6 Medi 2023
Mae mis Medi yn nodi Mis Alzheimer y Byd, sef mis sy'n codi ymwybyddiaeth, yn addysgu ac yn annog cefnogaeth i ddementia.
Dementia yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu, gyda bron i 50 miliwn o bobl yn byw gyda dementia ar draws y byd.
Mae Cymru, yn ei Chynllun Gweithredu ar gyfer Dementia, yn gweithio tuag at ddod yn genedl ddementia-gyfeillgar, ac mae Fframwaith Dementia Cymru i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) yn diffinio gwerth y dull gofal sy’n galluogi ac sy’n canolbwyntio ar y claf, a gynigir gan bob AHP.
Mae Fframwaith Dementia Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) wedi’i ddatblygu drwy ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae’n berthnasol i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr/cefnogwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ynghyd â rheolwyr AHP, y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector a’r sector annibynnol.
Mae’r fframwaith wedi’i lunio drwy wrando ar bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u cefnogwyr, ynghyd ag arfarniad o dystiolaeth ymchwil, a safbwyntiau arweinwyr AHP. Mae’r dull system gyfan, haenog hon at ofal a chymorth yn cael ei chynnig i gyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, gan sicrhau bod pobl â dementia yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.
Gwnaeth person sy’n byw gyda dementia sylwadau ar y fframwaith, gan ddweud: “Mae’r Fframwaith Dementia Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn darparu gobaith ac anogaeth y mae mawr eu hangen i’r rhai ohonom sy’n byw gyda Dementia.
“Bydd dull gweithredu AHP ar gyfer ein gofal yn sicrhau ein bod yn cael y cymorth iawn ar ôl diagnosis ar sail gyfannol. Mae’r dull gweithredu cyfan hwn ar gyfer Gofal Dementia wedi’i datblygu drwy Gydgynhyrchu, gan geisio barn, profiadau, dymuniadau, anghenion a heriau’r rheini sy’n Byw gyda Dementia, ein Teuluoedd a’n Gofalwyr sydd wedi bod yn anhepgor wrth lunio fframwaith y gallwn deimlo’n hyderus ei fod yn addas i’r diben.”
I gael rhagor o wybodaeth am Fframwaith Dementia Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP), ewch i’r ddolen hon.