres o waith celf gan Nathan Wyburn | Mis Hanes LHDTC 2022 

Yn ddigon addas, y thema ar gyfer Mis Hanes LHDTC+ eleni oedd celf, ac roedd gennym bedwar darn ysblennydd i’w harddangos trwy gydol mis Chwefror, a grëwyd gan yr artist a Noddwr yr Elusen Iechyd, Nathan Wyburn. 

Gwnaed y portreadau hyn, ynghyd ag eraill, i dynnu sylw at ddyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn galendr, o Pride i Ddiwrnod Aids y Byd, Wythnos Profi HIV i Ddiwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol.  

Mae’r portreadau hyn ar eu cyfer nhw, a phawb sy’n cefnogi neu sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+. 

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o groesawu cynhwysiant a dathlu’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw yn y byd hwn sy’n newid yn barhaus. 

Gwaith celf gan Jaydan Alexander ar gyfer Diwrnod Cofio Pobl Drawsryweddol | Tachwedd 2021

 

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a BIP Caerdydd a’r Fro yn parhau i gefnogi ein cymuned drawsryweddol, drwy ein harddangosfeydd PRIDE a chynhwysiant a hefyd drwy gomisiynu gwaith celf ar gyfer Gwasanaeth Rhywedd Cymru. 

Ym mis Tachwedd 2021 gwnaethant weithio  gyda Jaydan Miles, artist trawsryweddol ar ddarn sy’n dathlu PRIDE. 

Fel ni, mae Jaydan yn credu mewn rhoi llais i’r rhai nad ydynt yn cael y cyfle i gael eu gweld yn ddigon aml, mewn byd sy’n gallu costio popeth, gan amlygu bod creadigrwydd fel dyfeiswyr cwiar yn rhywbeth y dylid rhoi gwerth arno. Ni allwn aros i rannu’r gwaith hwn gyda chi pan fydd yn barod. 

‘Wonder’ gan GUNK Illustration | Awst 2021 

Roedd Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o gomisiynu GUNK Illustration i gynhyrchu ‘Wonder’, murlun darluniadol maint A0 dwbl, wedi’i argraffu ar fwrdd, er mwyn dathlu amrywiaeth staff a chleifion yn y GIG.  

‘Together We Move’ gan Molly May Lewis | Awst 2020  

Creodd yr artist Molly May Lewis, a oedd gynt yn rhan o dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Caerdydd a’r Fro, osodiad arbennig o’r enw ‘Together We Move’ i ddathlu Pride Cymru 2020 ac arddangos y gefnogaeth barhaus a phwysigrwydd cynhwysiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  

Mae'r gosodiad yn cynnwys 40 o brintiau sgrin unigol wedi'u gosod ar bren a'u harddangos mewn fframiau wedi'u gwneud â llaw. 

Meddai Molly May: “Yn ‘Together We Move’ defnyddiais yr un ar ddeg lliw sy’n rhan o Faner Cynnydd Pride a thrwy archwilio ffurf a chyfansoddiad trwy broses sgrin-brintio, mae pob print yn gweithredu fel gwaith celf diffiniedig ynddo’i hun ond yn dod at ei gilydd i wneud cyfansoddiad llawer mwy. 

“Yn sylfaenol, mae 'Together We Move' yn symbol o unigoliaeth ond hefyd y broses o ddod ynghyd wrth i ni barhau i greu cymdeithas fwy cynhwysol. Gan gyfeirio at Faner Cynnydd Pride, mae fy ngwaith yn amlygu pwysigrwydd cymuned sydd wedi gwneud cynnydd mawr, ac sy’n parhau i wneud, ond heb anghofio bod yn rhaid i ni, gyda’n gilydd, barhau i symud ymlaen.” 

Portread o Gareth Thomas gan Nathan Wyburn | Pride 2020  

Comisiynodd Tîm y Celfyddydau waith celf arbennig o arwr rygbi Cymru, Gareth Thomas, i ddathlu Pride 2020 

Daeth Gareth allan ym mis Rhagfyr 2009 gan wneud datganiad cyhoeddus o'i rywioldeb, a oedd yn golygu mai ef oedd y chwaraewr rygbi undeb proffesiynol hoyw agored cyntaf. 

Ym mis Medi 2019, cyhoeddodd Gareth ei fod yn HIV positif gyda statws anghanfyddadwy sy'n golygu nad yw'n heintus. Y diwrnod canlynol, bu’n cystadlu yn nigwyddiad Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod, gan orffen yn safle 413 allan o 2,039, ar ôl addo “torri’r stigma” ynghylch y salwch. 

Rydym yn falch o arddangos y portread, a grëwyd gan ddefnyddio paent coch ac olion bysedd, yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. 

Portread o Gareth, a roddwyd gan gyd-ddefnyddiwr gwasanaeth | Pride 2020 

Roedd Gareth hefyd yn ddylanwad cryf ar gyd-ddefnyddiwr gwasanaeth, a fu mor garedig â rhoi portread o Gareth i gydnabod y gwasanaeth rhagorol a gafodd yn Adran Iechyd Rhywiol Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Terence Higgins.  

Roedd y defnyddiwr gwasanaeth wedi dechrau paentio yn ddiweddar fel cyfrwng i archwilio ei greadigrwydd a dysgu sgil newydd yn ystod cyfnod arbennig o heriol yn ei fywyd. 

Dilynwch ni