5 Mai 2024
Mae Mis Cerdded Cenedlaethol yn ôl ym mis Mai eleni.
Gall mynd am dro byr yn rheolaidd leihau’r risg o gyflyrau y gellir eu hatal, gan gynnwys rhai canserau, iselder, clefyd y galon a diabetes math 2.
Mae hefyd yn un o’r ffyrdd hawsaf o gadw mewn cysylltiad â’n cymuned, gan ein helpu i deimlo’n llai unig ac ynysig.
Trwy gydol y mis, mae pobl yn cael eu hannog i dreulio 20 munud yn unig yn cerdded yn ystod eu diwrnod, a dathlu hynny gyda’u teulu a’u ffrindiau.
Mae Living Streets, yr elusen ar gyfer cerdded bob dydd, wedi llunio 20 awgrym i’ch helpu i gynnwys 20 munud o gerdded yn eich diwrnod. Gallwch ddarllen amdano yma.
Ym mis Mai, bydd Wythnos Cerdded i’r Ysgol hefyd yn dychwelyd (20-24 Mai) sy’n dathlu’r manteision iechyd a chymdeithasol niferus sy’n gysylltiedig â cherdded i’r ysgol.
Os ydych chi’n chwilio am deithiau cerdded o fewn Caerdydd a Bro Morgannwg, dyma rai gwefannau defnyddiol iawn sy’n cynnwys llwybrau wedi’u cynllunio ar gyfer pobl o bob oed a gallu:
Yn ogystal, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi lansio ymgyrch gerdded mis Mai (Walk This May), sy’n annog pobl i ymgymryd â heriau codi arian yn ymwneud â cherdded drwy gydol y mis.
Gallwch gymryd rhan trwy wneud y canlynol:
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen: “Gosodwch her i chi’ch hun am y mis. Boed hynny’n cerdded 20 munud y dydd, gan osod targed o 20k erbyn diwedd y mis, neu hyd yn oed cerdded 20,000 o gamau’r dydd - ewch amdani! Ewch ati i wella eich iechyd corfforol a meddyliol a chefnogi eich ysbytai lleol ar yr un pryd.”
Gallwch helpu i godi arian drwy ymweld â thudalen JustGiving yr Elusen Iechyd yma i wneud cyfraniad, neu sefydlu eich tudalen codi arian ar-lein eich hun.